|
|
|
Enwau lleoedd Rhestr o enwau lleoedd y de orllewin a'u hystyron. |
|
|
|
Cliciwch yma i fynd i wefan 'Beth sy' mewn enw?' 大象传媒 Cymru i wybod mwy am enwau lleoedd yn yr ardal hon Mae croeso i chwi ychwanegu at y rhestr trwy ebostio deorllewin@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen hon.
Aman: cyfuniad o'r gair amanaw a man gydag amanaw wedi dod o'r gair banw yn golygu mochyn bach. Mae'r afon yn un o nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar 么l anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Nanhyfer.
Caerfyrddin: Moridunum oedd yr enw mewn Brythoneg sef cyfuniad o mori a dunum - 尘么谤 a caer. Y ffurf wreiddiol yn y Gymraeg oedd Myrddin gyda'r din ar y diwedd yn golygu dinas neu gaer. Ond gan i rai dybio mai' enw person ydoedd ychwanegwyd Caer yn ddiangen at ddechrau'r enw a thrwy hynny y tyfodd y cysylltiad rhwng y dref a'r dewin Myrddin wrth i bobl dybio mai cyfuniad o Caer a Myrddin yw'r enw yn hytrach na chyfuniad o'r caer diangen yna a'r Brythonaidd, mori a dunum.
Carreg Cennen: Cyfuniad o Carreg ac o bosibl, Cynnen.
Cefn Sidan: Cyfuniad o Cefn a Sidan gyda cefn yn cyfeirio at ffurf y tirwedd: cefnen neu ridge yn Saesneg. Y farn boblogaidd yw mai cyfeirio at y tywod 'sidanaidd' ar y traeth mae'r sidan ond gall sidan hefyd olygu glaswellt neu dyfiant sy'n edrych fel sidan.
Cydweli: Nid cyd a gwely ydi'r elfennau yn y gair yma er mor ddeniadol ydi'r syniad hwnnw o gydwelya. Mae gwir ystyr yr enw yn llawer llai rhamantus. Y ffurf hynaf ydi Cetgueli a datblygodd hynny Cadweli ac wedyn Cedweli sef tir yn perthyn Cadwal. Felly, enw ar ddarn o dir oedd o'n wreiddiol yn hytrach na thref.
Dinefwr: Y ddwy elfen ydi Din sydd mor gyfarwydd mewn enwau lleoedd (dinas ac ati) ac yn golygu lle neu gaer a mawr. Yma yr oedd gorsedd yr Arglwydd Rhys yn y ddeuddegfed ganrif.
Llandeilo: Latelian oedd y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif. Cyfuniad o Llan ac enw'r sant. Teilo.
Llanelli: Eglwys Sant Elli.
Llangadog: Eglwys Sant Cadog.
Llanymddyfri: Y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif oedd Llanamdewri. Yr elfennau ydi Llan, wrth gwrs, am yn golygu ger neu'n agos i a dyfri dwr. Felly, yr eglwys ger y dwr. O bosib fod Dyfri yn enw ar nant hefyd.
Llwynwhilwg: ger Llanelli. Yr ail elfen yn y gair ydi Chwil a hynny yn yr ystyr o chwilen neu drychfilyn yn hytrach na meddwdod.
Nanhyfer: Y ddwy elfen yw Nant a yn golygu gafr. Mae nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar 么l anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Aman.
Pont-rhyd-y-fen: Mae'r elfennau cyntaf yn gwbl amlwg gyda rhyd yn lle i groesi afon. O bosib mai ven yn golygu wagen yw'r elfen olaf a hynny'n disgrifio beth fyddai'n croesi'r rhyd.. Cafodd y llecyn ei adnabod hefyd fel Tir pont rydyven a Ty'r Pen Pont Rhyd y ven.
Yr Olchfa: yr elfennau yn y gair hwn ydi Golchi a Man ac yn cyfeirio at y defnydd o afon i olchi defaid.
Beth am ychwanegu enwau lleoedd, ffermydd, tai a thafarnau diddorol at y rhestr hon trwy ebostio deorllewin@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen isod.
|
|
|
|
|
|