|
|
|
Scientoleg 'Crefydd yr hunan' |
|
|
|
Gydag agor canolfan gwerth 拢10m gan y mudiad Scientology yn Llundain ddydd Sadwrn, Hydref 21, 2006, bu Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr ac un a fu'n ddarlithydd ar fudiadau crefyddol o'r fath yn egluro ar Bwrw Golwg natur ac ap锚l Scientoleg:
Mudiad cyfoethog "Mae o'n fudiad aruthrol o gyfoethog . Mae o hefyd yn fudiad sy'n genhadol yn ei ffordd a phob amser yn chwilio am gyfleon i apelio at bobl ac i wneud eu marc ar y gymuned."
Yr unigolyn i wella'i hun - am bris:
"Yr hyn maen nhw yn ei ddysgu mewn gwirionedd ydi y dylai yr unigolyn ddatblygu ei hunan a be maen nhw'n wneud ydi cynnig yr help i wneud hynny.
"Mae hynny, ynddo'i hun, yn swnio'n ddigon diniwed ond mae yna honiadau wedi cael eu gwneud yngl欧n 芒'r mudiad yma - ac rydw i'n pwysleisio mai honiadau ydyn nhw - mai mudiad ydi o sy'n cynnig y gwasanaeth am bris ac mae'r pris yn tueddu i fod yn uchel."
Y ddysgeidiaeth:
"Y ddysgeidiaeth sylfaenol ydi ein bod ni . . . yn storio atgofion ar ffurf lluniau yn y meddwl gyda'r atgofion dymunol yn mynd i'r cof dadansoddol a'r atgofion annymunol yn mynd i'r cof adweithiol.
"A'r syniad ydi fod y cof adweithiol yma yn eich dal chi'n 么l, yn eich gwneud chi'n amheus ac yn peri afiechydon hyd yn oed - a'r hyn mae Scientoleg yn ei gynnig ydi cyrsiau sydd wedi'u hanelu at ddileu y meddwl adweithiol yn yr unigolyn a'i ryddhau o i fod yn ddadansoddol."
Gwaith drud:
"Maen nhw [y cyrsiau] yn ddrud a dyna un o'r cwynion mwyaf sydd wedi bod am y mudiad yma.
"Hynny yw, os ydi rhywun yn meddwl yn wrthrychol ac yn dweud y gall unigolyn wella ei sefyllfa ei hun trwy roi trefn ar ei feddwl a rhoi trefn ar ei fywyd a goresgyn atgofion annymunol y gorffennol dydw i ddim yn meddwl y byddai yna neb a fyddai'n gwrthwynebu hynny ond beth sydd yn dueddol o ddigwydd, yn 么l yr honiadau yr ydym ni'n eu clywed, ydi fod y mudiad yn targedu pobl fregus yn eu hamgylchiadau amrywiol ac wedyn, unwaith fod cysylltiad wedi'i wneud, eu bod yn gydyn iawn fel mudiad i'w rhyddhau a'u gadael nhw i fynd.
"Mae yna adroddiadau wedi bod ar y cyfryngau sydd yn honni bod pobl wedi mynd i ddyledion mawr yn trio goresgyn eu hamgylchiadau mewn ufudd-dod i'r cyfarwyddyd maen nhw wedi'i gael gan y mudiad yma."
Y Sylfaenydd:
"Fel mae'r enw yn awgrymu - scient - oleg - rhyw gyfuniad o athroniaeth a gwyddoniaeth ydi o yn 么l sylfaenydd y mudiad, L Ron Hubbard.
"Cafodd ei eni yn yr America ac a oedd yn awdur ffuglen wyddonol ar un adeg ac fel roedd ail hanner yr ugeinfed ganrif yn dechrau fe gyhoeddodd lyfr o'r enw Dianetics - the modern science of mental health ac fe drodd hwn yn llyfr poblogaidd ac o hwnnw y mae Scientoleg wedi datblygu.
"Beth wnaeth o mewn gwirionedd oedd ail frandio Dianetics a rhoi enw newydd iddo fo oedd o'n meddwl fyddai'n apelio fwy ac mae'r peth wedi tyfu."
Croesi pont: "Yr enw ar y broses ydi Y Bont ac yr ydych chi'n gorfod croesi'r bont o fod yn niwlog eich meddwl ac yn adweithiol i fod yn glir ac y mae yna gyfres hir o gyrsiau sydd yn mynd a chi gam wrth gam dros y bont ac mae fod i arwain at fywyd gwell.
Dyna ydi iachawdwriaeth Scientoleg."
Dywedodd fod pob cam dros y bont yn mynd yn ddrutach ac yn ddrutach.
Peth Americanaidd iawn
Defnyddia'r mudiad enwau pobl amlwg fel Tom Cruise a John Travolta i'w hyrwyddo ei hun.
"Ond dim ond dau berson ydyn nhw. Do, maen nhw wedi buddsoddi lot o'u cyfoeth personol yn y mudiad.
"Ac mae hynny'n wir, mae'n debyg, am y rhan fwyaf o bobl sydd yngl欧n ag ef ac o hynny y mae llawer o'i gyfoeth wedi dod ac o gyfoeth Ron Hubbard ei hun wrth gwrs; y cyfoeth mae o wedi adael ar ei 么l.
"Ond y gwir amdani ydi fod pobl, yn enwedig yn y diwylliant Americanaidd, yn chwilio am ffyrdd o wella eu hunain trwy'r amser.
"Mae o ychydig yn fwy dieithr i ni ond yn sicr yn yr America mae'r diwylliant yma y gallwch chi godi uwchben eich cyflwr presennol, y gallwch chi wneud yn well ac mai'r unig beth ydych chi angen ydi rhyddhau eich hun - the land of the free ydyw o hyd.
"Mae hynny'n apelio at y meddwl Americanaidd ond ryda ni gyda'n meddylfryd mwy traddodiadol yn mynd yn fwy amheus ac yn rhyw holi, Beth sy'n mynd ymlaen a be ydi'r diben yn y pen draw."
Crefydd heb Dduw?
"Mae'n cydnabod bodolaeth Duw ond nid un - duwiau.
"Yr hyn sydd yn brif nodwedd iddo yw mai crefydd yr hunan ydi hon. Yr ydych chi'n gwella eich hunan.
"Oes, yr ydych chi angen help rhywun ond y rhywun hwnnw ydi, nid yr Hollalluog, nid Gwaredwr fel Iesu Grist. Yr 'arall' hwnnw ydi aelod o'r mudiad sy'n eistedd gyferbyn 芒 chi.
"A'r ffordd o gael gwared 芒 hualau'r gorffennol ydi cyffesu'r cwbl sydd wedi'ch poeni chi ac wedi [bod yn] gwneud ichi deimlo'n ansicr.
"Ac mae gwneud hynny, yn enwedig os ydych chi'n i wneud i ddieithryn yn beth peryglus iawn i'w wneud.
"Dyda chi ddim yn datgelu'ch cyfrinachau i gyd heb wybod yn union beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw wedyn."
Yr ap锚l ym Mhrydain?
"Mae yna elfennau sy'n mynd i apelio at bobl. Yn naturiol, mae pobl eisiau gwella'u hunain ond un o'r pethau mae llawer iawn o'r ddynoliaeth wedi'i weld ydi na fedrwn ni ddim yn ein nerth ein hunain gael allan o'n cyflwr dynol.
"Mi rydan ni fel ag yr ydym ni a dyna wedyn mae rhywbeth fel Cristnogaeth, fel un o brif grefyddau y byd, yn ei gynnig i ddynoliaeth ydi bod yna help i'w gael o'r tu allan.
"Rydym ni'n s么n wedyn am Dduw, yn s么n am waredwr yn Iesu Grist; yr ydym ni'n s么n am waith yr Ysbryd Glan.
"Dydi Scientoleg a mudiadau tebyg ddim yn cynnig y math yma o beth.
"Beth maen nhw'n i gynnig ydi help ymarferol ichi ymgodymu a'ch sefyllfa gystal ag y medrwch chi a dyna ydi hyd a lled y peth yn y pen draw.
"I rai, yn enwedig os ydi'r meddwl 么l fodern wedi cydio yn rhywun, mae hynny yn ddigon ynddo'i hun; Dewch inni wneud y gorau fedrwn ni ohoni. Pan ddaw y diwedd, dyna ni mae o trosodd.
"Ond i lawer iawn o bobl dydi hynny ddim yn ddigon. Maen nhw eisiau mwy ac maen nhw'n credu bod mwy i'w gael."
|
|
|
|
|
|