Dydd Gwener, Mehefin, 16, 2006. Trelew, Patagonia, Yr Ariannin
Deg o'r gloch y bore a thawelwch ar y strydoedd. Mynd i'r siop - y siop ar gau. Cerdded y stryd a neb yn gyrru, neb yn cerdded, dim ceir ar y stryd.
Mynd i'r banc a chael ciw at y drws a dim ond un person yn gweithio wrth y ffenest. Mynd fyny grisiau i gael fy nhendio a phawb mewn hanner cylch o flaen y teledu.
Ie, gêm yr Ariannin yn erbyn Serbia yng Nghwpan y Byd Pêl-droed a daeth gwlad gyfan i stop.
Pawb yn eu crysau Doedd dim modd cael neb i ateb y ffôn ar ôl deg.
Tasen ni wedi mynd i unrhyw swyddfa yn Nhre Rawson, prif ddinas weinyddol y dalaith bysen ni ddim wedi wedi cael dim lwc.
Roedd pawb yn eu crysau pêl-droed a'u capiau glas a gwyn o flaen y teledu yn gwylio'r gêm.
Ym mhob ffenest siop roedd nwyddau yr Ariannin - yn gapiau, yn grysau T, yn bijamas, yn sgarffiau, siwmperi ac yn y blaen ac yn y blaen.
O gerdded i mewn i'r siopau prin oedd ar agor roedd sain y dorf i'w glywed yn glir unai ar y radio neu ar deledu wedi ei fenthyg yn unswydd i wylio Cwpan y Byd yn yr Almaen.
Daeth y gwaith ar adeiladu'r bibell ddŵr newydd o Drelew i Borth Madryn i stop am ddwy awr. Doedd dim modd eu gorfodi i weithio gan na fysen nhw'n gwneud. Mae hi mor syml â hyna.
Meddygon a nyrsus Roedd disgyblion Coleg Camwy, y Gaiman yn dathlu gan eu bod yn cael mynd adre'n gynnar i wylio'r gêm.
Roedd llawdriniaethau ar stop rhwng 9.30 y bore a 12.30 tra roedd y meddygon a'r nyrsus yn eistedd mewn cyntedd yn gwylio'r gêm.
Nid eu bod ar streic na dim byd ond doedd dim llawdriniaeth wedi ei drefnu ar gyfer yr amser yma.
Roedd pawb yn gwylio'r gêm. Ac wrth gwrs enillon ni 6-0.
Yr Ariannin. Gwlad unigryw.
|