Cofiant yw am Robert (Bob) Evans, a fu yn ganwr ac arweinydd eisteddfodau ac ati yn ardal yr hen Sir Ddinbych.
Pris y llyfryn 60 tudalen (sydd wedi ei ysgrifennu gan ei fab Gwyn Lloyd Evans) yw 拢2. Bydd holl arian y gwerthiant yn cael ei roi i'r hosbis i blant T欧 Gobaith.
Hanes Bob
Ganwyd Bob Evans yn Y Bylchau, Dinbych yn 1907, a symudodd y teulu i fyw i Fetws-yn-Rhos, Abergele yn 1927.
Yno bu Bob yn byw, tra'n gweithio yn yr hen Sir Ddinbych, hyd nes iddo ymgartrefu yng nghartref nyrsio'r Hen Ficerdy, Pandy Tudur, ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth yn 1999.
Bu Bob yn darlithio i wahanol gymdiethasau, am y cymeriadau a adnabu yn ardaloedd Dinbych, Llansannan, Betws-yn-Rhos ac Abergele. Mae'r llyfryn hefyd yn cynnwys portreadau o rhai o'r cymeriadau yma.
Mae'r siopau (a'r banc) canlynol wedi cydsynio i werthu'r llyfrynnau heb godi comisiwn am wneud y gwaith:
Siop Costcutter, Stryd y Farchnad, Abergele, Pen y Bont , Llanfairtalhaiarn,
Siop y Llan, Llansannan
Swyddfa'r Post, Betws-yn-Rhos
G.A. Mortimer, Pwll y Grawys, Dinbych
Alliance & Leicester, Ffordd Penrhyn, Bae Colwyn.
Neu gellir anfon siec am 拢2 yn daladwy i T欧 Gobaith: i Gwyn Lloyd Evans, 5 Coed Llawryf, Abergele, LL22 7EF
|