Yr Iseldiroedd aeth ar y blaen wedi 23 munud, gyda chic rydd wych gan van Persie.
Bedair munud yn ddiweddarach aethant ymhellach ar y blaen pan rwydodd van Nistelrooy.
Roedd 'na lygedyn o obaith i Cote d'Ivoire pan ergydiodd Bakari Kone o 25 llath wedi rhediad cryf i leihau'r fantais.
Ond serch hynny mae'r t卯m o Affrica allan o'r gystadleuaeth gydag ail fuddugoliaeth i d卯m Marco Van Basten yn sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.
TIMAU
Yr Iseldiroedd: Van der Sar, Heitinga (Boulahrouz), Ooijer, Mathijsen, Van Bronckhorst, Van Bommel, Sneijder (Van der Vaart), Cocu, Van Persie, Van Nistelrooy (Landzaat), Robben.
Cote d'Ivoire: Tizie, Eboue, Kolo Toure, Meite, Boka, Zokora, Gneri Yaya Toure, Romaric (Yapi Yapo), Arouna Kone (Akale), Bakari Kone (Dindane), Drogba.
Dyfarnwr: Julian Oscar Ruiz Acosta (Colombia).
|