大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Y brenin yn agor Penfroc

Elfus Preseli y tu allan i PenfrocAm ddau o'r gloch brynhawn Sadwrn agorwyd pabell roc Eisteddfod Tyddewi 2002 yn swyddogol gan frenin y byd roc a rôl.

Na, nid y brenin wedi atgyfodi oedd y gwr yn y wisg wen, y sbectols tywyll a'r tlysau aur ond Bil Hughes o Gaernarfon, neu Elfus Presli (Preseli yn ystod yr wythnos hon) fel y gelwir ef.

Mae Bil Hughes yn dynwared Elvis ers tua saith mlynedd erbyn hyn. Mae'n teithio o gwmpas yn ei wisg arbennig ac yn dynwared y gwr mewn nosweithiau ar hyd a lled y gogledd.

Nosweithiau i godi arian i Dy Gobaith, hosbis i blant yng Ngogledd Cymru, yw'r cyngherddau y bydd yn cymryd rhan ynddyn nhw.

Canu i gyfeiliant acordian
Mae Bil Hughes yn canu fersiynau Cymraeg a Saesneg o ganeuon Elvis i gyfeiliant acordian.

Ef ei hun sy'n cyfieithu'r caneuon ac mae wedi cyfieithu dros 22 o ganeuon y brenin i'r Gymraeg.

Ond nid caneuon Elvis yn unig y bydd yn eu canu tra'n perfformio yn y wisg wen a'r addurniadau euraidd. Mae hefyd wedi dysgu dros 100 o ganeuon Cymraeg sy'n amrywio o ganeuon gwerin i emynau.

Hefyd mae wedi cyfieithu nifer o ganeuon Saesneg o gyfnod Elvis, y pumdegau, fel Please Release Me, I Cant Stop Loving You ac Unchained Melody (Alaw Digyfnewid).

Nid yw'n cymryd llawer o amser i gyfieithu'r caneuon hyn "fel arfer os ydw i'n mynd i hwylia' mi fydda i'n cyfieithu dwy neu dair mewn noson".

Yn ogystal â chyfieithu geiriau'r caneuon i'r Gymraeg, mae Bil Hughes hefyd yn creu ei gerddoriaeth gefndir ei hun a hynny drwy ddefnyddio'r acordian.

Offeryn anghyffredin
Nid yn aml y gwelwn ni bobol yn canu acordian y dyddiau yma. Beth yn union felly a ddenodd Bil Hughes at yr offeryn anghyffredin hwn?

"Mi ges i fy acordian cynta' pan oeddwn i'n ddeg oed. Mi ges i hyd iddo fo ar y tip yng Ngwalchmai.

"Ond mi roeddwn i wedi cael fy nenu at yr acordian cyn hynny. Roedd gan hen filwr rhyfel un ohonyn nhw yn Llynfaes ers talwm ac fe ges i fy ysbrydoli ganddo fo".

Ond wedi dod o hyd i'r offeryn roedd yn rhaid mynd ati i ddysgu sut i'w ganu. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd gan fod yr offeryn yn un mor anghyffredin.

"Mi nes i drio cael gwersi ond doedd yna neb yn gwneud felly mi es i ati i ddysgu fy hun. Ond doedd hi ddim yn hawdd achos roedd yna 120 o fotymau a doeddwn i ddim yn gallu eu gweld.

"Roedd gan mam gwpwrdd â gwydr mawr arno fo ac felly mi benderfynais i aros adra' o'r ysgol am wythnos gyfa'. Roeddwn i'n benderfynol o ddysgu."

Erbyn heddiw mae'r hen acordian wedi hen fynd ac yn ei le mae gan Bil Hughes acordian drydan newydd.

Dillad yr un fath ag Elvis
Er bod yr acordian drydan yn rhan bwysig o bob perfformiad ni fyddai'r un perfformiad yn gyflawn heb y dillad. Y dillad sy'n sicrhau fod Bil Hughes yn edrych yr un ffunud ag Elvis.

Mae gan Bil Hughes bedair siwt sydd wedi cael eu gwneud yn arbennig ar ei gyfer. Ond ef ei hun sydd yn gyfrifol am yr addurniadau. "Mi rydw i'n mynd o gwmpas yn chwilio am y rhain ac yn eu cael nhw mewn gwahanol siopa'".

Mae Bil Hughes wedi bod yn ffan mawr o Elvis erioed. Cyn dechrau ei ddynwared byddai'n canu'r caneuon mewn nosweithiau carioci. Mae ganddo bentwr o lyfrau yn adrodd hanes y brenin roc a rôl, cannoedd o luniau, rhai ohonyn nhw wedi eu harwyddo gan y dyn ei hun.

Bil Hughes yw'r unig Gymro Cymraeg sy'n dynwared Elvis. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn perfformio ym marchnad Llangefni, Sioe Ynys Môn ac yn perfformio mewn cyngerdd gyda'r Moniars yng Nghemaes.











Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy