大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Grand Slam Cynhadledd y Cyfryngau
Mi fydd cynhadledd Cyfrwng yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd o ddydd Gwener 22 Ebrill tan ddydd Sul 24 Ebrill 2005, a fydd yn gweld aelodau o gast gwreiddiol y ffilm gomedi 'Grand Slam' yn dychwelyd i gofio un o ffilmiau mwya poblogaidd y genedl.
Tra bo Cymru yn ymfalch茂o yn ei buddugoliaeth gynta yn y gamp lawn ers 27 mlynedd, mae aelodau o gast gwreiddiol y ffilm gomedi Grand Slam yn dychwelyd i gofio un o ffilmiau mwya poblogaidd y genedl.

Bydd John Hefin, y cyfarwyddwr, ac aelodau o gast y ffilm boblogaidd sy'n portreadu gr诺p o ddilynwyr rygbi yn teithio i Baris i ddilyn eu t卯m, yn cael eu haduno mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Morgannwg yn ystod mis Ebrill.

Bydd tri o'r actorion a ymddangosodd yn y ffilm - Sharon Morgan, Dewi Pws Morris a Si么n Probert - yn bresennol mewn dangosiad ohoni yn sinema'r UGC fel rhan o gynhadledd Cyfrwng 2005, un o ddigwyddiadau cyfryngol mwyaf urddasol Cymru.

Bydd wynebau enwog y ffilm yn ymuno ag aelodau allweddol eraill o'r diwydiant cyfryngau yng Nghymru mewn cynhadledd a gynhelir yn y Brifysgol yn Nhrefforest. Bydd y gynhadledd a gynhelir rhwng 22 - 24 Ebrill, yn hybu trafodaeth ynghylch materion cyfryngol yng Nghymru ac yn dod 芒'r cyfryngau a'r sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru at ei gilydd.

Bydd aduniad y Grand Slam yn dilyn sesiwn ar ddarlledu chwaraeon o dan arweiniad Huw Llywelyn Davies o 大象传媒 Cymru a Gareth Davies, Golygydd Comisiynu Chwaraeon S4C. Sefydlwyd Cyfrwng er mwyn darparu fforwm ar gyfer cyflwyno gwaith ymchwil a thrafod y cyfryngau yng Nghymru - sef ffilm, teledu, cyfryngau newydd, radio, newyddiaduraeth ac astudiaethau perfformio.

Penaethiaid y prif ddarlledwyr yng Nghymru fydd y siaradwyr cyfeirnod yn y gynhadledd a disgwylir iddynt fanylu ar ddyfodol llunio rhaglenni yng Nghymru yn yr oes ddigidol. Bydd Roger Lewis MD o ITV Cymru, Menna Richards, Pennaeth 大象传媒 Cymru ac Elan Closs Stephens Cadeirydd S4C yn arwain trafodaethau yn y gynhadledd.

Bydd panel o brif aelodau, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r wasg yng Nghymru ac Iwerddon, yn edrych ar yr her sy'n wynebu newyddiaduraeth o safbwynt ieithoedd lleiafrifol.Dywedodd Lisa Lewis, Cyfarwyddwr y Gynhadledd, "Mae'n anrhydedd i ni gael gwahodd cynhadledd mor enwog i Brifysgol Morgannwg. Mae'r gynhadledd yn adlewyrchu'n gywir ein hymrwymiad fel adran wrth ddelio 芒 - a herio'r materion sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.

"Uchafbwynt y digwyddiad fydd cyflwyno 'Gwobr Si芒n Phillips' i'r unigolyn a wnaeth gyfraniad nodedig i'r cyfryngau yng Nghymru. Bydd sesiynau eraill yn Cyfrwng 2005 yn canolbwyntio ar berfformiadau, darlledu chwaraeon, rheoliadau darlledu, newyddiaduraeth iaith leiafrifol, comed茂au sefyllfa yng Nghymru ac ati.

Cynhelir sesiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd llawn.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y gynhadledd ac er mwyn llogi lle, ymwelwch 芒 gwefan Cyfrwng - www.cyfrwng.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy