Aeth y Sbaenwyr ar y blaen wedi 13 munud wrth i Xabi Alonso rwydo 芒'i ben o gic cornel a dyblwyd y fantais munud yn ddiweddarach wrth i gic rydd David Villa wyro oddi ar y mur amddiffynnol a heibio Oleksander Shovkovsky.
Cafwyd penderfyniad hynod ddadleuol gan y dyfarnwr o'r Swistir, Massimo Busacca, ddangos cerdyn coch i Vladislav Vashchuk am drosedd honedig ar Fernando Torres yn y cwrt cosbi.
I rwbio halen i'r briw i Wcrain, llwyddodd Villa i rwydo o'r smotyn a chwblhawyd y chwalfa 芒 g么l orau'r prynhawn wrth i Fernando Torres daro chwip o ergyd yn dilyn gwaith bendigedig yng nghanol cae gan Carlos Puyol.
TIMAU
Sbaen: Casillas, Pernia, Puyol, Sergio Ramos, Pablo, Xavi, Alonso, Senna, Luis Garcia, Villa, Torres.
Eilyddion: Albelda, Antonio Lopez, Canizares, Fabregas, Iniesta, Joaquin, Juanito, Marchena, Raul, Reina, Reyes, Salgado.
Wcrain: Shovkovskiy, Nesmachniy, Yezerskiy, Rusol, Vashchuk, Tymoschuk, Gusev, Gusin, Rotan, Shevchenko, Voronin.
Eilyddion: Byelik, Chigrynskiy, Kalinichenko, Milevskiy, Nazarenko, Pyatov, Rebrov, Shelayev, Shust, Sviderskiy, Vorobey, Yatsenko.
Dyfarnwr: Massimo Busacca (Y Swistir)