|
|
|
Rosh Hashana Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am yr 诺yl Iddewig, Rosh Hashana: |
|
|
|
Y Flwyddyn Newydd Iddewig yw Rosh Hashana. Fel mewn llawer o ddiwylliannau, g诺yl yw hi o ddau ddiwrnod.
Ystyr hashana yn yr Hebraeg yw 'y flwyddyn' a defnyddir y gair rosh sy'n golygu 'pen', i ddiffinio cyfnodau gwahanol o amser, fel ag yn y Gymraeg.
Ond yn yr Hebraeg, dechrau'r cyfnod yw rosh, y gwrthwyneb o 'pen' yn Gymraeg, felly nid 'pen-blwydd' yw Rosh Hashana!
Cychwyn gydag Abram Ond eto, mae hi yn bosibl ystyried Rosh Hashana yn fath o ben-blwydd un o dadau'r genedl Iddewig, Isaac.
Mae'r hanes yn cychwyn gyda'i dad, Abram, y dyn cyntaf a gredodd nad oes ond un Duw yn rheoli'r bydysawd.
Ganwyd Abram yn Ur y Caldeiad - yn Irac, heddiw - ond roedd e wedi ufuddhau i orchymyn Duw i adael ei gartref ac ymfudo i Wlad Canaan rhyw 24 blynedd cyn genedigaeth Isaac.
Yr adeg honno, addawyd Gwlad Canaan i Abram gan Dduw a ddywedodd hefyd y byddai'n dod yn dad cenedl fawr ac yn fendith i'r byd (Gen 12:1-3).
Ond nid oedd gan Abram blant ac yr oedd eisoes yn 75 oed a'i wraig Sarai ond deng mlynedd yn ieuengach nag ef. Felly holodd Dduw sut y gallai fod yn dad i genedl ac yn dilyn hynny yr addawodd Duw iddo y byddai nifer ei blant fel nifer y s锚r yn y nefoedd (Gen 15:5).
Cael mab Ac o'r diwedd, ac Abram yn 99 oed, gwnaeth Duw drydedd cyfres o addewidion iddo:Cyn pen blwyddyn, byddai Sarai yn esgor ar fab. Byddai'n cael ei enwi'n Isaac (Yitzchak yn yr Hebraeg). Hefyd, rhoddodd Duw enwau newydd i Abram a Sarai - Abraham a Sarah.
Trwy Isaac y byddai Duw yn sefydlu ei gyfamod gyda'r holl fyd (Gen 17) a dyna pam, hyd heddiw, y mae'r Iddewon yn cyfeirio at Abraham fel un o'u Tadau ac fel yr Iddew cyntaf.
Yn yr un modd, cyfeirir at Sarah fel un o'u Mamau.
Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd Isaac a rhai blynyddoedd wedyn siaradodd Duw ag Abraham unwaith eto a'i orchymyn i fynd ag Isaac i Fynydd Moriah, a'i offrymu.
Mwyaf ofnadwy Dyma'r hanes mwyaf ofnadwy yn y Beibl i gyd. Ond roedd ffydd yn Nuw gydag Abraham, a pharat么dd ei hunan i ddilyn cyfarwyddiadau Duw.
Mae'n anodd dychmygu teimladau Abraham - fel pob rhiant - ar ei dridiau o daith i'r mynydd gan dybio y byddai'n rhaid iddo ladd ei annwyl fab.
A phan holodd Isaac ble'r oedd yr oen i'w aberthu ateb Abraham oedd y byddai Duw yn dod ag ef.
Ni ddywedodd Abraham y gwir erchyll wrth Isaac ond mae hi yn debyg i Isaac ddeall (Gen 22:1-8).
Ond nid marwolaeth Isaac yw diwedd yr hanes. Ar y mynydd, adeiladodd Abraham allor ac yr oedd ar fin lladd ei fab pan alwodd llais o'r nefoedd yn dweud wrtho am atal ei law.
Eisiau profi Abraham oedd Duw a chael gwybod os oedd ofn Duw arno neu beidio (Gen 22:9-12).
A'r ennyd honno gwelodd Abraham hwrdd wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn llwyn ac fe aberthodd hwnnw yn hytrach nag Isaac (Gen 22:13).
Gwersi'r hanes Mae gwersi yn codi o'r hanes hwn. Mewn oes pan oedd aberthu bodau dynol yn gyffredin, dangosodd Duw nad oedd angen hynny arno ef.
Mae'r proffwyd Michah, yn llawer diweddarach yn hanes yr Iddewon, yn ysgrifennu beth sy'n well gan Dduw:
"A roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd?" mae e'n gofyn, gan egluro bod Duw wedi rhoi'r ateb: "Gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw.'" (Michah 6:7-8).
Y cysylltiad Beth yw'r cysylltiad rhwng yr hanes 'hwn a Rosh Hashana? Adeg adnewyddiad yw pob blwyddyn newydd ac yn hanes Isaac, rydym yn darllen am ei enedigaeth wedi i'w rieni anobeithio cael eu plentyn eu hunain o gwbl; ac wedyn ei ailenedigaeth wedi'r allor.
Felly, mae'r Iddewon yn mynd i'r synagog er mwyn adnewyddu eu cyfamod gyda Duw.
Hanes Isaac ac addewidion Duw i Abraham yw cefndir y gwasanaethau hyn sy'n canolbwyntio ar edifeirwch ac ar wedd茂au am faddeuant am ein pechodau.
Yn ystod y gwasanaethau synagog ar Rosh Hashana, mae rhywun yn chwythu ychydig seiniau (fel trymped) oddi wrth y Shofar' (utgyrn), o gyrn hwrdd.
Mae dau reswm am hyn: Y cysylltiad gyda hanes Isaac. Mae'r s诺n uchel yn galw'r holl bobl i edifeirwch.
Rosh Hashana yw dechrau "Y Deg Dydd o Edifeirwch", sy'n arwain at Yom Cipwr - G诺yl neu Ddydd y Cymod - ac yn ystod y dyddiau 'hyn dylai pob Iddew feddwl am ei bechodau, ac edifarhau.
Llawen a melys Ond dyddiau llawen yw Rosh Hashana ac felly rydyn yn bwyta afal gyda m锚l fel rhan o bob pryd bwyd a hynny'n symbol o flwyddyn newydd felys.
Felly, rwy'n dymuno i bawb Flwyddyn Newydd Hapus - a Melys. Neu, mewn Hebraeg, Shana Tova Wmetwka!
Ac i mi yn bersonol mi mae'r 糯yl hon yn un pan fydd fy meddyliau yn troi at fy nhad-yng-nghyfraith, Yaakov Rosenbach, a fu farw ym mis Gorffennaf. Iddo ef yr oedd treulio Rosh Hashana a'r gwyliau Iddewig eraill gyda'i deulu yn rhywbeth pwysig iawn yn ei olwg.
|
|
|
|
|
|