Roedd yr Archentwyr ar y blaen wedi 6 munud drwy Maxi Rodriguez.
Sgoriodd Esteban Cambasso o 12 llath i wneud hi'n 2-0 wedi symudiad gwych gan yr Ariannin welodd y b锚l yn cael ei phasio 24 gwaith.
Rhwydodd Rodriguez ei ail pum munud cyn yr egwyl, gyda Serbia a Montenegro yn ei chael hi'n anodd iawn yn erbyn yr Archentwyr.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Serbia a Montenegro wedi 64 munud pan dderbyniodd Mateja Kezman gerdyn coch wedi tacl wyllt ar Javier Mascherano.
Cwblhaodd Yr Ariannin y fuddugoliaeth yn ystod y ddeuddeg munud olaf, Hernan Crespo yn sgorio o chwe llath wedi croesiad yr eilydd Lionel Messi.
Carlos Tevez sgoriodd y bumed gyda Messi, yn chwarae ei gem gyntaf yng Nghwpan y Byd, yn rhwydo'r chweched g么l.
TIMAU
Ariannin: Abbondanzieri, Burdisso, Ayala, Heinze, Sorin, Maxi (Messi) , Mascherano, Gonzalez (Cambiasso), Riquelme, Saviola (Tevez), Crespo.
Eilyddion: Coloccini, Aimar, Cruz, Cufre, Franco, Milito, Palacio, Scaloni, Ustari.
Serbia & Montenegro: Jevric, Duljaj, Gavrancic, Krstajic, Dragutinovic, Koroman (Ljuboja), Stankovic, Nadj (Ergic), Predrag Djordjevic, Kezman, Milosevic (Vukic).
Eilyddion: Basta, Nenad Djordjevic, Dudic, Ilic, Kovacevic, Stojkovic, Vidic, Zigic.
Dyfarnwr: Roberto Rosetti (Yr Eidal)