|
Newidiwyd diwethaf:
06
Ebrill
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Yr Almaen ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p A: v Costa Rica 09 Mehefin 1700 BST, Munich
v Gwlad Pwyl 14 Mehefin 2000 BST, Dortmund
v Ecuador 20 Mehefin 1500 BST, Berlin
Dim ond gwallgofun fyddai'n diystyru'r Almaen wrth geisio darogan buddugwyr Cwpan y Byd 2006.
Ni fu rhaid i 诺yr Jurgen Klinsman chwarae yng ngemau rhagbrofol y bencampwriaeth ac o'r herwydd mae'r cyn ymosodwr wedi ei chael yn anodd i brofi ei allu fel hyfforddwr rhyngwladol
Bydd crasfa o America ym mis Mawrth yn si诺r o leddfu rhywfaint ar y feirniadaeth mae wedi dioddef gan y wasg Almaeneg, er mai t卯m cymharol wan oedd wedi teithio ar draws F么r yr Iwerydd ar gyfer y g锚m gyfeillgar.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Gorllewin yr Almaen i ennill y gwpan ar dri achlysur ym 1954, 1974 a 1990.
A'r fuddugoliaeth yn Y Swistir ym 1954 yn erbyn t卯m enwog Hwngari oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Ferenc Puskas, Sandor Kocsis a Jozsef Bozsik, sy'n dwyn yr atgofion melysaf yn Yr Almaen.
Wedi llwyddo i chwalu Gorllewin yr Almaen 8-3 yn y rownd agoriadol, aeth Hwngari, oedd heb golli g锚m ers pedair blynedd, 2-0 ar y blaen yn y rownd derfynol.
Ond llwyddodd Max Morlock a Helmut Rahn (2) i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i'r Almaenwyr mewn g锚m sy'n cael ei hadnabod fel Das Wunder von Bern (Gwyrth Bern).
S锚r y t卯m: Michael Ballack yw seren Yr Almaen ac wedi ysbrydoli t卯m cyffredin i gyrraedd y rownd derfynol yn 2002, nid yw'n amhosib meddwl y byddai'n gallu gwneud yr un peth yn 2006.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Byddai'n hurt i wfftio her Yr Almaen, yn enwedig o gofio eu bod yn chwarae ar eu tomen eu hunain, ond efallai bydd cyrraedd y rownd derfynol yn ormod i ofyn o garfan mor ifanc.听 听
|
|
|
|
|
|
|
|
听 听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|