![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Newidiwyd diwethaf:
31
Mawrth
2006
|

Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Awstralia ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p F: v Siapan 12 Mehefin 1400 BST, Kaiserslautern
v Brasil 18 Mehefin 1700 BST, Munich v Croatia 22 Mehefin 2000 BST, Stuttgart
Mae cefnogwyr y Socceroos yn dal i ddioddef cur pen wedi'r dathliadau ddilynodd buddugoliaeth Awstralia ar giciau o'r smotyn yn erbyn Uruguay yn y g锚m ail gyfle yn Sydney.
A chyda nifer fawr o'u chwaraewyr yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr, mae'n debyg bydd Awstralia'n cael cryn gefnogaeth gan gefnogwyr p锚l-droed Ynysoedd Prydain.
Bydd eu g锚m olaf yn y gr诺p yn erbyn Croatia yn si诺r o fod yn un tanllyd o gofio bod cymuned Croataidd enfawr yn ninasoedd mwyaf Awstralia.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Dyma fydd ail ymddangosiad Awstralia yng Nghwpan y Byd, 32 mlynedd wedi iddynt ymddangos yng Nghwpan y Byd Gorllewin yr Almaen ym 1974.
Collodd y Socceroos yn erbyn Gorllewin a Dwyrain Yr Almaen a chasglwyd eu hunig bwynt wedi g锚m ddi-sg么r yn erbyn Chile.
S锚r y t卯m: Bydd Awstralia bron fel 15ed t卯m Ewropeaidd yn Yr Almaen gan fod cymaint o'u chwaraewyr yn ennill cyflog yng nghynghreiriau Ewrop.
Bydd cefnogwyr Caerdydd yn gyfarwydd iawn ag amddiffynnwr NAC Breda, Tony Vidmar, dreuliodd ddau dymor ar Barc Ninian, ac mae Harry Kewell a Brett Emerton yn wynebau cyfarwydd i gefnogwyr p锚l-droed Ynysoedd Prydain.
Ac mae'n anorfod bod y capten, Mark Viduka, chwaraeodd i glwb Dinamo Zagreb yng Nghroatia ac sydd 芒'i rieni'n hanu o Groatia, yn edrych ymlaen yn arw at y g锚m 芒 gwlad ei cyn deidiau.
Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Mae'r gallu gan Awstralia i orffen yn yr ail safle yn y gr诺p tu 么l i'r ffefrynnau, Brasil, a sicrhau g锚m yn erbyn Yr Eidal neu'r Weriniaeth Siec.
O gofio bod un t卯m yn synnu'r byd p锚l-droed ym mhob twrnament, mae'n ddigon posib mai'r Socceroos fydd y t卯m yna yn Yr Almaen.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![Safleoedd Allanol](/staticarchive/3edccb70411bf507e7430f017fd5c5d903ed14e5.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
听

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |