大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad - Croeso i'r sir

Côr Newyddion Da a'u harweinydd Marilyn LewisBrynhawn dydd Sadwrn agorwyd Theatr y Maes yn swyddogol gyda pherfformiad gan griw ifanc o ardal Crymych yn ein croesawu i Sir Benfro.

Roedd rhaglen y dydd yn addo "Cyflwyniad fydd yn eich tywys ar hyd llwybrau y sir ac yn eich cyflwyno i enwogion yr ardal."

Dechreuodd y cyflwyniad gyda pherfformiad gan Y Bois Bach, grwp o fechgyn o Aelwyd Crymych. Yn wir cafwyd croeso gwresog gan y grwp â'u cân Dewch draw i Benfro.

Dyma gân hwyliog ac roedd y grwp wrth eu boddau yn diddanu'r gynulleidfa a'r gynulleidfa hefyd yn mwynhau'r gân fywiog ac yn cymeradwyo wrth iddyn nhw ganu.

Dyma ddechrau da felly ac roeddwn yn edrych ymlaen i ddod i wybod mwy am Sir Benfro, ei hanes, ei henwogion, a'i llenorion.

Tipyn o siom

Ond siom a gefais pan rybuddiodd y cyflwynydd na ddylem ni gredu popeth a ddarllenwn yn Rhaglen y Dydd ac mai nid cyflwyniad i'r sir fel y cyfryw fyddai'r perfformiad.

Oedd, roedd hyn yn dipyn o siom. Doeddwn i ddim am ddod i wybod mwy am fro'r Eisteddfod felly. Ond er hyn mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau'r cyflwyniadau.

Golygfa o'r detholiad o <i>Antigoni</i>Y cyflwyniad nesaf a welsom oedd addasiad o'r ddrama glasurol Antigoni. Yn perfformio roedd tair o Ysgol y Preseli.

Roedden nhw wedi dewis perfformio'r darn lle mae Antigoni newydd fod yn claddu ei brawd.

Yr hyn a gafwyd oedd dwy ddeialog, un rhwng Antigoni a'i mam, ac un arall rhwng Antigoni a'i chwaer. Cafwyd perfformiadau grymus yma ac roedd y tair wedi llwyddo i gamu i groen eu cymeriadau.

Ond mae'n biti mewn gwirionedd na fydden nhw wedi dewis drama ag iddi gysylltiadau lleol. Doeddwn i ddim yn teimlo fod drama glasurol fel hyn, sydd wedi ei pherfformio cymaint yn y gorffennol, yn cyfrannu dim mewn gwirionedd at y cyflwyniad hwn.

Ond rwy'n falch o ddweud bod y cyflwyniad nesaf yn ymwneud â bro'r Eisteddfod. Ar y llwyfan roedd Gruffudd Ifan, actor o'r ardal a chyn ddisgybl Ysgol y Preseli, yn adrodd darn wedi ei ysgrifennu gan D.J.Williams sy'n darlunio Pantycelyn yn ymweld â'r ardal.

Creu naws arbennig
Yn ystod y cyflwyniad cafwyd perfformiadau gan Gôr Newyddion Da, Crymych a ganodd un o emynau Pantycelyn. Roedd y canu rhwng darnau o'r monolog yn effeithiol tu hwnt ac yn creu naws arbennig gan ein tywys i gyfnod Pantycelyn.

Mae'n rhaid canmol perfformiad y côr hefyd gan fod yma leisiau arbennig a disgyblaeth leisiol dda.

Wedi dau gyflwyniad dwys roedd hi'n bryd cael tipyn o ddigrifwch i ysgafnhau'r awyrgylch a dyna a gafwyd gyda pherfformiad gan Gwmni'r Mochyn Du.

Roedden nhw wedi dewis perfformio detholiad o'u sioe Wobin Hood, sioe y maen nhw'n ei pherfformio yn Theatr y Maes ddydd Llun.

Roedd yr olygfa yn un ddoniol wrth i Wobin geisio calon Marian, a hynny gyda chymorth y goeden yr oedd yn mynnu siarad â hi.

Ond unwaith eto, doedd yma ddim oedd yn cyfoethogi ein gwybodaeth am ardal Sir Benfro ac roedd hi'n drueni fod y cwmni wedi penderfynu dewis stori o'r tu hwnt i Glawdd Offa er mwyn ein croesawu i'r sir.



Perfformiad arbrofol
O'r llon i'r lleddf wedyn gyda detholiad o Siwan, drama enwog Saunders Lewis. Ond nid perfformiad cyffredin oedd hwn ac roedd yn un eithaf arbrofol.

Roedd y ddwy berfformwraig a oedd yn portreadu Siwan ac Alis wedi penderfynu ychwanegu dimensiwn newydd i'r ddrama.

Golygfa o'r ddrama <i>Siwan</i>Roedden nhw wedi bod yn myfyrio ar y thema "Beth ond hap chwarae yw byw" sydd yn amlygu'i hun yn y ddrama glasurol hon.

Roedden nhw wedyn wedi mynd ati i ymchwilio i arferion chwaraeon y 12fed ganrif ac wedi astudio gemau fel blindman's buff, croesau a chylchoedd a hangman.

Roedden nhw wedi dewis perfformio darn o ail act y ddrama lle mae Siwan yn ei chell ac Alis yn gweini arni. Mae Siwan yn clywed swn curo ac yn amau fod Llywelyn yn paratoi crocbren iddi.

Ond yn y cyflwyniad arbennig hwn Alis sy'n paratoi'r grocbren. Mae hyn yn cyfleu'r syniad fod y ddwy yn chwarae gêm ac mae'r grocbren y mae Alis yn ei pharatoi yn atgoffa rhywun o'r gêm hangman.

Perfformiadau ingol
Mae'n rhaid canmol perfformiad y ddwy hefyd. Roedd eu dealltwriaeth o'u cymeriadau yn amlwg a chafwyd perfformiadau ingol ganddyn nhw yn arbennig gan Siwan.

Wedi perfformiad arall gan Gôr Newyddion Da o gân hyfryd Caryl Parry Jones Amser i Ennill, cafwyd sgets ddoniol oedd yn adrodd hanes tair hen wraig yn mynd i'r Eisteddfod yn Nhyddewi.

Sgets yn adrodd hanes tair gwraig o'r fro yn mynd i'r EisteddfodWrth i'r tair eistedd yn y car cafwyd nifer o jôcs doniol ac yng nghanol yr hwyl llwyddwyd i adrodd ychydig o hanes yr ardal.

O'r diwedd felly dyma glywed ychydig o hanes y fro. Cyfeiriwyd at y gromlech enwog ym Mhentre Ifan, y glaniad yn Abergwaun a'r fferi sy'n croesi i Iwerddon.

I gloi daeth y côr yn ôl i'r llwyfan i ganu Dewi Sant gan Robat Arwyn, trefniant Marilyn Lewis. Cân fodern felly yn adrodd hen, hen hanes wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn naear Tyddewi.

Dangos talentau'r fro
Dyma gyflwyniad da felly oedd yn wir ddangos yr holl dalentau amrywiol ym mro'r Eisteddfod.

Yn sicr cafwyd digon o amrywiaeth gyda chydbwysedd da rhwng y digrif a'r dwys, yr hen a'r newydd.

Trwy gyfrwng trasiedi, comedi, cerddoriaeth a dawns llwyddwyd i greu adloniant difyr. Roedd hyn yn sicr yn berfformiad teilwng iawn i agor Theatr y Maes yn Eisteddfod 2002.

Ond er hyn allla i ddim cuddio'r ffaith fy mod yn teimlo'n siomedig o hyd na ches i ddod i wybod mwy am yr ardal.

Er bod y perfformiadau o Antigoni a Siwan yn arbennig teimlaf y byddai cyflwyniadau yn ymwneud yn benodol â'r ardal wedi bod yn fwy priodol.

Nid "blas ar Sir Benfro" a gafwyd mewn gwirionedd, fel yr honnai'r cyflwynydd ar ddiwedd y perfformiad, ond yn hytrach blas ar dalentau'r sir.

Yr hyn oedd y cyflwyniad mewn gwirionedd oedd detholiad o'r hyn y byddwn yn ei weld gan berfformwyr y sir yn Theatr y Maes yn ystod yr wythnos. Wedi gweld y cyflwyniad hwn gallaf eich sicrhau y bydd hi'n wythnos dda yn y theatr honno.


Adolygiad gan Catrin Jones





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy