Dyddiadur Hywel: rhannu profiadau steddfodol
Hywel Gwynfryn yn Eisteddfod Tyddewi - y dyddiau cyntaf.
Yn y niwl ar fryniau Dyfed gyda Hywel Gwynfryn
Dydd Gwener:
Codi am chwech i ddadlwytho fan yn llawn o botia bloda-30 i gyd-a dau feic a chadair- nid un eisteddfodol! Gweddillion cynnwys y ty ym Mhrestatyn. Da ni wedi symud yn ol i'r brifddinas ar ôl saith mlynedd yn y Gogledd. Peidiwch a gofyn "Sut aeth y symud?"
Digon ydi dweud fod fy ngwraig wedi rhoi caetch yn cynnwys pedair cath yng nghefn yr Espace, wedi cau drws y ty, ac wedi gadael goriadau'r ty, a goriadau'r car-- yn y ty.
Wyddwn i ddim fod ganddi hi eirfa mor liwgar nes iddi fy ffonio fi yn ystod rhaglen Ras yr Wyddfa i adrodd yr hanes.Ta waeth. Gadael y ty yng Nghaerdydd, efo'r mab Owain sy'n gweithio i gwmni bwyd Dolen ar faes yr Eisteddfod, am dri. Cyfarfod cyflym ar faes y Steddfod efo Nia Lloyd Jones, Dafydd Du. a'r criw cynhyrchu. Mae Nia yn paratoi ar gyfer cynhyrchiad go arbennig cyn bo hir-babi arall, fydd yn chwaer neu'n frawd i Elin Felly rhan o fy nylestwydd i- fel tad i saith- fydd edrach ar ei hol yr wythnos yma! Cyrraedd Gwesty'r Mariners, Hwlffordd erbyn 7. Dwi'n aros mewn stafell fawr braf-digon o le i ddau gor adrodd. Gwely cynnar, a gwylio Man U. yn colli yn erbyn Ajax.
Dydd Sadwrn:Codi am saith.....ar y cae erbyn naw. Cael y cwpled canlynol gan ffrind, cwpled wedi wedi ei scriblo ar wal ty tafarn y Ship yn Nhrefin "Un sy'n siwr o lychu i sêt, Yw un tal ar y toilet"....Dai Rhys Davies, o dîm Talwrn, Tan y Groes, oedd yr awdur.
Hiwmor y cwpled yn fy atgoffa o englyn Machraeth sgwennwyd yn ystod wythnos fwdlyd Eisteddfod Abergwaun yn 86
"O dan draed mae'r mwd yn drwch-yn sicli
Fel siocled neu bibwch
I hwn, ni throedia'r un hwch
Ella- ond yn y twllwch.
Crwydo o gwmpas y Maes am rhyw awr....Sgwn i ddaru Dafydd Islwyn brynu hunagofaint T.Llew Jones, yr oedd o'n ei fodio ym mhabell Gomer?..
.Cyfle i alw yn yr Arddangosfa Gelf a chrefft.---dim llawer o gelf na chrefft yn perthyn i rai o'r lluniau...eraill, fel darluniau Graham Sutherland, yn wych..
Mewn un gornel mae 'na fran, wedi'i stwffio yn sefyll ar goes rhaw, sydd wedi ei lapio mewn copi o'r Western Mail, yn dangos llun o aelodau'r Cynulliad..
Mae'r cyfan yn sefyll ar fwrdd sy'n troi a thrên fechan electric yn mynd rownd a rownd...
Give me Iwan Bala, any day!!
Prynu cerdyn i longyfarch Nia Roberts ar enedigaeth ei merch gynta'. Nel di'r enw, ar ôl ei Nain....
Newydd glywed fod Twm Morus a Mei Mac yn aros yn Solfach...dwi'n siwr o chwilio amdanyn nhw ar fy ffordd yn ôl i Hwlffordd.
Rhaid imi gyfadda' dwi'n dipyn o grwpi cynganeddol ...Cofio'r englyn gyfansoddodd Twm i Sion Aubrey
A minnau'n colli mynedd- yn y car
Daw'r co'n ddidrugaredd
Ar y lôn hir o Lyn Nedd
Am lôn y ddeddeng mlynedd.
Sian Cothi yn bownsio heibio...Mae hi bob amser yn llawn bywyd, ac yn hapus. Sgwn i lle mae'r tabledi i'w cael?...
Gadael y cae ar ôl ychydig o ddarlledu a gweld arwydd ar y ffordd "Gwartheg, araf."
Dychmygu, dosbarth o heffrod, a tharw o athro yn gofyn i'r dosbarth "Reit. Pwy fedar ddeud wrtha i, be di'r "T " yn enw T.Llew Jones...dowch...brysiwch. Ew da chi'n wartheg, araf!!...
Gyda llaw, T.Llew...be' ydi'ch enw cynta chi?
Dydd Sul: Fyny am 7.30...brecwast cynnar...neidio i'r car....a chroesi'r Preselau i Dudraeth..
.Tarth y bore'n codi fel gwlan cotwm llwyd, a phelydrau'r haul cynnar yn hollti'r cymylau....Hwn ydi'r "niwl ar fryniau Dyfed" y canodd Hergest amdano fo, mae'n siwr....
Cadwyn o 27 o drumiau yn ymestyn am 15 milltir, o lethrau grugog y Frenni Fach, hyd at gopa creigiog Carningli, ydi'r Preselau, ac o gopa Foel Cwm Cerwyn ar ddiwrnod braf fe welwch chi Ynys Enlli.....
Ar ôl hanner awr, hamddenol (ydw, dwi'n medru gyrru'n araf!) dyma gyrraedd Tudraeth a'r Cnapan - ty mawr pinc ar ochor y ffordd, gwesty bychan cartrefol, efo bwyd o'r safon ucha'.
Fe agorodd Mike a Judy ddrysau'r Canpan am y tro cynta un flynedd ar bymtheg yn ôl adeg Eisteddfod Abergwaun, a byth ers hynny, da ni wedi cadw mewn cysylltiad....
Ar ôl paned o goffi, a sgwrs, ymlaen i Dyddewi, ac yn ôl i'r cae....
Gweld dau brif-fardd, y naill, Myrddin ap Dafydd yn reidio'i feic yn ansicr iawn drwy'r maes parcio a'r prif-fardd Iwan Llwyd, efo het borc pei ar i ben.
Mae o'n mynd i edrach yn debycach i Bob Dylan, bob blwyddyn.
Gair efo prifardd arall - John Gwilym Jones. Fo fydd yn llenwi'r bwlch adawyd ar ôl marwolaeth Delme Evans yr Arwyddfardd....
Diwrnod digon tawel ar y maes...dwy awr o raglen yn y prynhawn a thrichwarter awr heno.....Heb os y gystadleuaeth fwya poblogaidd oedd canu emyn dros 60 oed....cydweithwyr yn tynnu fy nhgoes "Wti'n cystadlu flwyddyn nesa?"
Taswn i. 'dwi'n meddwl mai "O Iesu mawr, rho d'anian bur" faswn i'n ei ddewis...a sefyll ar gadair i gyrraed yr Amen ar y diwedd!
Ta waeth, fe ganodd John James Tomos o Dafen ger Llanelli "A yw fy enw i lawr?" "Ydi" medda'r beirniad, a rhoi'r wobr gynta' iddo fo.....
Nôl i Hwlffordd gyda'r nos a chael pryd o fwyd Chineiaidd gyda'r corddwr cerddorol, y cyfaill Alwyn Humphreys, sydd wedi deud yn ddi flewyn ar dafod fod na ormod o gowbois cerddorol ymhlith y beirniaid....Rydan ni'n dau yn cydweithio yn y Steddfod ers 1982, felly rhwng y Spring Roll a'r prif gwrs, fe fuon ni'n rhannu atgofion sweet and sour am eisteddfodau a fu.
Dydd Llun:.:Ar y maes erbyn wyth...O leia, dwi'n credu mae maes y Steddfod ydio...Mae'r pafiliwn ar goll ynghanol niwl tew...Drwy'r niwl....pwy yw hwn sy'n dod i'm cyfarfod....wel. wel...un o'r meibion, Owain, sy'n gweithio i gwmni Dolen ar y maes. Mae o'n disgwyl canlyniadau lefel A ac yn gobeithio mynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd..
Galw heibio pabell Gomer a chael; copi o hunangofiant T.Llew Jones a Cerddi Penfro, wedi ei golygu gan Mererid Hopwood.
.Dyma englyn sydd yn y gyfrol gan Alan Llwyd i Eglwys Ty Ddewi
"Ei meini yw gweddiau.-pob carreg
yn garreg o eiriau
Dewi'n dyst yn ei distiau
A Duw'n bod yn ei bwau
....yn naturiol mae 'na le amlwg i Waldo yn y casgliad, ac ar y maes hefyd..Mae na glamp o wal fawr , wedi ei chodi drws nesa i le'r 大象传媒, ac mae na groeso i unrhyw un sy'n ddigon craff i roi graffiti barddonol ar y wal wen. sydd wedi ei bedyddio yn Wal-do. Dylan Iorwerth oedd un o'r rhai cynta' i gyfrannu ...
Cerfia dy ragfarn arni-naddu'r gerdd
A rho gan i gorddi
Chwarae'r diawl yw dy hawl di
Rho ffeir yn y craff-iti.
Cofio englyn Dylan i gyfarwyddo Sais i'r Pwll Nofio
Tagaf gan rym taeogaeth-"You go right",
Yn grwm mewn gwasanaeth,
"See a sign"-dangos y saeth,
"Facing it says carthffosiaeth."
Cael cwmni Dylan yn y Pafiliwn am awr ar gyfer coroni Aled Jones Williams....ac yna treulio awr yn trio gadael y maes parcio ......
Gyda'r nos, cael cwmni criw Radio Cymru yn y gwesty a Rhisiart Arwel yn canu'r gitar....
Noson hwyr!!!!!