|
|
|
Streic yn newid bywydau Anghofiwch y gwleidyddion a'r haneswyr, edrych yn benodol ar stori'r bobl oedd ynghanol streic y gl枚wyr n么l yn 1984 oedd rhaglen deledu arbennig gan 大象传媒 Cymru.
|
|
|
|
Roedd Cau Pwll - Lladd Cymuned? (Dydd Mawrth, Ebrill 6, 2004 大象传媒 Cymru ar S4C) yn cynnwys atgofion a barn y bobl gyffredin gan gynnwys gl枚wyr a'u teuluoedd.
Gofidio am y plant Yn 1984, fe ymddangosodd Hilda a Billy Roberts o'r Tymbl ar raglen Newyddion 7 pan oedd Billy ar streic ac yn poeni am yr effaith ar eu pump o blant o wybod y byddai'r streic yn gyfnod anodd.
Ond roeddynt hefyd yn edrych ymhellach ac yn ofni tranc y diwydiant glo.
Fel unrhyw riant, y gofid mwyaf oedd beth oedd o flaen y plant, lle y bydden nhw'n cael gwaith i'w cynnal nhw a'u teuluoedd hwythau.
Yn 2004, mae pob un o'r pump o blant wedi llwyddo i aros yn eu cynefin gyda'u teuluoedd a chael gwaith yn lleol.
Teulu arall yw un Aled Morris a'i ferch Meinir, o Abercwmboi. Yn ddeg oed ar y pryd mae Meinir yn cofio haelioni pobl ynghanol cyfnod mor galed.
Yn wir, dyna un o'r prif bethau a wnaeth Cau Pwll - Lladd Cymuned?; edrych ar y streic o safbwynt plant y cyfnod.
Heddlu yn y strydoedd Roedd Meinir hefyd yn cofio'r llinell biced ger y t欧 ac yn cofio'r holl heddlu ar y strydoedd cyfagos.
Mae'n sicr i'r streic ei gwneud yn berson cryfach a pharotach i sefyll dros rywun sy'n cael cam.
"Falle bod e wedi siapo fel fi'n edrych mas ar bethe," meddai. "Os oes rhyw gam ar rywun rwy'n tueddu i fod yr un sy'n stico 'nhrwyn mewn a sefyll drostyn nhw."
Ond cafodd bywyd ei thad, Aled Morris, ei drawsnewid gan y streic. Pan gaeodd gwaith glo Phurnacite ddechrau'r 90au aeth i goleg, rhywbeth na fyddai byth wedi ei wneud onibai iddo oroesi streic mor hir a chaled.
Erbyn heddiw mae'n weithiwr cymdeithasol.
"Nath e roi rhyw fath o hunan barch i'n hunan," meddai. "Hunan hyder hefyd achos yn yr amser o'n i'n dreulio yn brifysgol yn newid ac yn cael tystysgrif i wneud gwaith cymdeithasol o'n i'n eithaf hyderus.
"O'n i wedi bod mas ar streic am flwyddyn. I fod allan am ddwy flynedd, tair blynedd i gael addysg uwch ac yna meddwl sut ydw i'n mynd i neud hynny, beth ambwyti arian, wel am flwyddyn heb ddim o'dd e'n ddigon hawdd neud unrhyw beth ar 么l hynny."
Mentro i leoedd dieithr Doedd gan Les Thomas, o Benygroes, Llanelli, ddim cyfrifoldebau teuluol ac roedd ei streic ef yn gyfnod o fentro i lefydd na fyddai fyth wedi meiddio mentro iddyn nhw, gan godi arian mewn clybiau hoyw, annerch ar lwyfannau a synnu bob dydd pa mor barod oedd pobl i helpu a chefnogi'r streic.
Roedd e hefyd yn un o'r cannoedd o l枚wyr de Cymru oedd yn rhan o'r frwydr ffyrnig fu rhwng y gl枚wyr a'r heddlu y tu allan i waith golosg Orgrave yn swydd Efrog. Fel Zulus "Fy nheimlad i o'dd, wedi watsio'r Zulu ffilm, o'dd hi fel Zulu war yna," meddai. "Chi ar ben y mynydd 'ma a o'dd yr heddlu ar y gwaelod a na i gyd o'ch chi'n gweld o'dd y shields ma a'r heddlu yn bango nhw a'r peth nesaf o'ch chi'n gweld o'dd y shields yn agor mas a'r heddlu ar gefn ceffyle yn chargo lan atoch chi."
Bu'r rhaglen hefyd yn trafod y cydweithredu a fu rhwng y gl枚wyr a'r heddlu - rhywbeth oedd yn unigryw i Gymru - gydag Alf Jones o Rosllannerchrugog yn cofio sut roedd yr heddlu o Gaernarfon hyd yn oed yn rhannu bwyd o'u cant卯n symudol gyda'r gl枚wyr.
Ond stori wahanol iawn oedd hi pan anfonwyd heddlu Manceinion i ddelio gyda'r streicwyr.
"Nhw o'dd y diawled. Chi 'di clywed y gair diweddar na, Margaret Thatcher's troops, dyna o'dd y diawliaid yn yr ardal yma."
Dychwelyd i'r ardal Ar gyfer y rhaglen dychwelodd y cyflwynydd, Vaughan Roderick, i rai o'r llefydd y bu'n gohebu ohonynt ar gyfer Newyddion 7.
"Ugain mlynedd yn 么l roedd ystafell newyddion y 大象传媒 yn wahanol iawn i'r hyn yw hi heddiw," meddai.
"Teipiaduron yn lle cyfrifiaduron a chysylltu 芒 newyddiadurwyr yn y maes yn dibynnu ar flychau ff么n cyhoeddus. Roedd yn lle swnllyd ac anhrefnus ac yn las o fwg sigar茅ts. Ond roedd y wlad roedden ni'r gohebwyr ifanc ar y gwasanaeth Cymraeg newydd yn darlledu iddi hefyd yn bur wahanol."
|
|
|
|
|
|