Sean Finning o Awstralia gafodd y fedal aur 芒 137 pwynt yn y ras 40km dros 160-lap, ond cafwyd r芒s dactegol dda iawn gan y Cymro ifanc, Geraint Thomas, wrth iddo gasglu'r efydd.
Daeth cyn pencampwr iau'r byd o fewn trwch blewyn i gipio'r fedal arian ond bu rhaid iddo fodloni ar yr efydd wedi Hayden Roulston o Seland Newydd ennill y gwibiad olaf ond un 芒 chasglu pwyntiau llawn.
>
Thomas wrth ei fodd 芒'i fedal
Roedd Nicole Cooke wedi tynnu allan o'r ras bwyntiau i ferched er mwyn canolbwyntio ar y ras l么n yn ddiweddarach yn y Gemau.
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Gwener 17 Mawrth
BOCSIO
Methodd Aaron Thomas 芒 chamu heibio'r rownd gyntaf o'r gystadleuaeth bocsio wrth Fundo Chifundo Mihura o Malawi ennill 23-17.
Roedd y Cymro'n hynod siomedig yn enwedig o gofio ei fod ar y blaen wedi'r tair rownd agoriadol, ac mae t卯m Cymru yn ystyried apelio y erbyn y sgorio yn ei ornest.
Ond llwyddodd Jamie Crees i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y pwysau is-welter (64kg) wrth chwalu Carl Leviticus Heild o'r Bahamas 26-9.
NOFIO
Gorffennodd Lowri Tynan yn wythfed yn rownd derfynol y 50m dull broga wrth i Leisel Jones o Awstralia gipio'r aur.
Ac wedi sefydlu record Brydeinig ar ei ffordd i'r rownd derfynol, wythfed oedd Rhiannon Henry yn rownd derfynol y 50m dull rhydd EAD hefyd.
RYGBI 7-POB-OCHR
Mae record anhygoel Seland Newydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn parhau wedi iddynt drechu Lloegr yn y rownd derfynol.
Nid yw'r Crysau Duon wedi colli g锚m 7-pob-ochr ers i'r gamp cael ei gyflwyno i'r gemau yn Kuala Lumpur ym 1998.
Roedd Lloegr wedi synnu nifer o'r gwybodusion wrth drechu Fiji yn y rownd gynderfynol ond roedd Seland Newydd yn rhy gryf i'r Saeson.
> Aur i'r crysau Duon
Roedd rhywfaint o gysur i Gymru wedi iddynt golli yn erbyn Fiji yn rownd yr wyth olaf wrth iddynt ennill rownd derfynol y pl芒t yn erbyn De Affrica.
Wedi maeddu Samoa 26-17 yn y rownd gynderfynol, cafwyd ceisiau gan Rhys Williams, James Hook, Johnny Vaughton, Tal Selley a Rhys Oakley wrth i Gymru ddod yn 么l a threchu'r Boks 29-28 mewn g锚m hynod gyffrous.
Yn rownd derfynol y bowlen cafwyd sioc wrth i Kenya drechu Tonga 26-12.
SBONCEN
Mae'r Cymry allan o gystadleuaeth senglau'r dynion wedi Alex Gough a Gavin Jones golli eu gemau yn erbyn James Willstrop a Lee Beachill o Loegr.
A cholli oedd hanes Tegwen Malik yn nhrydedd rownd cystadleuaeth y merched wrth i Linda Elriani o Loegr brofi'n rhy gryf i'r Gymraes.
TENIS BWRDD
Llwyddodd t卯m dynion Cymru i barhau 芒'u record 100% wrth i Adam Robertson, Ryan Jenkins a Stephen Jenkins drechu timau Tuvalu a Sri Lanka yng Ngr诺p C.
Ac mae'r Cymry bron yn sicr o'u lle yn rownd yr wyth olaf wedi trechu Lloegr 3-2 i esgyn i frig y gr诺p.
Roedd siom i d卯m merched Cymru wrth iddynt golli 3-1 yn erbyn India. Siwan Davies oedd yr unig aelod o'r t卯m i ennill ei g锚m.
Ond llwyddodd y merched i daro'n 么l gan drechu Fiji 3-0.