Medal i Angharad
Cyfuno ffaith a dychymyg a wnaeth Angharad Price wrth iddi lunio'r gyfrol a enillodd iddi Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi.
Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gyfrol o ryddiaith heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema Hunangofiant dilys neu ddychmygol. Y beirniaid oedd Hywel Teifi Edwards, Meg Elis a Robin Llywelyn.
Meddai Hywel Teifi Edwards wrth draddodi'r feirniadaeth: "Dyma'r hunangofiant a'm trawodd o'r dechrau fel gwaith llenor ymwybodol sy'n gwybod bod creu yn gymaint o her i'r hunangofiannydd ag ydyw i'r nofelydd. Y mae'r ddau ar drywydd y patrymau ystyrlon sydd ynghudd yn anrhefn ein byw beunyddiol."
Hunangofiant hen, hen fodryb Mae'r gyfrol yn adrodd hunangofiant Rebecca Jones, hen, hen fodryb i Angharad Price a chwaer i'w thaid.
Roedd Rebecca yn un o blant teulu Tynbraich yng nghwm Maesglasau, Meirionnydd. Yn y gyfrol mae'n adrodd hanes ei bywyd a hithau dros 90 oed.
Ond yn hanesyddol bu Rebecca farw o'r difftheria yn 11 oed yn ôl y feirniadaeth.
"Mae Angharad Price felly wedi dyfeisio bywyd iddi er mwyn adrodd hanes teulu Tynbraich yn negawdau'r Ugeinfed Ganrif.
Hynny yw, cyfrwng yw Rebecca fel cyfrwng i adrodd hanes gweddill y teulu, meddai Angharad.
"Roedd rhywbeth yn arbennig am y genhedlaeth. Roedd yna bedwar brawd, tri ohonyn nhw'n ddall ac un chwaer. Bu farw'r chwaer yn unarddeg oed......Roeddwn i'n meddwl y buasai ffigwr y chwaer yn un diddorol i allu canolbwyntio ar ddweud y stori....roedd hi'n gyfrwng i allu dweud stori'r lleill," eglurodd.
Ond awgryma'r feirniadaeth fod yma fwy na hanes teulu yng nghefn gwlad Meirionnydd yn ystod yr ugeinfed ganrif gydag Angharad Price yn defnyddio Rebecca i fynegi ei phryderon am ddirywiad y gymdeithas honno.
Cariad at ei phobol a'i bro Meddai Hywel Teifi Edwards: "....yn rhedeg trwyddo'n ddinacâd y mae cariad diymollwng at ei phobol a'i bro. Y mae gofid am barhad y gymdeithas Gymraeg i'w weld yn nrych stori Rebecca Jones.."
Dechreuodd Angharad Price weithio ar y nofel fis Awst y llynedd a'i chwbwlhau ym mis Rhagfyr.
"Roeddwn i'n gwybod llawer o'r straeon yn barod. Fe es ati i holi'r teulu ac fe ges i lawer o help ganddyn nhw. Wedyn fe es ati i sgwennu'r drafft cyntaf. Fe ddaeth pethau'n weddol sydyn wedi hynny."
Mae Angharad Price ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd ond daw'n wreiddiol o Fethel ger Caernarfon.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bethel ac Ysgol Brynrefail, Llanrug, lle roedd Alwyn Pleming ac Estyll Maelor yn athrawon Cymraeg arni.
Graddiodd mewn Almaeneg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen gan fynd ymlaen wedyn i wneud gwaith ymchwil mewn llenyddiaeth Gymraeg. Erbyn hyn mae'n gymrawd ymchwil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Mae'n ferch i'r hanesydd a'r newyddiadurwr Emyr Price.
|