Adroddiad i ddilyn
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r Terfynol: Awstralia 3-1 Siapan
90 +2mun: G么l - Awstralia 3-1 Siapan
Llwyddodd John Aloisi i selio'r fuddugoliaeth wrth ddawnsio heibio Yuichi Komano cyn taro'r b锚l i gornel isa'r rhwyd.
89 mun: G么l - Awstralia 2-1 Siapan
Wedi dod ag Awstralia'n gyfartal pum munud yn 么l, rhwydod Tim Cahill ag ergyd hyfryd o ochr y cwrt cosbi i roi Awstralia ar y blaen.
84 mun: G么l - Awstralia 1-1 Siapan
Methodd Siapan ag ymdopi 芒 thafliad hir i'r cwrt cosbi a manteisiodd Tim Cahill i rwydo g么l gyntaf Astralia yng Nghwpan y Byd.
83 mun: Cafwyd arbediad campus arall wrth i John Aloisi grymanu cic rydd o amgylch y mur amddiffynol.
71 mun: Wrth i Awstralia bwyso, llwyddodd Hidetoshi Nakata i wrthymosod gan garlamu i lawer yr asgell dde, ond yn ffodus i Awsralia roedd ei bas i'r cwrt cosbi tua llathen tu 么l i Atsushi Yanagisawa.
67 mun: Wrth i Awstralia geisio am y g么l i ddod yn gyfartal, mae'n rhaid i Siapan amddiffyn am eu bywydau. Lloriwyd Josh Kenedy ar ochr y cwrt cosbi yn dilyn symudiad da gan y Socceroos ac roedd angen arbediad campus gan Yoshikatsu Kawaguchi o ergyd Mark Viduka.
60 mun: Mae Guus Hiddink wedi gyrru yr ymosodwr, Josh Kennedy, i'r maes yn lle yr amddiffynnwr, Craig Moore.
52 mun: Mae chwaraewr canol cae Everton, Tim Cahill, wedi dod i'r maes i'r Socceroos yn lle Marco Bresciano
Hanner Amser: Awstralia 0-1 Siapan
40 mun: Mae'r chwarae yn hedfan o un pen i'r maes i'r llall ac mae'n anodd credu bydd y g锚m yn parhau i fod mor gyflym yn yr ail hanner.
Mae rheolwr Awstralia, Guus Hiddink, yn gandryll 芒'r penderfyniad i ganiat谩u'r g么l ac ymddengys ei fod wedi cael dadl ffyrnig 芒'r pedwerydd a phumed swyddog.
33 mun: Dawnsiodd Atsushi Yanagisawa trwy amddiffyn Awstralia, ond yn anffodus i Siapan nid oedd ei ergyd hanner cystal 芒'i rediad.
27 mun: Ceisiodd Harry Kewell ymateb yn syth i Awstralia gan grymanu ergyd grafodd y trawst.
26 mun: G么l - Awstralia 0-1 Siapan
Siapan yn mynd ar y blaen 芒 g么l hynod ddadleuol wedi Shunsuke Nakamura daro ergyd hir i mewn i'r cwrt cosbi ac wrth i Naohiro Takahara neidio yn erbyn y golwr, Mark Schwarzer, adlamodd y b锚l i gefn y rhwyd ac fe'i caniatawyd gan y dyfarnwr o'r Aifft.
24 mun: Cr毛wyd lle i Marco Bresciano ar ochr y cwrt cosbi 芒 phas gelfydd gan Mark Viduka, ond llwyddodd Yoshikatsu Kawaguchi i arbed ergyd chwaraewr canol cae Parma
20 mun: Llwyddodd Alex i greu lle i Naohiro Takahara ar ochr y cwrt cosbi a tharodd ymosodwr Hamburg ergyd hyfryd fodfeddi heibio'r postyn.
14 mun: Mae Mark Viduka'n serenu i'r Soccroos wrth iddo ddawnsio heibio dau neu dri o amddiffynwyr Siapan ond tarodd ei ergyd yn erbyn Tsuneyasu Miyamoto.
11mun: Mae Awstralia'n profi eu bod yn mynd i roi her i brif dimau Asia nawr eu bod wedi ymuno 芒'r AFC wrth i Luke Wiltshire groesi'n hyfryd o'r asgell dde ond methodd Mark Viduka 芒 chyrraedd y b锚l.
5 mun: Bu rhaid i Yoshikatsu Kawaguchi fod ar ei orau i arbed dwy ergyd gan Mark Viduka ar ochr y cwrt bach.
1 mun: Cafodd Siapan gic rydd gynnar ond tarodd Shunsuke Nakamura ei ergyd yn syth i'r mur amddiffynnol.
TIMAU
Awstralia: Schwarzer, Neill, Moore, Culina, Wilkshire, Emerton,
Grella, Bresciano, Chipperfield, Kewell, Viduka.
Eilyddion: Aloisi,
Beauchamp, Cahill, Covic, Kalac, Kennedy, Lazaridis, Milligan,
Popovic, Skoko, Sterjovski, Thompson.
Siapan: Kawaguchi, Komano, Miyamoto, Santos, Tsuboi, Nakazawa,
Fukunishi, Hidetoshi Nakata, Nakamura, Takahara, Yanagisawa.
Eilyddion: Doi, Endo, Inamoto, Kaji, Maki, Moniwa, Koji Nakata,
Narazaki, Ogasawara, Oguro, Ono, Tamada.
Dyfarnwr: Essam Abdel Fatah (Yr Aifft)