大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir 大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Maes y brifwylI'r gorllewin! yw'r gri wrth i Eisteddfotwyr o bob oed dyrru i Sir Benfro i Eisteddfod Genedlaethol 2002.
Mari Jones-Williams sy'n edrych ar yr arlwy eang sy'n cael ei gynnig gan 大象传媒 Cymru eleni eto

Crynodeb o'r darlledu ar ddiwedd yr erthygl

Hud a swyn Sir Benfro fydd yn croesawu miloedd ar filoedd o eisteddfotwyr brwd wrth i wyl fwyaf Cymru ddod i ddinas leiaf y wlad, Tyddewi.

大象传媒 Cymru yw Partner Darlledu'r Wyl ac eleni fel pob blwyddyn arall, bydd presenoldeb 大象传媒 Cymru yn amlwg i'r rhai syn crwydro'r maes yn ogystal â bod yn ganolog i'r rhai sy'n methu bod yno ond am daflu eu hunain i ysbryd yr wyl.

Ar lein, ar radio, ar y sgrîn ac ar y maes... Bydd cyflwynwyr a thimau cynhyrchu 大象传媒 Cymru yn taflu eu hunain i'r gweithgareddau gydag awch, gan ddod â newyddion y dydd, darllediadau byw o'r llwyfan a digwyddiadau ymylol, hwyl a holl awyrgylch yr wyl, cyfweliadau cefn-llwyfan, bandiau a hwyl canolfan 大象传媒 Cymru ar y maes.

Bydd gan 大象传媒 Cymru arlwy eang ar S4C ac S4C Digidol o fore tan nos gyda'r darlledu yn dechrau am 10.00 y bore ar ddigidol, gydag Alwyn Humphreys yn tywys y gwylwyr drwy gystadlaethau'r llwyfan.

Am 3.30pm bydd analog a digidol yn darlledu ar yr un pryd, gyda Huw Llywelyn Davies a Shân Cothi yn llywio'r rhaglenni.

Bydd 大象传媒 Cymru hefyd yn dod a chystadleuaeth Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn fyw o'r pafiliwn ar y nos Fercher am 7.45pm.

Dewi Llwyd fydd wrth y llyw am 8.00pm bob nos gyda rhaglen a fydd yn edrych ar ddigwyddiadau'r dydd.

Bydd Ffion Dafis, sydd ei hun yn un o gyn-enillwyr Gwobr Goffa Richard Burton yr Eisteddfod, hefyd yn cyfrannu at raglennir prynhawn a nos, gan ddod â hwyl y maes a chefn y llwyfan yn ei ffordd fyrlymus ei hun.

Bydd Catrin Ramasut hefyd yn dod â'r newyddion diweddaraf o bob twll a chornel o'r ardal eisteddfodol.

Cip dychanol a doniol fydd dau o enwau cyfarwydd Cymru yn ei roi ar raglenni'r nos, gyda Dylan Iorwerth a Twm Morys yn rhoi eu hargraffiadau hwy a'u sylwadau bachog ar y byd Eisteddfodol.

Bydd 大象传媒 Cymru hefyd yn dod ag uchafbwyntiau o'r Babell Lên ar S4C Digidol.

Mae holl gyflwynwyr Radio Cymru hefyd yn ymbaratoi am wythnos orlawn o waith, gan gyflwyno rhaglenni di-ri gyda darlledu 24 awr y dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

O Owain Gwilym i Hywel Gwynfryn, Dafydd Du i Dylan Wyn, Nia Lloyd Jones i Sian Thomas, Kevin Davies i Marc Griffiths, Beks, Idris Charles a Jonsi a mwy, fe fyddan nhw oll yn ei throi hi am Dyddewi i wneud yn siwr fod pawb, lle bynnag y bo, yn llwyddo i brofi hwyl y Brifwyl.

Bydd O'r Maes yn dechrau am 11.00am wrth i Hywel Gwynfryn, Nia Lloyd Jones, Dafydd Du ac Owain Gwilym ddod â bwrlwm a chyffro'r cystadlu, o gefn y llwyfan, y llwyfan ei hun a holl weithgareddau'r maes. Bydd y rhaglen yn dychwelyd am 2.30pm.

Am 1.15pm bydd Sioe Radio Cymru yn dod âr goreuon o sioe lwyfan 大象传媒 Cymru ar y maes, sy'n addo bod yn un cornel fywiog a lliwgar gydol yr wythnos gyfan gyda holl gymeriadau poblogaidd 大象传媒 Cymru yn cyflwyno rhai o fandiau gorau'r wlad, cystadaethau di-ri a wythnos gyfan o hwyl di-baid.

Am 6.45pm Beti George fydd yn dod ac uchafbwyntiaur dydd a chip ar feirniadaethau swyddogol ac answyddogol wrth ddadansoddi seremoniau mawr y dydd a chyfle i glywed pwt o ddonia'r Babell Lên.

Bydd O'r Maes Carafanau yn dod â holl hwyl y dref symudol hon, wrth bicio o garafan i garafan yn chwilio am hynt a helynt hwn a'r llall. Bydd cystadlaethau, gwesteion a cherddoriaeth fyw o'r safle hwn, sydd bron yn eisteddfod fach yn-ddi'i hun.

Lle arall sydd bron yn ddiwylliant ar wahân yw Maes B, a bydd Radio Cymru yn darparu gorsaf arbennig o'r man hwn sy'n nyth o hwyl, cyffro ac antur ieuenctid yr Eisteddfod. Bydd Maes B FM yn dechrau am hanner nos ac yn darlledu perfformiadau bandiau a DJs, sgyrsiau a cheisiadau drwy'r nos hyd at 6.00am.

Un safle fydd yn fwrlwm o bopeth Eisteddfodol yw 大象传媒 Cymru'r Byd, gwasanaeth arlein 大象传媒 Cymru. Yn ystod yr wythnos bydd holl ddarllediadau Radio Cymru yn cael eu lifo'n fyw sy'n golygu bod Cymru'r Byd yn galluogi pobol o bob rhan or byd i fwynhau Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi. Bydd y safle hefyd yn darparu cystadlaethau'r llwyfan yn fyw o 10 tan 6.

Bydd staff Cymru'r Byd hefyd yn tynnu lluniau yn rheolaidd ar gyfer oriel luniau ar y wê fydd yn dangos gweithgareddau'r maes ac enillwyr a delweddau eraill difyr o'r Eisteddfod.

Yn rheolaidd bydd adroddiadau o newyddion y dydd yn cael eu ddiweddaru ac o fewn safle 大象传媒 ar y maes bydd cyfrifiaduron a phobol wrth law i arwain pobol o gwmpas safle Cymrur Byd.
Dyma grynodeb o holl wasanaeth y 大象传媒 yn yr Eisteddfod:

Dydd Sadwrn,
Awst 3,
8.00pm

Dydd Sul,
Awst 4,
8.00pm

Dydd Llun-dydd Gwener, Awst 5-9,
3.30pm, 8.00pm ac eithrio dydd Mercher,
Awst 7, 7.45pm

大象传媒 Cymru ar S4C Digidol
Dydd Sadwrn,
Awst 3,
10.00am, 8.00pm;
11.25pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)

Dydd Sul,
Awst 4,
10.00pm, 2.00pm, 8.00pm; 11.00pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)

Dydd Llun-Dydd Gwener, Awst 5-9,
10.00am (pafiliwn); 3.30pm; 6.00pm; 8.00pm; 11.30pm (ail-ddarllediad o raglen 8.00pm)

Uchafbwyntiau'r Babell Lên:

Llun, 9.00pm; Mawrth, 10.30pm; Mercher, 11pm; Iau, 9.00pm; Gwener, 10.35pm

大象传媒 Radio Cymru o'r Eisteddfod

Dydd Sadwrn,
Awst 3; Or Maes, 1.00pm; Tocyn Wythnos, 6.00pm
Dydd Sul,
Awst 4, Oedfa'r Bore,11.30am; O'r Maes, 2.00pm; Y Talwrn, 6.00pm; Mwy o'r Maes, 8.00pm
Dydd Llun-Dydd Gwener,
Awst 5-9; O'r Maes, 11.00am; Sioe Radio Cymru,1.25pm; Or Maes, 2.30pm; Tocyn Wythnos, 6.45pm; Or Maes Carafanau, 8.00pm; Maes B FM, Hanner nos - 6.00am




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy