大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Stondinau o flaen Canolfan y Mileniwm Y wlad yn dod i'r dref
Dathlodd Mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru eu pen-blwydd yn 70 ym mae Caerdydd dros benwythnos Tachwedd 3 - 5.
Dudley yn coginioLluniau o 糯yl y Wlad yn y Dref - Oriel 1
Lluniau o 糯yl y Wlad yn y Dref - Oriel 2

Cynhaliwyd G诺yl y Wlad yn y Dref ym Mae Caerdydd o ddydd Gwener y 3ydd o Dachwedd nes dydd Sul y 5ed o Dachwedd. Roedd yn 诺yl fwyd ac yn ddathliad o gefn gwlad Cymru.

Cefn gwlad yn dod i Gaerdydd
Bwriad yr 诺yl oedd dod 芒 chefn gwlad Cymru i mewn i ganol Caerdydd. Roedd tair ardal yn rhan o'r 诺yl gyda phob un ardal yn disgrifio'r gwahanol gamau o'r gadwyn fwyd. Cafwyd arddangosfa o dda byw a chynhyrchwyr bwyd yn bresennol ynghyd 芒 gweithgareddau addysgiadol a gwledig ar gyfer y rhai a fu'n ymweld.

Hwyiaid o flaen Canolfan y MileniwmCafwyd perfformiadau byw gan y Sioe 'Sheeptacular' a 'Meirion Owen a'r Quack Pack' yn ystod y digwyddiad. Pwy a fyddai'n meddwl byddai defaid ac Indian Runner Ducks i'w gweld yn fyw ym Mae Caerdydd?

Roedd y cogydd Dudley yn bresennol ac yn gwneud arddangosfeydd coginio hefyd.

"Mae'n ddigwyddiad pwysig iawn i CFfI Cymru. Wrth ddod 芒'r 'Wlad i'r Dref', fe fyddwn yn medru addysgu ymwelwyr yngl欧n 芒 gwahanol agweddau o gefn gwlad a gobeithir y bydd yr 诺yl yn codi proffil y mudiad yng Nghymru ac yn darparu'r cyfle i bobl ifanc i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad proffesiynol cyhoeddus." meddai Rhodri Evans, Cadeirydd y Mudiad cyn y penwythnos.

"Rhaid diolch i'n noddwyr sef Tesco a Hybu Cig Cymru ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru am eu cefnogaeth a'u harweiniad." ychwanegodd.

Gala yn uchafbwynt
Daeth y penwythnos arbennig hwn i ben gyda Gala ddathliadol a gynhaliwyd ar lwyfan ysblennydd Canolfan Mileniwm Cymru ar nos Sul y 5ed o Dachwedd gyda channoedd o aelodau'r mudiad yn cymryd rhan. Byddwn yn ychwanegu lluniau o'r gala ar y safle hwn yn fuan.

Mae'r mudiad wedi bod yn trefnu'r gala ar y cyd gyda S4C a Cwmni Da Tonfedd Eryri.

"Mae'r noson yn addo bod yn gampwaith o holl ddoniau aelodau'r mudiad ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y perfformiad. Mae'n gyfle arbennig i'r bobl ifanc i berfformio ar un o lwyfannau mwyaf y byd gan ddangos eu llu o dalentau. Yr ydym yn ffodus iawn o'r holl gefnogaeth yr ydym wedi derbyn dros y misoedd diwethaf gan bawb sydd ynghlwm yn y digwyddiad ac yr ydym yn hynod o ddiolchgar am hyn. Noddwyr y Gala yw Land Rover UK ac yr ydym yn ddiolchgar iddynt hwy hefyd am eu cefnogaeth hael," dywedodd Rhodri Evans wrth edrych ymlaen at y noson.

Dudley yn coginioLluniau o 糯yl y Wlad yn y Dref - Oriel 1
Lluniau o 糯yl y Wlad yn y Dref - Oriel 2

  • Cliciwch yma i ddallen Dyddiadur Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw, Maldwyn wrth iddyn nhw baratoi am y penwythnos mawr.
  • Llywydd newydd y Clwb, Eryl Williams yn edrych ymlaen at y dathlu.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy