大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Beirniaid cerdd 'yn gowbois'

Maes y BrifwylDim ond deuddydd cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol agor yn Nhyddewi cafodd rhai o feirniaid cerdd y Brifwyl chwip din nas gwelwyd ei thebyg gan gerddor a darlledwr amlwg.



Yn siarad ar y rhaglen radio Y Celfyddydau cyhuddodd Alwyn Humphreys, sydd hefyd yn arweinydd Côr Meibion Treforys, feirniad o fod yn "gowbois" sy'n rhestru ystrydebau a dod i benderfyniadau "boncys".

Dywedodd na all rhai ohonyn nhw ddweud a yw rhywun yn canu allan o diwn neu beidio.

Yn cymryd rhan ar yr un rhaglen disgrifiodd Hywel Teifi Edwards y cyhuddiadau fel rhai "difrifol iawn" os yn gywir.

Meddai Alwyn Humphreys:

"Yn y cyswllt cerddorol ychydig iawn, fuaswn i'n y'i ddweud, o gerddorion sydd yna yng Nghymru - sy'n siarad Cymraeg - ac sy'n gymwys i feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mi fyddwn i'n dweud ar y cychwyn y dylen nhw fod yn bobl sydd o leiaf yn ddarlithwyr mewn colegau cerdd neu adrannau cerdd prifysgolion," meddai.

"Mae yna ormod o gowbois cerddorol yng Nghymru - wedi bod erioed - a'r cyfan sydd raid ichi fod i fod yn feirniad mewn unrhyw eisteddfod yw eich bod yn gallu pentyrru ansoddeiriau a chyflwyno cyfres o ystrydebau.

"Does dim rhaid ichi fod yn arbenigwr ar gerddoriaeth."

Yn ymddangos hefyd ar y rhaglen cytunodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod elfen o wir yn yr hyn a ddywedai Alwyn Humphreys ond ychwanegodd fod y drefn o fwy nag un beirniad yn diogelu tegwch i gystadleuwyr.

Yn ddiweddarach, ailadroddodd Alwyn Humphreys ei gyhuddiadau ar rifyn o Stondin Sulwyn ar Radio Cymru gan gyfeirio unwaith eto at "gowbois cerddorol" sydd "ddim ffit i wneud y job" yn rhesu "ystrydebau disynnwyr"

Dywedodd eu bod yn sarhad nid yn unig ar gystadleuwyr ond ar gynulleidfaoedd hefyd.

Ychwanegodd y gellid, o bosibl, ddenu beirniaid gwell o dalu mwy o arian na'r hyn a ddisgrifiodd fel y "cildwrn" presennol gan yr Eisteddfod.

Ond pwysleisiodd nad chwilio am fudd personol yr oedd.

"Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn gymwys i wneud y gwaith ac fe fyddwn yn hoffi pe byddai eraill yn ei wneud," meddai.







Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy