![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![O'r Maes](/staticarchive/055af2f1c23137253abb581948533b428787da4b.gif)
Tlws cerdd: neb yn taro'r nodyn iawn
Gormod o hen gesig yn cystadlu Er i saith gystadlu nid oedd neb yn deilwng o Dlws y Cerddor Eisteddfod Tyddewi a chafodd gwobr fawr gyntaf yr wyl ei hatal gan y beirniaid, Eric Jones a Robat Arwyn ddydd Sadwrn.
Y gystadleuaeth oedd cyfansoddiad gwreiddiol i bedwar llais a fyddai'n addas i gôr amatur ei ganu i gyfeiliant piano neu organ.
Dywedodd y beirniaid eu bod yn yn chwilio am gyfansoddiadau corawl " a fyddai'n cyfathrebu â chynulleidfa" ac yn rhoi "her a sialens" resymol i gorau amatur.
Cawsant eu siomi ac wrth grynhoi eu beirniadaeth cyn cyhoeddi na fyddai neb yn deilwng dywedwyd; "Siomedig yw canfod daarnau digyfeiriad a darnau hefyd nad ydynt yn cynnig unrhyw her arbennig."
Ofnwyd i gystadleuwyr ystyried y gair "amatur" yn gyfystyr ag "eilradd" tra mewn gwirionedd fod corau amatur yn "dra awyddus" i fynd i'r afael a her gerddorol.
"I raddau helaeth, gwelir diffyg ymwybyddiaeth ar ran cyfansoddwyr o'r math o ddeunydd amrywiol ei natur a genir gan ein corau y dyddiau hyn," meddent.
Ychwanegwyd at eu siom o weld fod mwy nag un hen gaseg yn y gystadleuaeth gyda "mwy nag un o'r darnau wedi ymddangos mewn cystadleuaeth yn eisteddfodau'r gorffennol."
Ychwanegwyd: "Cawn ein digalonni bod cyfansoddwyr mor ddiddychymyg ac, mae'n rhaid dweud hefyd, mor llugoer, fel na allant ymdrafferthu i gyfansoddi darn newydd ar gyfer cystadleuaeth mor bwysig a hon."
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|