大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Steddfod Gwilym Owen - dydd Gwener

Gwilym OwenYnghanol y gwynt a'r glaw mae Prifwyl Penfro Tyddewi yn tynnu ei thraed ati. Yr elfennau wedi torri calon llawer iawn o'r stondinwyr a phabell Shelter hyd yn oed wedi cau.

Ond prifwyl fu hon lle bu cyfeirio at Waldo bob hanner awr bron a phrifwyl lle ddangoswyd mai ffigwr cwlt newydd y sefyliad hunan benodedig ddiwylliannol dosbarth canol ydi'r danbaid fendigaid Mererid. Brysied y dydd y gwelir cadeirio merch arall neu mi fydd y Fererid hon wedi ei dwyfoli a'i sancteiddio - Ych a fi.

Ond gair bach o dosturi rwan dros hen gojar o Gymro alltud yn Birmingham Alabama a gysylltodd â gwasanaeth Cymru'r Byd, 大象传媒 Cymru wedi gwylio seremoni'r Coroni ar y We bnawn Llun. Roedd o yn ei ddagrau medda fod ond mi fasa fo wedi hoffi gweld mwy o wynebau aelodau'r Orsedd yn cyrraedd a gadael y llwyfan. Rhain medda fo sy'n cynnal diwylliant y genedl. Dyna ddiniweidrwydd yr alltud falla.

Crwydro'r maes yn y gwynt y bore 'ma a gweld creadur hynod mewn het mynd a dwad yn stwrian o gylch stondin The Party of Wales. A phwy oedd o ond yr hynaws Paul Starling o'r Welsh Daily Mirror yn chwilio am y Prif Weithredwr Dr. Dafydd Trystan sydd yn ôl Starling yn ei golofn y bore 'ma wedi bod yn cuddio rhagddo. Mae gen i gwestiwn neu ddau i ofyn iddo meddai'r hac cyn diflannu y tu ôl i'w ragfarnau.

Doedd Ian Parri o'r Daily Post ddim ar y maes heddiw - doedd hynny ddim yn syndod. Yn ôl ei gynnyrch ym mariau tai potas Solfach mae ei Brifwyl o wedi digwydd. Ond o leia fe wnaeth yr ymdrech doedd yna yr un o aelodau staff ein honedig bapur Cymraeg cenedlaethol yn agor i'r Wyl. Hogia'r Cymro ble'r oeddach chi.

A beth am y morgrugyn prysur, Clive Betts. Mae'n amlwg fod angen gwers ar ddearyddiaeth Cymru arno fo. Y bore 'ma mae o'n honni fod cartref yr Archdderwydd ysgwn i a gafodd y penadur gorseddol bang o eogrwydd y bore 'ma wrth groesawu yr ugain ofydd i'r wisg werdd er anrhydedd. Oherwydd mewn llythyr i'r Daily Telegraph yn gynharach yr wythnos yna cyhoeddodd mai anrhydedd eilradd - 'merely a green robe' gafodd y Fam Frenhines. Dyna beth oedd taflu pwcedaid o ddwr oer o ben yr ofyddion newydd balch sy'n profi peth mor beryglus ydi hi i Archdderwydd sgwennu llythyrau i'r Wasg.

Cwestiwn bach rwan i drefnwyr Seremoni Cymru a'r Byd. Ydi o'n gywir i honni nad oedd pob un oedd ar y llwyfan ddoe yn Gymry ar ddiasberod. Onid oedd yna dîm o bump o ymaflwyr codwm o Lydaw heb ddafn o waed Cymreig yn ei gwythiennau nhw ymhlith y rheiny a ganodd 'Unwaith eto yng Nghymru annwyl..' a cholli deigryn bach ar yr un pryd. Oce faswn inna ddim wedi dadla efo nhw os oeddan nhw'n benderfynol o fod yn rhan o'r Sioe!

A dyma ni ar ôl yr holl heip am gecru a phrotest - arolwg iaith ac argyfwng Cymreictod y cyfan gafwyd oedd clamp o dân siafins. Galwch o'r fuddugoliaeth i wleidyddiaeth consensws neu ffuddugoliaeth i'r gwynt a'r glaw - ond rywsut yr hyn welson ni yn Nhyddewi oedd
Angerdd pob fflam a thân pob nwyd
Yn troi'n ei dro yn lludw llwyd.

Da bo chi.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

大象传媒 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy