Bu Cymraes yn s么n ar y radio beth sy'n gwneud cred ac athrawiaeth Tystion Jehofa yn ddeniadol iddi hi.
Pan yn blentyn yng Nghwm Rhondda dywedodd Meira Bebb sy'n awr yn byw ym Mangor iddi gael magwraeth grefyddol draddodiadol Gymreig gan fynychu'n selog y capel lle'r oedd ei thad yn flaenor ac yn ysgrifennydd.
"Roedd traddodiad capel yn y teulu," meddai gan ddweud i'w thad-cu hefyd fod yn aelod blaenllaw o'r capel.
Ac yr oedd Meira wedi gadael coleg a magu ei theulu ei hun cyn troi at Dystion Jehofa.
Ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ddydd Sul 11 Tachwedd 2007 bu'n s么n sut y digwyddodd hynny a pham.
Adnod ar gyfer popeth
"Fe fydden nhw [y Tystion] yn galw a mi fyddwn yn eu ffeindio yn bobl ddiddorol iawn . . . yn wastad yn gallu trafod unrhyw bwnc oeddech chi'n gofyn amdano ac yn wastad yn rhoi agwedd y Beibl ichi ac roeddwn i wrth fy modd gyda hynny," meddai.
Tangnefeddwyr "Yr oedden nhw yn gallu ffeindio'r adnodau oedd yn berthnasol i'r pwnc oeddem ni'n drafod," ychwanegodd.
"Beth wnaeth argraff gref iawn arnaf oedd nad oedden nhw yn ymladd. Roedden nhw'n dangnefeddwyr yn yr ystyr yna . . . ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y Tystion yn yr Almaen i gyd yn y concentration camps oherwydd iddyn nhw wrthod ymladd dros Hitler [ac] yn gwrthod ymuno a'r byddinoedd.
"Roeddwn i'n meddwl; fod hynny'n ddewr iawn ar eu rhan nhw - yn debyg iawn i eiriau Iesu pan ddywedodd o; Does dim cariad mwy na hyn, na bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.
"Mae'n cymryd dewrder mawr i sefyll lan o flaen llys a dweud nad ydych chi ddim eisiau lladd rhywun. Ac wedyn yn y gymuned, dydyn nhw ddim yn hoff o bobl felly," meddai.
Credu yn y Beibl "Ond peth arall a wnaeth argraff fawr arnaf i oedd eu bod nhw yn credu y Beibl. Er enghraifft doeddwn i ddim wedi cyfarfod 芒 neb yn y capel oedd yn credu yng ngardd Eden [nac yn] credu yn Adda ac Efa a dyma fi'n awr yn siarad efo rhywun oedd yn credu - oedd yn derbyn yr hanes yn Genesis - ac os ydych chi yn darllen yr ail bennod, adnod 17, [na] fuasai marwolaeth yn digwydd dim ond petai Adda ddim yn dilyn cyfarwyddid Duw y casgliad . . . yw mai bwriad Duw ar gyfer dyn oedd iddo fyw mewn paradwys mewn iechyd yn ei lawnder.
"A hyn hefyd i'r epil yn ei lwynau - dim ond iddo gymryd a derbyn ei wneuthurwr yn ben-arglwydd arno.
Disgrifiodd y Beibl fel llyfr "ysbrydoledig" i'w gredu a'i ddilyn yn llwyr.
"Naill ai rydych yn ei gredu ac yn ei dderbyn neu dydych chi ddim. Nawr os nad ydych chi, does dim byd gan y Beibl i'w gynnig - jyst llenyddiaeth ydi e - ond os yw e'n ysbrydoledig mae pob adnod yn bwysig ac felly mae'r hanes am gychwyn dyn ar y ddaear hefyd yn rhoi ichi hanes cychwyn perffaith dyn.
"Ac felly efo Adda, [cafodd] epil Adda eu geni y tu allan i Ardd Eden gyda dioddefaint a salwch a marwolaeth yn eu disgwyl nhw.
"Felly, mae'r Beibl yn esbonio cyflwr truenus dyn heddiw oherwydd does dim byd wedi newid ar 么l hynny," meddai.
Trallwyso gwaed Yr oedd Mrs Bebb yn cael ei holi yr un wythnos y bu hanes yn y wasg am ferch ifanc o'r Tystion yn marw wedi iddi wrthod trallwysiad gwaed wedi rhoi genedigaeth i efeilliaid.
I'r Tystion mae trallwysiad gysfystyr 芒 "bwyta" gwaed gydag adnod yn y Beibl yn gwahardd hynny.
Pwysleisiodd Mrs Bebb nad "knee jerk reaction" oedd penderfyniad y ferch ac ychwanegodd na ellid deall y penderfyniad dim ond o ddeall hefyd bwysigrwydd gwaed i'r Tystion a dealltwriaeth o ufudd-dod dyn i Dduw a phwysigrwydd "penarglwyddiaeth Duw ar fywyd dyn".
"Nawr, dyna oedd pwrpas yr aberthau yn y deml a'r tabernaclau [yn y Beibl] - rhaglunio aberth Crist oedden nhw," meddai.
"Roedd Duw wedi trefnu ar gyfer prynu n么l y ddynoliaeth oedd wedi cael ei geni y tu allan i Eden i fyw am byth mewn Paradwys felly mae gwaed yn sanctaidd o safbwynt Duw. Mae gwaed Crist yn sanctaidd o safbwynt Duw.
"Nawr yn Actau . . . mae'n dweud pan gafodd y gynulleidfa Gristnogol ei ffurfio am y tro cyntaf fod cadw rhag gwaed yn un o ofynion dod yn aelod o'r gynulleidfa Gristnogol," meddai.
A chan fod trallwyso gwaed gyfystyr yn ngolwg y Tystion 芒 "bwyta gwaed" dywedodd, "Dydych chi ddim fod i gymryd trallwysiad cyfan o waed i'r corff."
Profiad personol
Dywedodd wrth John Roberts iddi hithau fod mewn sefyllfa debyg i'r ferch ifanc a fu farw adeg geni un o'i phlant hi:
"Mi gefais i y fath achlysur pan anwyd fy mhedwerydd mab - aeth rhywbeth o'i le yn yr enedigaeth ac roedd angen operation arnaf yn syth a dywedais fy mod yn un o'r Tystion a dyna ffws ofnadwy; fyddech chi byth yn credu.
"Doedd neb efo fi, doedd dim Beibl efo mi doedd dim byd dim ond y safiad a dywedais nad oeddwn eisiau gwaed ac yn y diwedd roedd yn rhaid iddyn nhw roi y driniaeth a dyna fy mhrofiad personol i.
"Mi wnes i safaid ac mi ges i driniaeth ardderchog a dim problemau o gwbl wedyn.
"Ond mae'r pethau yma yn gallu digwydd mewn eiliad ac mae'n rhaid ichi fod yn barod am yr achlysur yma felly os ydych chi eisiau gwir ateb i'ch cwestiwn - oherwydd mae o yn gwestiwn dyrys - dyna i bwy i ofyn, y merched a'r gwragedd sydd yn disgwyl plentyn ac wedi gwneud paratoadau efo'r surgeon, efo'r anaesthetist, yn barod."
Eglurodd bod y "paratoad" yn cael ei wneud nid yn ystod unrhyw argyfwng ond "cyn eich bedyddio".
"Pan ydych yn ystyried y gwahanol bynciau o safbwynt y Beibl naill ai rydych yn ei dderbyn e neu dydych chi ddim ac os ydych yn ei dderbyn e rydych yn ei dderbyn . . . Mater o egwyddor ydi o, mater o ffyddlondeb i egwyddor," meddai.
|