|
|
|
G诺yl Pwrim yr Iddewon Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am 诺yl sydd wedi ei seilio ar hanes Esther |
|
|
|
Yng Nghymru, ar noson Calan Gaeaf - g诺yl ag iddi wreiddiau Cristnogol a Cheltaidd - y mae'r plant yn mwynhau gwisgo i fyny ac ymddwyn braidd yn ddireidus.
Mae angen ar bob plentyn i wneud hyn o leiaf unwaith y flwyddyn gan gynnwys plant Iddewig!
Ac ar y Pwrim maen nhw'n gwneud hynny - g诺yl sy'n digwydd ar ddechrau'r gwanwyn.
Hen Bersia G诺yl yw hon i goff谩u Iddewon o'r Hen Bersia a oroesodd gynllun i gael gwared 芒 nhw i gyd.
Mae'r digwyddiadau hyn i'w gweld yn llyfr Esther yn y Beibl.
Wyddom ni ddim a yw'r hanes yn wir ac ni chrybwyllir blynyddoedd y stori yn y llyfr.
Does yna ddim gwybodaeth ychwaith am y Brenin Achashverosh ymysg brenhinoedd Persia ond mae'n bosibl mai Artaxerxes II (404 - 359 CC) a olygir.
Haman, gweinidog y brenin, oedd am ladd yr Iddewon a chafodd ganiat芒d gan y brenin i grogi'r Iddewon oll.
Bwrw coelbren Er mwyn darganfod pa ddiwrnod yr oedd y duwiau eisiau i Haman ladd yr Iddewon bwriodd goelbren ac fe syrthiodd honno ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis Hebreig, Adar.
Dyma ddyddiad y Pwrim ym mis Mawrth bob blwyddyn.
"Pwr" yw'r Hebraeg am goelbren a "Pwrim," "coelbrennau".
Ond pan ddaeth merch Iddewig o'r enw Esther yn frenhines difethodd gynllun Haman gyda chymorth ei hewythr Mordechai - a oedd gynt wedi achub bywyd y brenin.
Ar ddiwedd yr hanes caiff Haman a'i deulu eu crogi ar yr union grocbren oedden nhw wedi'i baratoi ar gyfer yr Iddewon!
Cynnal part茂on Felly, yn Israel, ac mewn cymunedau Iddewig ar hyd a lled y byd, cynhelir part茂on mewn ysgolion, synagogau, cartrefi preifat a chan fudiadau ieuenctid ac hyd yn oed mewn gweithleoedd.
Bydd y plant yn mynd i'r ysgolion wedi eu gwisgo nid yn unig fel y Frenhines Esther neu Mordechai ond fel pobl enwog eraill, cymeriadau cart诺n neu mewn rhyw wisgoedd eraill.
Byddant 芒 phecynnau bwyd yn eu dwylo i'w rhoi i'w ffrindiau ysgol.
Uno pobl Oherwydd i Haman gynllunio i ladd yr Iddewon i gyd gyda'i gilydd ac oherwydd iddynt oroesi i gyd, mae'r Pwrim yn draddodiad sy'n uno pobl.
Rydym ni'n rhoi anrhegion bwyd i ffrindiau a chymdogion, ac hefyd i bobl dlawd.
"Oznei Haman" (clustiau Haman!) - bisgedi trionglog sy'n cynnwys llanwad wedi'i wneud o hadau, siocled, cnau neu ddatys ydy bwyd traddodiadol y Pwrim.
Darllenwn o lyfr Esther yn y synagog - mae'n cael ei alw yn Megila sy'n golygu 蝉驳谤么濒 yn Hebraeg gan ei fod wedi ei ysgrifennu ar un darn o femrwn yn hytrach nag mewn llyfr arferol.
A phan fo'r darllenydd yn dweud enw Haman mae'r plant yn gwneud s诺n ofnadwy rhag clywed yr enw!
Mae'r Megila yn unigryw achos ei fod yr unig lyfr yn y Beibl nad yw'n s么n Duw.
Yn ogystal 芒 hyn, dydy e ddim yn s么n am wlad Israel, sy'n rhyfedd o safbwynt Iddewig.
Adroddiad gwrth-Semitiaeth pur ydy'r hanes Pwrim.
Ond mae gwers ynddo i'n cyfnod ni a'r sefyllfa wleidyddol bresennol.
|
|
|
|
|
|