Harry Kewell sgoriodd g么l hwyr Awstralia mewn g锚m gyffrous yng Ngr诺p F.
Roedd Darijo Srna wedi rhoi Croatia ar y blaen gyda chic rydd.
Ond daeth Awstralia yn gyfartal cyn yr egwyl. Craig Moore yn sgorio o'r smotyn wedi i Stjepan Tomas lawio croesiad.
Roedd Croatia yn 么l ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner gyda'r golwr Zeljko Kalac yn gwneud smonach wrth ildio ergyd Nico Kovac.
Sgoriodd Kewell gydag ychydig dros deg munud yn weddill, ond doedd y ddrama ddim ar ben.
Cafodd Dario Simic a Brett Emerton eu gyrru o'r maes yn ystod y deg munud olaf.
Yn y funud olaf gwelodd amddiffynnwr Croatia, Josip Simunic ei drydydd cerdyn melyn o'r noson.
Roedd y dyfarnwr Graham Poll wedi gwneud camgymeriad drwy beidio ei yrru o'r maes rhai munudau ynghynt.
PRIF DDIGWYDDIADAU
Sg么r terfynol - Croatia 2-2 Awstralia
90 mun: Cerdyn coch - Simunic (Croatia)
85 mun: Cerdyn coch - Brett Emerton (Awstralia)
84 mun: Cerdyn coch - Dario Simic (Croatia)
79 mun: G么l - Croatia 2-2 Awstralia
Harry Kewell yn unioni'r sg么r, fyddai'n ddigon i sicrhau lle Awstralia yn yr 16 olaf.
56 mun: G么l - Croatia 2-1 Awstralia
Golwr Awstralia, Zelko Kalac yn gwneud smonach o ergyd Kovac.
Hanner amser - Croatia 1-1 Awstralia
38 mun: G么l - Croatia 1-1 Awstralia
Craig Moore yn sgorio o'r smotyn wedi Tomas lawio'r b锚l.
2 mun: G么l - Croatia 1-0 Awstralia
Darijo Srna yn sgorio gyda chic rydd.
TIMAU
Croatia: Pletikosa, Simic, Tudor, Tomas, Simunic, Srna, Nico Kovac, Babic, Kranjcar, Prso, Olic.
Eilyddion: Balaban, Bosnjak, Butina, Didulica, Klasnic, Ivan Leko, Jerko Leko, Modric, Seric, Tokic, Vranjes.
Awstralia: Kalac, Neill, Moore, Chipperfield, Emerton, Grella, Culina, Cahill, Sterjovski, Kewell, Viduka.
Eilyddion: Aloisi, Beauchamp, Bresciano, Covic, Kennedy, Lazaridis, Milligan, Popovic, Schwarzer, Skoko, Thompson, Wilkshire.
Dyfarnwr: Graham Poll (Lloegr)