Llwyddodd David Roberts i gipio medal efydd yn y pwll nofio yn ras y 100m EAD dull rhydd gan orffen tu 么l i Matthew Cowdrey o Awstralia a Benoit Huot o Canada.
> Roberts wrth ei fodd
Ac yn gynharach yn y dydd llwyddodd Beverley Jones i orffen yn drydydd ar y trac athletau yn y 100m i athletwyr ag anabledd yng nghategori T37.
Ond roedd siom i d卯m tenis bwrdd dynion Cymru wrth iddynt golli yn erbyn Nigeria yn y g锚m am y fedal efydd.
> Siom i d卯m tenis bwrdd Cymru
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Llun 20 Mawrth
ATHLETAU
Asafa Powell o Jamaica enillodd ras fawr y dydd wrth gasglu'r aur yn y 100m i ddynion.
Nid oedd dyn cyflymaf y byd erioed wedi enill medal mewn un o prif bencampwriaethau athletau'r byd cyn cyrraedd Melbourne.
Ond casglodd yr aur yn gymharol gyfforddus ag amser o 10.30 eiliad.
>
Aur i Powell yn y 100m
Llwyddodd Robert Mitchell i sicrhau ei le yn rownd derfynol y naid uchel ddydd Mercher 芒 naid o 2.15m yn y rowndiau rhagbrofol fore Llun.
A roedd Hayley Tullett yn gyfforddus wrth ennill ei rownd rhagbrofol o'r 1500m er mwyn sicrhau ei lle yn rownd derfynol.
Tullett yw'r unig athletwraig yn y rownd derfynol sydd wedi rhedeg yn gynt na phedwar munud a bydd yn un o'r ffefrynau am y fedal aur fore Mawrth.
Roedd Carys Parry yn chweched yn rownd derfynol y Taflu Gordd a seithfed oedd Julie Hamzah yn rownd derfynol y Taflu Pwysau tra'n eistedd EAD.
Methodd Gareth Warburton 芒 chamu heibio rownd agoriadol y 400m ac yn y 400m i ferched roedd siom i Catherine Murphy wrth iddi orffen yn chweched yn ei rownd gynderfynol.
Roedd siom hefyd i Neville Bonfield yn y 100m EAD T12 wrth iddo fethu 芒 chyrraedd y rownd derfynol.
BOCSIO
Roedd yn fore llwyddiannus arall i Gymru yn y sgw芒r bocsio wrth i Matthew Edmonds a Darren Edwards gamu ymlaen i rownd yr wyth olaf.
Bydd Edmonds yn wynebu Louis Richard Bruno Julie o Mauritius yn y pwysau bantam (54kg) tra bydd Edwards yn herio Eddey Kalai o Malaysia yn y pwysau plu (57kg).
GYMNASTEG
Methodd Jessica Grazzi 芒 chipio medal efydd yn y llofneidio i ferched o drwch blewyn.
NOFIO
Llwyddodd David Davies i ennill ei ras rhagbrofol o'r 1500m dull rhydd yn gyfforddus er mwyn sicrhau ei le yn y rownd derfynol fore Mawrth.
Camodd Owen Morgan ymlaen i rownd gynderfynol y 50m dull rhydd lle gorffennodd yn seithfed.
Ond roedd siom i Thomas Haffield a Jazmin Carlin wrth iddynt fethu 芒 sicrhau eu lle yn eu rowndiau terfynol.