大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Awelon Croes

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Bu farw Edward y Seithfed ym 1910 a dyrchafwyd Si么r y Pumed yn frenin. 'Roedd Cymru yn Gymru frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf y dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diweddar. Pan aeth yr Eisteddfod i Gaerfyrddin ym 1911, daeth y beirdd yno i ffarwelio ag un brenin ac i goroni brenin arall ar ei orsedd. Testun cerdd y Gadair oedd 'Iorwerth y Seithfed'.

Cynhyrfu'r Dyfroedd

Cyfnod o ffyniant oedd y cyfnod Edwardaidd yn bennaf, a chyfnod o heddwch a hawddfyd. Ond 'roedd rhai yn cynhyrfu'r dyfroedd. Wrth i gadwyni Oes Victoria ddechrau datod fesul un, 'roedd merched hefyd yn sgyrnygu eu dannedd mewn protest yn erbyn y gymdeithas batriarchaidd. Er bod mwy a mwy o ferched yn chwilio am yrfaoedd fel meddygon ac athrawesau, lleiafrif oedden nhw. Dyletswyddau'r wraig oedd geni plant a chynnal teulu, rheoli'r aelwyd a gofalu am y gegin, a gadael i ddynion reoli tynged y wlad. 'Doedd dim llais gan fenywod ym mywyd gwleidyddol Prydain ond 'roedd rhai yn anghytuno 芒'r drefn. 'Gweithredoedd ac nid geiriau' oedd arwyddair bygythiol Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched. Bu'r gweithredoedd hynny yn tarfu ar weithgareddau'r 'Steddfod.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

1900 1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909 1910 1911 1912 1913

Drwy gydol y cyfnod Edwardaidd, bu'r Suffragettes yn cynnal ymgyrchoedd tanllyd o blaid cael y f么t i'r fenyw. Lle bynnag 'roedd cynulliad, 'roedd gwrthdystiad gan y Suffragettes. Daeth maes y brifwyl yn faes y brotest, ac nid am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn Llundain yr oedd canolfan y mudiad, ac yn Llundain, yn yr Albert Hall, y cynhaliwyd yr Eisteddfod ym 1909. Y gwleidyddion oedd targed y protestwyr yn Llundain. Er i A.J.Balfour gael llonydd i draddodi ei araith, bu'n rhaid i Herbert Asquith wynebu dicter y Suffragettes. 'Doedd gan feirdd yr Orsedd ddim amynedd 芒'r Suffragettes. Cododd Dyfed yr Archdderwydd ar ei draed pan oedd menywod y bleidlais yn tarfu ar araith y Prif Weinidog ac adroddodd englyn byrfyfyr:

'Benyw mewn ffrae 芒'i bonet -
          yw y fun A wna feirdd yn darget; 
    Un belen o'i gwn bwlet -
    Aiff i'r jael yn swffrajet.'

'Roedd yr englyn yn nodweddiadaol o agwedd yr hen sefydliad patriarchaidd at ymgyrchwyr y f么t. Er i Lloyd George ddatgan cydymdeimlad ag achos y merched, 'roedd o hefyd yn cyrychioli'r Llywodraeth, a tharfwyd ar ei araith yntau yn ogystal. Nid merched y bleidlais yn unig a heriai'r hen drefn yn Llundain.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yno, 'roedd Ffederasiwn Glowyr Prydain yn cefnogi bygythiad Ffederasiwn Glowyr De Cymru i streicio o ganlyniad i'r Ddeddf Wyth Awr. 'Roedd perchnogion y pyllau glo yn bygwth cwtogi cyflogau'r glowyr yn sg卯l y cwtogi ar yr oriau gwaith. Daeth y cyfle i'r Ffederasiwn ddangos ei rym ar ddiwedd degawd cynta'r ganrif, pan gododd anghytundeb rhwng perchennog pwll y Cambrian Combine yn Nhonypandy a'i weithwyr. Aeth y deuddeng mil o lowyr a gyflogid gan y pwll ar streic am bron i flwyddyn. Hwn oedd cyfnod terfysgoedd Tonypandy a streic Llanelli. Yn haf tanbaid 1911, 'roedd ymgyrch y gweithwyr dros eu hawliau yn boethach na'r hin. Os oedd y glowyr yn segur am gyfnodau hir yn ystod y blynyddoedd terfysglyd hyn, 'roedd y swffragetiaid yn fwy gweithredol nag erioed.

'Roedd 'Steddfod Wrecsam dair blynedd yn ddiweddarach yn fwy stormus na 'Steddfod Llundain hyd yn oed. Ymosodwyd ar y swffragetiaid gan y dorf, tynnwyd eu gwalltiau a rhwygwyd eu dillad. 'Roedd y dorf fel anifeiliaid gwyllt, meddai un o arweinwyr y swffragetiaid. Embaras i'r Brifwyl oedd ymyrraeth y merched, ond ni allai neb, bellach, gadw gwleidyddiaeth a diwylliant ar wah芒n. Enghraifft o'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif, oedd ymgyrch y merched. 'Roedd yr ymgyrch yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a oedd yn dechrau cyniwair drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol. Mudiad eithafol oedd mudiad y merched. 'Roedd rhai yn barod i aberthu hyd at farwolaeth i sicrhau buddugoliaeth.

Ar drothwy'r Eisteddfod olaf cyn y Rhyfel Mawr cyrhaeddodd ymgyrchoedd y mudiad uchafbwynt dychrynllyd pan daflodd Emily Wilding Davison ei hun o flaen ceffyl y Brenin yn ras y Derby yn Epsom, a chael ei lladd. Ond er bod y menywod hyn yn barod i aberthu hyd at farwolaeth i ennill eu hachos, aberth y dynion a fyddai'n sicrhau'r bleidlais i'r merched yn y pen draw.

Rhaglen 2...



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy