大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lluniau Nicaragua
(Lluniau o'r daith ar waelod y dudalen hon.)

Mae'r Nawfed Dirprwyaeth o Gymru wedi dychwelyd o Nicaragua ar 么l ymweliad llawn gobaith.

Treuliodd y Gr诺p bythefnos yn y wlad yng Nghanolbarth America, yn Chwefror a Mawrth 2007, yn ymweld 芒 phrosiectau cymunedol, ffermwyr masnach deg, undebau llafur, a gwleidyddion o'r llywodraeth newydd.

"Roedd y prosiect Action Aid yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a welsom ar ein holl daith i Nicaragua," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Roeddent wedi gweithio gyda'r gymuned a'r Cyngor lleol i sefydlu system d诺r gl芒n, cynllun credyd-micro, busnesau bach, a helpu i gefnogi ffermwyr lleol."

Sefydlodd y prosiect Radio Kukra Hill hefyd, a chafodd y gwirfoddolwyr o Kukra weithdy ar gynhyrchu rhaglenni gan Huw Meredydd Roberts, un o'r criw sy'n gynhyrchydd gyda rhaglen C2 ar 大象传媒 Radio Cymru. Mae'r rhaglen gan wirfoddolwyr Radio Kukra Hill yn cynnwys cyfweliadau gan ddwy arall o'r ddirprwyaeth, mam a'i merch Carol a Branwen Ellis o Flaenau Ffestiniog. Darlledir y rhaglen ar Radio Bro Blaenau ar Radio Cymru (mae Radio Kukra Hill a Radio Bro Blaenau yn rhannu'r un donfedd - 92.5 FM!).

Un arall o'r uchafbwyntiau oedd cwrdd 芒'r mudiad sydd wedi saernio'r cynllun newydd i atal pobl rhag llwgu yn Nicaragua.

"Mae'r cynllun yn syml iawn," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Bydd 75,000 o deuluoedd yn derbyn buwch a llo, a moch, a chael hadau, credyd a chyngor technegol i dyfu eu bwyd eu hunan, i fwyta a gwerthu. Bydd pob teulu yn cael 'bio-digester' i greu nwy i goginio a chreu gwrtaith, a bydd y llywodraeth yn sefydlu rhwydwaith o farchnadau lleol i dderbyn y cynnyrch, ag agor banciau credyd a swyddfeydd cyngor lleol."

Mae CIPRES wedi peilotio'r cynllun gyda 3,000 o deuluoedd, a bydd y cynllun cenedlaethol yn cyrraedd 500,000 o bobl o fewn y pum mlynedd nesaf. "Bydd y cynllun yn gam mawr tuag at gyrraedd y Gol Datblygu'r Mileniwm cyntaf, sef hanneru tlodi a dileu llwgu," meddai Ben.


Y ddirprwyaeth lawn yn Matagalpa, y brifddinas, ar Ddydd Gwyl Dewi
Y ddirprwyaeth lawn yn Matagalpa, y brifddinas, ar Ddydd Gwyl Dewi next page
12345678910
111213

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy