大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Disgyblion Ysgol Maes Hyfryd gyda Costas a'r trelar wnaethon nhw ddylunio iddo Cynllunwyr ifanc yn gwireddu breuddwyd teledu
Mae gr诺p o gynllunwyr ifanc talentog wedi cael eu cludo i fyd cyffrous y teledu - diolch i drelar arbennig iawn.
Plant o Ysgol Maes Hyfryd, Cynwyd, ger Corwen, sydd wedi creu'r cynllun gwreiddiol ar gyfer cerbyd unigryw sy'n chwarae rhan ganolog mewn cyfres deledu newydd.

Dydd Gwener, Mai 20 derbyniodd y disgyblion ifanc wahoddiad i ymweld 芒 set y gyfres i weld ffrwyth eu dyfeisgarwch.

Mae'r gyfres Meees (Baaas yn Saesneg), sydd wedi'i hanelu at blant cyn oed ysgol, yn cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C ac mae'n adrodd hanes teulu o ddefaid aml-hiliol sy'n byw i fyny'n uchel ar y bryniau yng Nghymru.

Pennaeth y teulu yw'r taid neu'r tad-cu Groegaidd, Costas, sy'n hoff o ganu opera ac yn gweithio fel asiant ailgylchu annibynnol.

Mae'n llafurio bob dydd yn casglu eitemau nad yw pobl eraill eu hangen mwyach a'u trawsnewid i ddyfeisiadau a theclynnau hynod a rhyfeddol.

Meddai'r Cynhyrchydd Nia Ceidiog, o Cynyrchiadau Ceidiog Creations: "Cyd-ddigwyddiad ffodus iawn oedd yn gyfrifol am y ffaith fod disgyblion Ysgol Maes Hyfryd wedi ymwneud 芒'r cynhyrchiad."

"Fe wnaethom gysylltu 芒 chwmni Ifor Williams Trailers, sydd wedi'i leoli dros y ffordd i'r ysgol yng Nghynwyd, i weld a allent adeiladu cerbyd Costas."

"Tua'r un pryd, gofynnodd yr ysgol i'r cwmni a allai helpu disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 gyda phrosiect dylunio."

"Roedd yn gyfuniad mor berffaith o ddyfeisgarwch yr ifanc a sgiliau cynhyrchu fel nad oedd modd osgoi dod 芒'r disgyblion a'r cwmni at ei gilydd i gydweithio."

"Mae'r plant wedi creu cynllun hollol wych ac fel y byddech yn disgwyl gan brif gynhyrchydd trelars Ewrop, mae'r gwaith adeiladu o'r radd flaenaf."

"Mae llu o nodweddion ychwanegol ar gerbyd lliwgar Costas, nad ydynt i'w gweld fel arfer ar drelars a bocsys ceffylau'r cwmni.

"Mae'r rhain yn cynnwys magnet i godi metel a pheiriant sugno diwydiannol i sugno eitemau eraill i'w grombil.

Keiron Jone a Alice Davies (11 oed) o'r ysgol gyda Costas Ar Fai 20 aeth y t卯m o gynllunwyr ifanc i Stiwdio Un yn y Ganolfan Deledu yng Nghaerdydd, i gyfarfod y cast a gweld un o'r 52 o raglenni yn cael ei recordio.

Dywedodd Oliver Crimp, 10 oed: "Mae'r trelar yn gr锚t. Mae heddiw wedi bod yn brofiad bythgofiadwy."

Roedd Caitlin Rocliffe, 11, yr un mor frwdfryding 芒 balch bod eu cynllun nhw wedi dod yn fyw yn y stiwdio.

Meddai: "Mae'n wych. Mae'n edrych cymaint gwell ar 么l cael ei baentio."

"Mae Ifor Williams Trailers wedi gwneud job ffantastig ac mae lot o'n syniadau ni wedi cael eu defnyddio. Dwi yn edrych ymlaen at weld y gyfres ar y teledu."

A dywedodd Dilys Ellis, y dirprwy brifathrawes: "Mae nhw wedi eu synnu yn sbio o gwmpas y stiwdio - mae o cymaint mwy nag oedden nhw'n disgwyl."

"Mae yna waw ffactor yngl欧n 芒'r holl ddiwrnod - mi wnawn nhw gofio heddiw am byth."

Meddai Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio cwmni Ifor Williams Trailers: "Roeddem wrth ein bodd pan ddaeth y cais i ni helpu gyda'r prosiect hwn ac rwy'n meddwl ei bod yn wych fod y plant wedi gallu gweld ffrwyth eu dychymyg ar waith yn y stiwdio."

Roedd gweithio gyda'r plant yn bleser gwirioneddol oherwydd y ffordd wreiddiol yr oeddent yn meddwl, ac am fod eu creadigrwydd yn ddiderfyn. Wyddoch chi ddim, efallai y bydd rhai o'r plant yma'n ymuno 芒 th卯m dylunio'r cwmni mewn ychydig flynyddoedd - mae digon o dalent yno, yn sicr."

Meddai Siwan Jobbins, Golygydd Comisiynu Rhaglenni Plant S4C:

"Mae S4C yn adnabyddus drwy'r byd am ansawdd ei raglenni animeiddio i blant oed meithrin, fel Sali Mali a Sam T芒n, sy'n denu gwylwyr ifanc ar S4C a Cbeebies ar hyn o bryd. Mae'r Meees yn dilyn yn dynn ar eu sodlau.

"Dyma brosiect cyffrous sy'n defnyddio'r dechnoleg animeiddio ddiweddaraf i ddod 芒 'phypedau croen' (fel y Teletubbies a'r Tweenies) yn fyw.

"Teulu o ddefaid aml-hiliol yw s锚r y sioe, sy'n delio 芒 dinasyddiaeth, gwaith t卯m a chyfathrebu, ac yn annog pobl i ailgylchu a byw mewn harmoni 芒 phobl o wahanol gefndiroedd hiliol."

"Ei nod yw difyrru wrth adlewyrchu nodau Cyfnod Allweddol 1 y cwricwlwm. Mae'r cymeriadau yn hoffus a chariadus ac yn si诺r o brofi'n boblogaidd dros ben yma a thramor."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy