大象传媒

Super Furry Animals

Super Furry Animals

"Y gr诺p mwyaf disglair, dyfeisgar a chyson gerddorol-wych mae'r byd roc wedi gweld ers dyddiau'r Beatles n么l yn y 60au."

Aelodau

  • Gruff Rhys: Llais, gitar, offerynnau
  • Dafydd Ieuan: Drymiau
  • Guto Pryce: Bas
  • Huw Bunford: Gitar
  • Cian Ciaran: Electronics

Yng nghanol t诺f y grwpiau 'C诺l Cymru' yng nghanol y 90au, aeth Dafydd Ieuan (sy'n drymio gyda Catatonia) ati i berswadio Gruff Rhys i ddychwelyd o fod yn artist yn Sbaen er mwyn ffurfio band newydd. Y nod oedd manteisio ar y sylw roedd y diwydiant recordiau yn Llundain yn dangos tuag at gerddoriaeth o Gymru.

Yn syth, sicrhaodd record cynta'r grwp, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (In Space) ar label Ankst yn 1995, gytundeb recordio efo label pwysica'r cyfnod - Creation Records.

Yn wahanol i stori Ffa Coffi Pawb (gr诺p Dafydd a Gruff yn yr 80au) llwyddodd y Super Furry Animals i droi'r freuddwyd pop yn realiti. Wnaethon nhw osod eu hunain ar unwaith yng nghanol y byd 'Britpop' a mynnu sylw a chlod am greu cerddoriaeth llawn dychymyg oedd ben ac ysgwydd uwchlaw gweddill grwpiau ystrydebol y cyfnod.

Ar ddechrau ei gyrfa, recordiodd y gr诺p cyfres o albyms gwych - Fuzzy Logic (1996), Radiator (1998), a Guerilla (1999) - yn arddangos gallu arallfydol Gruff Rhys i sgrifennu clasuron pop.

Ers y cychwyn mae'r SFA wedi gweithio'n ddi-ddiwedd i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cyrraedd y gynulleifa fwya posib - gan deithio bob man ar draws y byd ac ymddangos ar bob raglen deledu o Top of the Pops i Richard and Judy. Yn 么l Gruff, "does gan y gr诺p ddim problem efo chwarae'r g锚m yma".

Mae'r g锚m yn cynnwys cludo tanc ffyri i wyliau roc, uniaethu efo Howard Marks - gwerthwr cyffuriau mwya'r byd, creu cymeriadau awyr anferth, chwarae gigs roc sy'n troi'n naturiol mewn i r锚fs ecstatig, saethu fideos pop yn Columbia, noddi clwb p锚l-droed, chwarae trwy systemau sain quadraphonic, recordio sengl sy'n cynnwys mwy o regfeydd nag unrhyw record erioed o'r blaen, a rhyddhau albym yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y siartiau Prydeinig.

Fel gr诺p maen nhw wedi swyno'r wasg a'r gynulleidfa efo'u Cymreictod naturiol a'u gallu i wyrdroi'r hen drefn ddiflas o fod mewn band, gyda deallusrwydd ac arddulliau o'r byd celf.

Rhyddhawyd yr albwm diweddaraf, Dark Days, Light Years yn 2009 (Rough Trade Records) ac ers hynny mae'r band wedi canolbwyntio ar waith unigol gyda Gruff Rhys yn arbennig o weithgar yn rhyddhau nifer o albymau fel CandyLion a Hotel Shampoo a'i brosiect llwyddiannus Neon Neon. Bu sibrydion fod y band wedi chwalu ond mae yna obaith y bydd SFA yn dychwelyd unwaith eto gydag albwm newydd yn y dyfodol agos.

Does na ddim byd sy'n arferol am y Super Furry Animals er bod eu credo yn un syml, yn 么l Gruff: "da ni'n obsessed efo miwsic a jest isio creu albyms ffantastic".

Emyr Williams


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

大象传媒 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.