大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleisiau
Nantlais - ei gerddi'n dal yn boblogaidd Nantlais - bardd y bobl
Yr oedd Nantlais yn awdur rhai o gerddi mwyaf adnabyddus yr iaith Gymraeg ac yn emynwr o fri yn byw yn Rhydaman.
Mae Nantlais, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Rhydaman, yn awdur rhai o eiriau mwyaf cyfarwydd yr iaith Gymraeg. Geiriau y mae plant cenedlaethau wedi eu hadrodd a'u canu ar hyd a lled Cymru.

Un o'i emynau mwyaf adnabyddus ydi, Iesu Cofia'r Plant ac y mae geiriau eraill ganddo yn rhan o waddol cenedlaethau o blant yng Nghymru:
Beth yw mesur glas y nen?
Beth yw maint y s锚r uwchben?

Plant bach Iesu Grist ydym ni bob un

Ac mae'r geiriau hyn mor gyfarwydd ag erioed:
Tu 么l i'r dorth mae'r blawd,
Tu 么l i'r blawd mae'r felin;
Tu 么l i'r felin, draw ar y bryn,
Mae cae o wenith melyn.

Ac mae'r rhigwm hwn mor gyfarwydd mae peryg meddwl mai hwiangedd draddodiadol yw:
Mynd drot drot ar y gaseg wen,
Mynd drot,drot, i'r dre

Ef hefyd biau;
O lili wen fach, o ble ddaethost Ti?

Ganwyd William Nantlais Williams ar Ragfyr 30, 1874, ym mwthyn to gwellt, Llwyncwrt ym mhentref Gwyddgrug, yr olaf o 10 o blant.

Gwneud capiau
Gweithiwr cyffredin oedd ei dad a'i fam yn gwneud ceiniog neu ddwy trwy werthu capiau marched oedd hi'n wneud.

Hi ddysgodd Nantlais ddarllen - trwy ei gael i adnabod y llythrennau mawr ar ddechrau pob pennod yn y Beibl!

Yr oedd yn ddisgyblwarig lem ond yn mynd ar ei gliniau i weddio cyn defnyddio'r wialen fedw ar y plant nid bod hynny fawr o gysur iddyn nhw, mae'n siwr!

Yn fachgen teimladwy a swil byu gan Nantlais ddiddordeb mewn barddoni ers yn ifanc iawn ac yn 14 oed dechreuodd gynganeddu.

Ei lyfr cyntaf
O gofio ei amgylchiadau teuluol a'r cyfnod, nid yw'n syndod iddo ymddiddori mewn crefydd hefyd ac o Ysgol Ramadadeg Castellnewydd Emlyn aeth i Goleg Trefeca ac yno y cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Murmuron y Nant.

Yn 1900 enillodd gadair 'Eisteddfod Ammanford' cyn i'r enw Rhydaman ddod i fodolaeth.Cyn gorffen ei gwrs yn Nhrefeca galwyd ef yn weinidog eglwys Bethani a symudodd i fyw yn Rhydaman ac 芒 Rhydaman y'i cysylltwyd ers hynny er ei fod ef ei hun yn ymwybodol iawn o'i ddyled i weddill Shir G芒r.

"Yn Sir Gaerfyrddin y cefais i bopeth o bwys," meddai yn ei gofiant, O Gopa Bryn Nebo.Yr oedd hwn yn gyfnod cyfoethog o feirdd-bregethwyr a chymerodd yntau ei le ochr yn ochr a rhai fel Watcyn Wyn, Dyfnallt, Islwyn, Pedrog ac Elfed.

Yn wir, dywedodd yn ei gofiant ei bod yn "uchelgais" ganddo fod yn fardd eisteddfodol llwydddiannus ar y naill law ac yn bregethwr cyrddau mawr ar y llall. Cyflawnodd y ddau beth i raddau helaeth.

Telynegwr ac emynydd
Er yn gynganeddwr medrus y delyneg a'r emyn oedd ei gryfder ac enillodd wobr am gyfres o delynegion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1902 gydag Eifion Wyn ymhlith y 21 oedd yn cystadlu!

Ym 1904, fel sawl un arall, daeth dan ddylanwad ysgubol y Diwygiad a byth wedyn rhannai ei fywyd yn ddau y cyfnod cyn y Diwygiad a'r cyfnod wedyn gyda'r ail yn gyfod o efengylu angerddol ar ei ran gydag aelodaeth ei eglwys yn treblu.

Yr oedd galw mawr arno fel pregethwr. Aeth ar daith efengylu i'r Wladfa, hyd yn oed, yn 1938.

Mae'n gyd-ddigwyddiad trist i'r wraig a'i perswadiodd i fynd yno, y llenor Eluned Morgan, farw ar yr union ddiwrnod yr oedd Nantlais yn dychwelyd i Gymru wedi taith a ystyriwyd yn un hynod o lwyddiannus.

I fyd plant
Un o'i rinweddau mawr oedd medru mynd i fyd plant ac mae'n arwyddocal mai fel bardd y mae llawer yn ei ystyried yn hytrach nag fel gweinidog. Moliant Plentyn oedd enw un o'i gyfrolau casgliad o emynau.

Cofeb  Nantlais yn RhydamanYr oedd ganddo bump o blant ei hun ond bu farw ei wraig, Alice Jones o Gynwyl Elfed, pan oedd yr ieuengaf ohonyn nhw ond yn bum wythnos oed .

Ail briododd ymhen rhai blynyddoedd ag Annie Price.

Nid i blant yn unig y cyfansoddaia chynhwyswyd ei emynau yn llyfrau emynau mwy nag un enwad:
Uno wnawn 芒'r nefol g么r
I'th foliannu Arglwydd I么r

Yn y dwys ddistawrwydd

Yn dy law y mae f'amserau
Ti sy'n trefnu 'nyddiau'i gyd

Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1944 ond parhaodd i fyw yn Rhydaman ac yno y bu farw, yn 84 oed yn 1959 ac yn y gosdwyd plac i gofio W Nantlais Williams ar fur Bethani.

Oes gennych chi hanesion am rai o enwogion y fro?
Cliciwch i anfon ebost.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy