|
Newidiwyd diwethaf:
09
Mai
2006
|
|
|
|
|
|
|
Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Costa Rica ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p A: v Yr Almaen 09 Mehefin 1700 BST, Munich
v Ecuador 15 Mehefin 1400 BST, Hamburg
v Gwlad Pwyl 20 Mehefin 1500 BST, Hanover
Mae Costa Rica yn ffyddiog o allu creu sioc yn Yr Almaen, er iddynt ddod allan o'r het yn yr un gr诺p 芒'r t卯m cartref.
Nid yw'r Los Ticos erioed wedi herio'r Almaen, maent wedi colli ar y ddau achlysur iddynt herio Gwlad Pwyl ac unwaith erioed maent wedi llwyddo i drechu Ecuador.
Cymrodd Alexandre Guimaraes yr awenau am yr ail dro yng nghanol y gemau rhagbrofol wrth i'r t卯m orffen yn drydydd yng ngr诺p rhagbrofol Gogledd America a'r Car卯b卯.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Llwyddodd Costa Rica i gyrraedd yr ail rownd yng Nghwpan y Byd 1990, y tro cyntaf erioed iddynt gyrraedd y bencampwriaeth, wedi iddynt drechu'r Alban a Sweden.
Yn 2002 methodd Los Ticos 芒 chamu ymlaen gan orffen 芒 gwahaniaeth goliau gwaeth na Thwrci yn y gr诺p agoriadol.
S锚r y t卯m: Paulo Wanchope yw'r chwaraewr enwocaf i ddod o Costa Rica, ac ef yw prif sgoriwr Los Ticos ac, wedi cyfnodau 芒 Derby County, West Ham a Manchester City yn Lloegr a Malaga yn Sbaen, mae Wanchope yn chwarae i glwb Al Gharfa yn Qatar.
Walter Centeno sydd yn rheoli'r chwarae yng nghanol cae i Costa Rica, ac er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i yrfa 芒 chlwb Saprissa yng Nghosta Rica, cafodd dymor ag AEK Athens yn 2002/03.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Nod Costa Rica fydd cyrraedd yr ail rownd a bydd eu hail g锚m o'r gr诺p yn erbyn Ecuador yn holl bwysig os ydynt am gyflawni'r gamp. 听 听
|
|
|
|
|
|
|
|
听 听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|