![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![O'r Maes](/staticarchive/055af2f1c23137253abb581948533b428787da4b.gif)
Ceisio tegwch i S4C
Aeth galwad oddi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am i'r Llywodraeth sicrhau digon o arian i S4C gystadlu â sianelau teledu eraill.
Mewn cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau rhybudddiwyd aelodau o Gylch yr Iaith gan ymgynghorydd darlledu, Euryn Ogwen Williams, fod peryglon enbyd yn wynebu darlledu yn yr iaith Gymraeg yn sgil mesur cyfathrebu a fydd gerbron y senedd yn Llundain cfyn bo hir.
Yn dilyn dehongliad o fesur a ddisgrifwyd fel un "eithriadol o gymhleth, anodd ei ddeall" ac iddo 250 o gymalau a nifer dirifedi o is-gymalau pleidleisiodd y gynulleidfa heb wrthwynebiad o blaid cynnig yn dweud:
"Mae'r cyfarfod hwn ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi, yn pwyso ar y Llywodraeth i ofalu fod cyllid digonol yn cael ei roi i S4C, o dan y ddeddf gyfathrebu newydd, pan sefydlir hi, i gystadlu yn ffafriol â phob gwasanaeth darlledu cyhoeddus ym Mhrydain."
Cyn cyflwyno'r cynnig i bleidlais cyflwynodd cadeirydd y cyfarfod, y Dr Meredydd Evans, ffigiurau a oedd yn dangos, meddai ef fod S4C ymhell ar ôl sianeli eraill o ran cynhaliaeth ariannol.
Cymharodd y £140m y mae sianel Saesneg "wanaf ei hadnoddau ariannol", Channel 5, yn ei gael a'r £64m a gaiff S4C.
A disgrifiodd yr arian y mae S4C yn ei gael i ddatblygu digideiddio fel "lot o ddim byd" mewn cymhariaeth a'r hyn sydd ar gael i sianelau Saesneg.
"Ydi peth fel'na yn deg?" gofynnodd. "Nefar in Iwrop," atebodd gan alw am arian digonol i S4C gystadlu â'r corfforaethau y mae'n cystadlu yn eu herbyn.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|