大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Robyn LewisTraddododd Robyn Lewis ei araith archdderwyddol gyntaf ar ôl cael ei urddo'n archdderwydd yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2003 yn y Trallwng ar Fehefin 29. Dyma ddywedodd:

A minnau'n ymwybodol o'r anrhydedd hon, fe garwn i ddiolch i chi. Fy nod fydd cynnal y safon a gafwyd gan gyfres o wyr nodedig, ac ambell athrylith, a fu yn y Swydd.

Diolch hefyd i'm rhagflaenydd, Meirion, am ei arweiniad doeth a'i gymorth ym mhob manylyn.

Anarferol yw i Orsedd y Beirdd ymroi i syllu ar ei bogail ei hun a gofyn yn union pa fath fudiad yw. Fe wyddom ddigonedd am Iolo a'i athrylith, a'n creodd drwy ei ddychymyg byw a'i ehediadau gwreiddiol.

Hefyd, Cynan, a roes ei sglein ac urddas unigryw ar ein defodau.

Sut fudiad yw Gorsedd y Beirdd?

Ond heddiw, yr wyf am ofyn pa fath fudiad ydym yn y Gymru gyfoes.

Cymdeithas o feirdd, llenorion, ysgolheigion, cerddorion ac artistiaid: cymwynaswyr; caredigion y Gymraeg.

Er gwaethaf seremoniaeth a gwisgoedd lliwgar, mae un englyn sy'n mynegi'r cyfan:
Nid ei chledd ond ei gweddi - a'i harddwch
A rydd urddas arni,'
Mae nodded tu mewn iddi
I'r Gymraeg, rhag ei marw hi.

Rhestr faith o fudiadau
Ers canrif a mwy, bu lliaws o fudiadau a ffurfiwyd yn unswydd i warchod a diogelu'r iaith - rhai mewn modd cyfansoddiadol a chyfreithlon; eraill trwy ddulliau miniog a thor-cyfraith.

O Gymru Fydd yn niwedd y ganrif cyn ddiwethaf hyd at Cymuned, y llynedd. Mae'n rhestr faith ac anrhydeddus.

Ond mae Gorsedd y Beirdd yn wahanol.
Trwy ein hymddangosiad a'n defodau y byddwn ni'n cael ein maen i'r mur.

Mae natur wahanol i'n haelodaeth. Nid llofnod a thâl ddaw a chi i'r Cylch. Mae pob enaid wedii dderbyn - trwy rwy fedrusrwydd arholiad, gradd, cystadleuaeth; neu ynteu anrhydedd am wrhydri o bwys cenedlaethol, neu oes o wasanaeth diflino.

Hon yw ffynhonnell anrhydeddau'r Cymry.

Cwymp y Gymraeg

Yn ystod y ganrif sy newydd ddarfod, fe syrthiodd canran y siaradwyr Cymraeg o 54% i 18%. Rwy'n arswydo wrth feddwl pa mor drychinebus fydd canran Cyfrifiad y llynedd, pan ddatgelir hwnnw maes o law.

Ddechrau'r ugeinfed ganrif, a hithau yn ei chryfder a chymaint yn ei siarad, iaith ddirmygedig, da-i-ddim, dan-yr-hatsus, oedd y Gymraeg.


Rhai o ferched y ddawns flodau yn Y TrallwngBratiaith i'w difrïo, i 'w sarhau: i dorri 'n rhydd oddi wrthi, gyntaf y gellid.

O ganlyniad, prin y codwyd bys bach i'w gwarchod na'i hamddiffyn yn unman.

I lawr ac i lawr yr aeth serch i'r parch tuag ati gynyddu'n baradocsaidd, nes iddi ddod, heddiw, yn iaith led-swyddogol yn ei gwlad ei hun

Cymreig ond yn llai Cymraeg
Cymru fu, yn fwy Cymraeg ond yn llai Cymreig. Cymru heddiw yn fwy Cymreig, ond yn llai Cymraeg. Mae'n deg gofyn: "Pa faint mwy argyfyngus y byddai ei chyflwr heddiw heb fodolaeth yr holl fudiadau gwarchod a fu, a heb Orsedd y Beirdd i'w noddi?"

Fel y gwyddom, mudiadau gwirfoddol oedd y rhain a fu'n ymgyrchu dros y Gymraeg. Eithr bum mlynedd yn ô1 gweddnewidiwyd ei rhagolygon yn llwyr, wrth i Gymru ddewis cael mesur o ymreolaeth.

Cyfrifoldeb y Cynulliad

Yn sgil hynny, mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi gosod cyfrifoldeb cyfreithiol am iaith Cymru yn glir a thaclus ar y Cynulliad.

Meddai Adran 32 o'r Ddeddf: "Gall y Cynulliad wneud unrhyw beth a farnon briodol i achub a gwarchod yr iaith Gymraeg."

Dyna i chi eiriau sy'n dwyn grym cyfraith gwlad, lle trosglwyddwyd gallu a chyfrifoldeb yn bendant a diamwys o San Steffan i Gymru, lle dylsai fod wedi bod ar hyd y canrifoedd, wrth gwrs.

Mae i Lywodraeth Cymru Weinidog Diwylliant; a hithau'n ddi-Gymraeg. Penodiad sy mor synhwyrol â chael llysieuwr yn Weinidog Amaeth.

Sarhau ysgolhaig
O ganlyniad, bwriwyd sen a sarhad ar neb llai na Dafydd Glyn Jones, un o'n pennaf ysgolheigion cyfoes, pan geisiodd roi ffrwyth ei ymchwil oes a'i wybodaeth unigryw o'n Prifysgol, at wasanaeth ein Llywodraeth.

Iddyn nhw, roedd Dafydd Glyn yn eithafwr; breuddwydiwr; cynhyrfwr. Onid eithafwr; breuddwydiwr; a chynhyrfwr oedd Iolo Morganwg, yntau, yn ei ddydd?

Dim ond yn ddiweddar yr aeth Llywodraeth Cymru ati i ystyried ystyr ac oblygiadau Cymreictod. Cafwyd adroddiad uchelgeisiol dan y teitl Ein Hiaith: Ei Dyfodol - a gyhoeddwyd yn uniaith Saesneg, gyda llaw.

Eglurwyd sut y bydd y Gymraeg, ymhen y rhawg, wedi ei hachub ac yn gyfartal ym mhob manylyn a'r Saesneg.

Rhaid wrth orfodaeth
Ond mae'n ymddangos na ragwelir y Gymraeg, mewn addysg nac yn y byd mawr, yn ddim ond iaith ddewisol, tra deil y Saesneg, fel y mae, ac fel y bu erioed yn orfodol.

Ni ddywedaf ond hyn: Saesneg gorfodol a Chymraeg dewisol fu melltith Cymru ers canrifoedd.

Dyna sy'n gyfrifol am gyflwr eilradd y Gymraeg ym mhob twll a chornel hyd heddiw.

Symbyliad y Llyfrau Gleision; amcan y Welsh Not. Dyma a droes ein Cymoedd Cymraeg yn Gymoedd di-Gymraeg yn unol a bwriad pendant y wladwriaeth a hynny costied a gostio.

Yr oedd yr ewyllys wleidyddol yno, i ddifa'r Gymraeg yn llwyr: trwy orfodaeth.

lle bo'r gair bygythiol, Gorfodaeth, dan sylw mae'n rhaid gwasgu'r danadl - mewn addysg, cynllunio, arwyddion cyhoeddus y tu mewn a thu all a hysbysebu a'r sector breifat yn gyffredinol.

"Gorfodaeth!" Gyda'r Gymraeg, iaith Cymru, yn flaenaf neu'n uchaf ym mhobman.

Nid anelu gorfodaeth at yr oedolion unigol a fwriadaf ond at yr angen am greu awyrgylch Gymreig ym mhobman drwy ein gwlad.

A hynny o fewn cyfnod pendant, dyweder saith mlynedd - dim mwy. Dim ond trwy orfodaeth y llwyddwyd i ddegymu'r Gymraeg a dim ond trwy orfodaeth gyffelyb y llwyddir i'w hadfer.

Yn union megis y gorfodir arnom y Saesneg; y gorfodir arnom y dreth incwm; ac y gorfodir arnom ryfeloedd mympwyol Tony Blair.

Nid llaeth a dwr
Un o brif swyddogaethau Gorsedd y Beirdd fu bod yn gydwybod i genedl y Cyrnry. A llefaru'n groyw a chadarn lIe bo angen - a thâl llaeth a dwr ddim.

Pan fo'n hunig Lywodraeth yn ymddwyn; ar y gorau megis Philistiaid; ar y gwaethaf, fel cenfaint moch Buchedd Garmon, yna mae'n hen bryd codi llais croch.

"Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed."

lJiolch yn Fawr.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy