Hwb i Gelf a Chrefft ar y We
Ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol, Sir Benfro, Tyddewi cyhoeddwyd menter newydd arloesol ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod.
Mewn lansiad arbennig yn yr Arddangosfa Celf a Chrefft ar y maes cyhoeddwyd manylion gwefan arbennig a fydd nid yn unig yn oriel barhaol i ddangos gweithiau celf buddugol yr Eisteddfod, ond a fydd yn llawer mwy na hyn.
Mae gwefan www.bbc.co.uk/eisteddfodcelf nawr yn fyw ac yn ganlyniad misoedd o waith gan dîm ar-lein 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae gwefan Saesneg cyfatebol i'w darganfod ar www.bbc.co.uk/eisteddfodarts.
Ar gael drwy'r flwyddyn Bydd yn golygu bod gwaith yr artistiaid ar gael i'r cyhoedd drwy'r flwyddyn, bob awr o'r dydd ac ym mhedwar ban byd.
Ymysg y tudalennau cynhwysfawr mae: - rhestr gyflawn o holl enillwyr yr Adran Gelf a Chrefft - lluniau o waith yr enillwyr - yn ddarnau celf, arlunwaith a phensaernïaeth - sylwadau'r beirniaid ar y gweithiau unigol - dehongliad yr artistiaid o'u gwaith a'u hegwyddorion artistig - manylion cyswllt yr artistiaid a chrefftwyr - dolen i wefannau eraill perthnasol
Yn ogystal â hyn mae 大象传媒 Cymru yn gyfrifol am ddatblygiad pellach a fydd gobeithio yn galluogi artistiaid i hyrwyddo eu gwaith yn broffesiynol, trwy eu darparu â chardiau busnes gyda'u manylion cyswllt a rhifau ffon i'w dosbarthu i gysylltiadau a phrynwyr posib.
Bydd y cardiau yn cyfeirio at y wefan Celf a Chrefft lle bydd modd i bobol weld cynnyrch yr artistiaid.
Cardiau post arbennig Yn ychwanegol i hyn, bydd cardiau post arbennig yn cael eu dosbarthu am ddim ar y maes. Mae'r pedwar gwahanol gerdyn post trawiadol yn dangos amrywiaeth o gynnyrch yr adran Gelf a Chrefft mewn ffordd ddeniadol, ac yn nodi pwy sy'n gyfrifol am y gweithiau.
Gobaith 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yw y bydd y datblygiadau uchod yn profi'n boblogaidd a defnyddiol i lawer - y rhai na lwyddodd i gyrraedd yr arddangosfa ar y maes neu'r rhai sydd am gip arall, y rhai sydd â diddordeb yn y maes ac am ddysgu mwy am y crefftwyr a'u gwaith.
Hefyd bydd yn ddefnyddiol i'r artistiaid eu hunain i hyrwyddo eu cynnyrch a gobeithio ddenu diddordeb a gwaith.
Datblygiad pellach i Gymru'r Byd Mae'r fenter yn ddatblygiad pellach i 大象传媒 Cymru'r Byd, gwasanaeth ar-lein 大象传媒 Cymru sydd wedi ehangu'n gyson ers ei lansiad ar Ddydd Gwyl Dewi 2000.
Meddai Keith Jones, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg 大象传媒 Cymru: "Rwy'n falch iawn o weld y bartneriaeth hon yn dwyn ffrwyth. 大象传媒 Cymru yw partner darlledu'r Brifwyl ac mae'r datblygiad yma'n enghraifft wych o gydweithio creadigol rhwng dau sefydliad Cymraeg ym maes y cyfryngau newydd.
"Cymru'r Byd yw'r brif fynedfa i gynnwys Cymraeg ar y We a rwy'n gobeithio y bydd y safle newydd yn hwb i'r celfyddydau gweledol yng Nghymru."
Meddai Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae wedi bod yn freuddwyd gan yr Eisteddfod i ehangu oes yr arddangosfa ers peth amser. 'Rwan, diolch i'r cyfryngau newydd a 大象传媒 Cymru mae hyn yn cael ei wireddu.
"Yr hyn rydyn ni yn gobeithio ei weld yn deillio o hyn yw y bydd yr artistiaid a'r crefftwyr yn derbyn gwahoddiadau i arddangos a chomisiynau eraill o ganlyniad i'r datblygiad yma."
|