Popeth fydd angen i chi wybod am d卯m Brasil ar gyfer Cwpan y Byd 2006
Gemau Gr诺p F: v Croatia 13 Mehefin 2000 BST, Berlin
v Awstralia 18 Mehefin 1700 BST, Munich
v Siapan 22 Mehefin 2000 BST, Dortmund
Er mai nhw yw'r deiliaid, bu rhaid i Frasil chwarae yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006. Ond, wedi dweud hynny, roedd yn broses gymharol hawdd wrth iddynt golli dwy g锚m yn unig o'u 18 g锚m ragbrofol a gorffen ar frig gr诺p De America.
Hanes yng Nghwpan y Byd: Brasil yw cewri'r Gwpan ac maent wedi ennill y gystadleuaeth ar bum achlysur - ym 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002.
Maent hefyd wedi colli yn y rownd derfynol ddwywaith - ym 1950 a 1998, a Brasil yw'r unig wlad i ymddangos ym mhob cystadleuaeth. S锚r y t卯m: Mae'n anodd dewis dau neu dri chwaraewr allan o garfan sydd yn cynnwys Ronaldinho, Ronaldo, Adriano, Cafu, Kaka, Robinho ... mae cryfder Brasil yn frawychus. Barn 大象传媒 Cymru'r Byd: Mae'n anodd gweld ymhellach na Cafu wrth geisio darogan pa chwaraewr fydd yn codi'r tlws yn Berlin ar 9 Gorffennaf.
|