Mae'r canlyniad yn golygu bod Yr Almaen wedi sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.
Roedd Ecuador ar y blaen wedi wyth munud diolch i beniad Carlos Tenorio yn dilyn croesiad Luis Valencia.
Aethant ymhellach ar y blaen pan ergydiodd Agustin Delgado yn fuan yn yr ail hanner.
Cwblhawyd y fuddugoliaeth yn yr amser ychwanegwyd ar gyfer anafiadau gyda Ivan Kaviedes yn rhwydo gyda foli o chwe llath.
TIMAU
Ecuador: Mora, De la Cruz, Reasco, Espinoza (Guagua) , Hurtado, Castillo, Valencia (Urrutia), Edwin Tenorio, Mendez, Carlos Tenorio (Kaviedes), Delgado.
Eilyddion: Villafuerte, Perlaza, Lara, Borja, Ambrossi, Ayovi, Saritama, Lanza, Benitez.
Costa Rica: Porras, Gonzalez (C Hernandez), Umana, Wallace, Marin, Fonseca (Saborio), Centeno (Bernard), Solis, Sequeira, Wanchope, Gomez.
Eilyddion: Drummond, Bolanos, Azofeifa, Badilla, Nunez, Rodriguez, Alfaro, Mesen.
Dyfarnwr: Coffi Codjia (Benin).