Sg么r Terfynol - Mecsico 3-1 Iran
86 mun: Luis Perez yn cwympo yn y cwrt cosbi - ond y dyfarnwr o'r Eidal yn ei anwybyddu.
79 mun: G么l - Mecsico 3-1 Iran
Antonio Zinha yr eilydd yn rhoi Mecsico ymhellach ar y blaen gyda peniad, yn dilyn croesiad Mendez. Zinha ddechreuodd a gorffennodd y symudiad.
76 mun: G么l - Mecsico 2-1 Iran
Omar Bravo yw'r arwr unwaith yn rhagor gan roi Mecsico ar y blaen am yr eildro.
62 mun: Iran yn eilyddio wrth i Mehrzad Madanchi ddod ymlaen i'r maes yn lle Ali Karimi.
62 mun: Mehdi Mahdavikia yn ergydio dros y trawst, pan oedd nifer o'i gyd chwaraewyr mewn safleoedd gwell yn y cwrt cosbi.
57 mun: Mecsico yn hawlio cic o'r smotyn wedi i Marquez gael ei lorio yn ddisymwth gan Golmohammadi yn y cwrt cosbi - ond y dyfarnwr yn ei anwybyddu.
55 mun: Mahdavikia yn ergydio o bell, ond ei ergyd ddim yn trafferthu'r golwr Sanchez.
50 mun: Mecsico yn gorfod gwneud newid arall i'w t卯m gyda Jared Borgetti yn gorfod gadael y maes oherwydd anaf. Jose Fonsenca ddaw i'r maes yn ei le.
46 mun: Ricardo La Volpe yn gwneud dau newid i d卯m Mecsico gyda Luis Perez a Antonio Zinha yn dod ymlaen i'r maes yn lle Torrado a Franco.
Hanner amser - Mecsico 1-1 Iran
36 mun: G么l - Mecsico 1-1 Iran
Y golwr Oswaldo Sanchez yn methu delio gyda chic gornel a manteisiodd Yahya Golmohammadi ar y b锚l rhydd gan daro'r b锚l i do'r rhwyd o chwe llath.
28 mun: G么l - Mecsico 1-0 Iran
O gic rhydd Pavel Pardo, Guilermo Franco yn penio fewn i'r cwrt bach ac Omar Bravo yn rhwydo i roi Mecsico ar y blaen.
23 mun: O gic gornel Pardo, Marquex yn penio dros y trawst.
13 mun: Peniad gwan Franco i Fecsico ddim yn poeni Mirzapour rhyw lawer.
10 mun: Hashemian yn dod yn agos i roi Iran ar y blaen ddwywaith mewn mater o eiliadau. Y tro cyntaf yn methu cysylltu wedi croesiad o'r asgell dde, ac yna ei beniad yn cael ei arbed gan Sanchez.
3 mun: Ergyd o 25 llath gan Mahdavikia o Iran yn mynd heibio'r postyn.
TIMAU
Mecsico: Sanchez, Salcido, Mendez, Osorio, Pineda, Marquez,
Torrado, Pardo, Franco, Borgetti, Bravo.
Eilyddion: Arellano, Castro,
Corona, Fonseca, Garcia, Guardado, Morales, Ochoa, Perez,
Rodriguez, Suarez, Zinha.
Iran: Mirzapour, Golmohammadi, Rezaei, Kaabi, Nosrati,
Mahdavikia, Nekounam, Karimi, Teymourian, Hashemian, Daei.
Eilyddion: Bakhtiarizadeh, Borhani, Enayati, Kazemeian, Khatibi, Madanchi,
Roudbarian, Sadeqi, Shojaei, Talebloo, Zandi.
Dyfarnwr: Roberto Rosetti (Yr Eidal)