|
|
|
Shavuot Neal Belkin o Israel yn sgrifennu am hen wirioneddau sy'n fyw heddiw
|
|
|
|
Yn fy erthygl Pesach (Pasg) disgrifiais sut y gellir olrhain gwreiddiau Iddewiaeth a Christnogaeth at y digwyddiadau hanesyddol sy wedi'u cysylltu 芒 Pesach a Phasg.
Ond wedi'r dechreuadau hyn, parhaodd y ddwy grefydd i datblygu a chyn bo hir bu rhagor o ddatguddiadau.
Ar gyfer Cristnogion, mae Actau 1:5 yn cyfeirio at broffwydoliaethau Iesu yngl欧n 芒'r datblygiadau hyn ac yna, yn yr ail bennod disgrifir yr apostolion yn derbyn yr Ysbryd Gl芒n a chael eu calonogi i fynd allan i'r wlad a thu hwnt yn cyhoeddi dysgeidiaeth Iesu.
Rhoi'r Torah i'r byd
Er mwyn dathlu'r 诺yl Iddewig Shavuot roedd yr apostolion wedi dod at ei gilydd ac felly ni ellir gwahanu g诺yl Gristnogol y Pentecost oddi wrth dathliadau Shavuot.
Beth oedd y dathliadau hyn?
Yn 么l traddodiad Iddewig, y diwrnod y rhoddodd Duw y Torah - Pum Llyfr Moses - i'r byd i gyd yw Shavuot.
Lai na dau fis ynghynt, roedd yr Israeliaid yn paratoi ar gyfer ymadael 芒'r gaethglud yn yr Aifft (gweler fy erthygl Pesach).
Ond nawr, y Shavuot cyntaf, saith wythnos ar 么l y ffoi enwog ar y Pesach cyntaf hwnnw mae'r cyn gaethion yn ymgynnull mewn anialwch digroeso, ymhell o wareiddiad ger Mynydd Sinai lle derbyniwyd y Torah gan beri dyfodiad y genedl Iddewig (Ex 19).
O ganlyniad i hyn gelwir yr 诺yl hefyd yn, G诺yl Rhoi'r Torah.
Hanes a chyfreithiau Casgliad o hanes a chyfreithiau yn cynnwys y Deg Gorchymyn (Ex 20:1-17) yw'r Torah a'r cyfreithiau hynny nid yn unig yn sylfaen y grefydd Iddewig heddiw ond hefyd yn sylfaen syniadau diwylliannol Iddewig - Cristnogol y Gorllewin.
Rheswm da dros ddathlu felly!
"Na lofruddia," yw'r chweched gorchymyn ac mae'n ddiddorol fod y cyfieithiadau Cymraeg (a Saesneg) arferol - "Na ladd" - yn anghywir oherwydd yn 么l y testun Hebraeg gwreiddiol, llofruddio a waherddir nid lladd - dau beth gwahanol iawn i'w gilydd.
Felly mae gan bob bod dynol hawl i fywyd - nid oherwydd bod Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn dweud hynny; nid oherwydd y Cenhedloedd Unedig na'r Datganiad Hawliau Dynol hyd yn oed ond oherwydd i'r unig Dduw cyfiawn orchymyn hynny ar Fynydd Sinai, 23 canrif cyn Cyfraith Hywel Dda, a dwy ganrif a hanner yn ychwanegol cyn i'r Magna Carta ailadrodd yr un peth.
Dydd sanctaidd
Crewyd bodau dynol ar ddelw Duw (Gen 1:26-30) ar chweched dydd y Creu ac ar y seithfed dydd, gorffwysodd Duw gan sefydlu'r Sabath (Siabat yn Hebraeg), a gwneud y dydd hwn yn un sanctaidd (Gen 2:1-3).
Mae'r pumed o'r Deg Gorchymyn yn caniat谩u - yn gorfodi mewn gwirionedd - pob un o blant Duw i orffwyso am un dydd bob wythnos.
Nid oes unrhyw waith sy'n bwysicach na hyn - ag eithrio achub bywydau, fel gwaith mewn ysbytai neu gyda gwasanaethau brys eraill.
Dydd gorffwys na fodolai yn y byd cyn Torah yw hwn.
Pawb yn gydradd "Rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch," meddai'r Ffrancwyr er 1789 ond nid peth Ffrengig na modern yw'r cysyniad o 'ryddid'.
Cyn bo Ffrainc mewn bodolaeth, cyn bo Rhufain yn ddinas, cyn i Aristotle ddysgu yn Ngroeg hyd yn oed, dywedai'r Torah: "A chyhoeddwch ryddid yn y wlad i'w holl drigolion" (Lef 25:10).
A hwnnw'n ymadrodd sy'n ymddangos ar y Gloch Ryddid ym Mhennsylvania.
Credai William Penn fod hyn yn addas ar gyfer ei Charter of Privileges sy'n siarad am ryddid.
Yn ein cymdeithasau democrataidd, mae pawb yn deall beth yw cydraddoldeb gerbron y gyfraith.
Mae'r senedd, sy'n cynrychioli'r holl bobl, yn penderfynu ar y gyfraith; y llysoedd yn cosbi troseddwyr a thorri dadleuon rhwng dinasyddion.
Yn union fel yn y Torah: "Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni" (Deut 16:20).
Nid yn unig mae'r nawfed gorchymyn yn gwahardd cam dystiolaeth nond hefyd yn mynnu cyfiawnder (Lef 19:15) - "Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, a na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder."
Brawdgarwch?
Siaradodd y Torah am hyn gyntaf: "C芒r dy gymydog megis ti dy hun" (Lef 19:18).
A rhag i neb anghofio fe'n hatgoffir o'r geiriau gan Iesu (Mat 19:19).
Er enghraifft, mae'r Torah yn disgwyl i bawb gynorthwyo unrhyw un sydd mewn trafferth.
Ac yn fwy anarferol - i adael rhai cnydau yn y meysydd ar gyfer pobl dlawd (Lef 19:9).
Mewn geiriau eraill, mae pawb yn gyfrifol am bawb. Pawb yn frodyr ac yn chwiorydd.
Er mor anodd cofio hyn bob amser rhaid ymdrechu i wneud hynny.
Yn erbyn rhyfel Yn yr hen amser ystyriwyd rhyfel yn ogoneddus. O ryfel y codai arwyr a rhoddai rhyfel gyfle i genhedloedd gynyddu eu hawdurdod a'u tiroedd.
Ond dadleuai'r proffwyd Hebreig Esiah a ysbrydolwyd gan y Torah dros ffordd arall: ffordd heddwch a brawdgarwch (Es 2:4).
Syniad dieithr am tri mileniwm ond un cyffredin iawn y dyddiau hyn!
Dengys hyn fod gwerthoedd gorllewinol yr unfed ganrif ar hugain wedi eu sylfaenu ar gysyniadau llyfr a roddwyd i'r byd gan genedl fechan sy'n gwerthfawrogi rhyddid oherwydd iddi gael ei geni mewn caethglud.
Felly, rwyf i'n credu, y gall pob cenedl, wedi blynyddoedd o ormes ac hyd yn oed golli ei gwlad, ei hiaith 芒'i diwylliant, adennill ei rhyddid a'i hunan-barch.
Heddiw, mae'r Torah a'r Beibl ar gael ym mhob siop llyfrau a llyfrgell.
Ond pa mor ogoneddus oedd yr eiliad fawr honno, dair mil o flynyddoedd yn 么l pan ddaeth Moses 芒'r ddogfen fwyaf chwyldroadol erioed i lawr o Fynydd Sinai!
Dyna pam mae'r Iddewon yn dathlu'r digwyddiad mawr hwn ar 诺yl Shavuot
|
|
|
|
|
|