Pleidleisiwch dros gyfraniad oes
Bydd gan Gymru gyfan ran yn y gwaith o ddewis Cymro neu Gymraes y Cyfanfyd y flwyddyn nesaf.
Er mwyn rhoi amser i'r bobl ddewis ni chynhaliwyd seremoni flynyddol Anrhydeddu Cymry'r Cyfanfyd yn Nhyddewi eleni ond, yn hytrach, ei gohirio tan y flwyddyn nesaf.
Anrhydedd gymharol newydd ydi Cymry'r Cyfanfyd a gafodd ei dyfarnu gyntaf yn Eisteddfod Llanelli 2000 i Gwynfor Evans.
Y llynedd, anrhydeddwyd holl Gymry'r Wladfa ym Mhatagonia oherwydd eu hymdrechion a'u hymroddiad dros Gymreictod.
Mae'r tlws a gyflwynir ar ffurf yr hyn a elwir yn "Y Lleuadydd Cymreig" ac wedi ei wneud gan Anthony Lewis.
Coler ydoedd oedd yn cael ei gwisgo gan benaethiaid Celtaidd ac mae'r gwreiddiol a ddarganfuwyd yn Nolbenmaen, Gwynedd, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.
Syniad Arturo Roberts - o'r Wladfa yn wreiddiol ond yn awr yn byw yn yr Unol Daleithiau lle mae'n feddyg ac yn golygu Ninnau - yw'r anrhydedd.
Fe'i gweinyddir yng Nghymru gan Henry Jones-Davies.
Mae'n cael ei disgrifio fel anrhydedd an-wleidyddol a dewiswyd y ddau enillydd cyntaf gan bwyllgor rhyngwladol.
Bydd y trydydd, fodd bynnag, yn cael ei ddewis trwy enwebiad y bobl.
"Y bwriad yw anrhydeddu rhywun sydd wedi gwenud cyfraniad oes i Gymru ar diwylliant a'r iaith Gymraeg," meddai Arturo Roberts sydd yn or-wyr i Michael D. Jones un o genedlaetholwyr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg a phrif symbylydd y Wladfa ym Mhatagonia.
|