Archdderwydd yn cefnogi deiseb Cymdeithas yr Iaith
Llaw yr Archdderwydd yn rhoi eri groes i lawr Archdderwydd newydd Cymru oedd y cyntaf i arwyddo deiseb sy'n dweud nad yw cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol i achub y Gymraeg yn ddigonol.
Ac y mae Robyn Lewis wedi amddiffyn ei weithred fel un sy'n gwbl gydnaws a'i safle fel archdderwydd.
"Pwrpas Gorsedd y Beirdd ydi diogelu'r Gymraeg ac mi fydda i yn dehongli diogelu y Gymraeg yn fy ffordd fy hun," meddai wrth 大象传媒 Cymru'r Byd wedi iddo roi ei groes ar boster y tu allan i babell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yr oedd ei groes yn arwydd o'i gefnogaeth i'r gosodiad: "Nid fydd y Gymraeg yn cael ei diogelu trwy bolisiau presennol y Cynulliad Cenedlaethol."
Hon oedd ei weithred gyntaf, ers ei orseddu'n archdderwydd yn Y Trallwng fis Gorffennaf, y gellid ei dehongli fel un 'wleidyddol'.
Eglurodd iddo benderfynu cefnogi'r ddeiseb gan Gymdeithas yr Iaith oherwydd ei anfodlonrwydd fod y Saesneg yn iaith orfodol a'r Gymraeg yn un ddewisol.
"Yn naturiol mae iaith ddewisol yn wanach na iaith orfodol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith fod y rhai sy'n arwyddo'r ddeiseb yn gwneud y dewis rhwng ei chynlluniau hi a'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Arolwg iaith y Cynulliad Cenedlaethol.
|