Lluniau o Dreialon C诺n Defaid Cenedlaethol Cymru 2006
Elis Wyn Edwards, o Ruthun yw Llywydd Cymru, Cymdeithas C诺n Defaid Rhyngwladol.
"Treialon Cenedlaethol Cymru yw hon ar gyfer dewis t卯m o bymtheg o Gymry i fynd i gystadlu yn y Treialon Rhyngwladol yn Kelso, yn Yr Alban.
Bu cyfanswm o 150 yn cystadlu dros y tridiau.
Mae gennym ffordd o reoli'r nifer sydd yn cael cystadlu ac mae'n rhaid eu bod wedi ennill hyn a hyn o bwyntiau mewn treialon cyffredin o wythnos i wythnos i allu dod i mewn i'r treialon yma.
Fel Llywydd rwyf yn hynod ddiolchgar am waith caled y pwyllgor lleol i sicrhau llwyddiant y treialon hyn.
Stad Penbedw yw hon ac rydym yn ddyledus iawn i'r perchennog, Capten Archdale a'i feibion.
Mae'r ddau fab wedi bod yn hynod o weithgar yn gwneud popeth yn gyfleus i ni ar gyfer y treialon hyn.
Eleni mae hi'n ganmlwyddiant ers i'r Gymdeithas Ryngwladol gychwyn.
Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf ym 1906 ar y gororau rhwng Yr Alban a Lloegr.
Ym 1922 fe ymunodd Cymru gyda hwy ac mae Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gymdeithas ers hynny.
Yn y chwedegau cynnar fe ymunodd yr Iwerddon ac mae hi'n gymdeithas ryngwladol fyd-eang erbyn hyn.
Cafodd Treialon C诺n Defaid y Byd ei chynnal yn y Bala yn 2002.
Bydd y nesaf yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn 2008.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i'w chael yn 么l yng Nghymru.
Gallai fod wedi mynd i'r Alban neu Lloegr yn 2008, ond ni dyma'n ei dechrau yn 么l yn 2002 yn y Bala ac rydym yn ffodus i'w chael yn 么l.
Mae'r treialon hynny yn dod 芒 llawer o ddiddordeb o dros y byd. Mae yna gystadleuwyr yn dod o Seland Newydd, Awstralia, Canada, Unol Daleithiau America, Brasil a phobl o bob cwr o Ewrop.
Rwyf yn edrych am leoliad i gynnal y treialon rhyngwladol Prydain yr wythnos cyn treialon y byd yng ngogledd Cymru."
Mae Glyn Jones o Fodfari yn un o hoelion wyth Treialon Cwn Defaid yng Nghymru, ac ymddangosodd ar raglen One Man and his Dog.
"Dwi wedi bod wrthi ers dros hanner can mlynedd ac un o'r sioeau cyntaf oedd mewn cae yma yn Nannerch.
'Dwi wedi ennill y national ddwywaith ac wedi ennill yr international unwaith a dod yn ail ddwywaith.
'Dwi wedi trafeilio dros y wlad yn dysgu pobl a dysgu'r c诺n a dwi wedi bywyd da iawn. Nid ydwyf wedi gwneud arian ond wedi cael bywyd bendigedig.
Mae'n rhaid i chi wneud yn dda mewn sioe genedlaethol fel hyn neu dyw pobl ddim yn eich gweld chi.
Alle chi fod yn gystadleuydd da yn lleol, ond mewn lle fel hyn mae pawb eisiau eich gweld.
Mae nifer o Americanwyr yma heddiw, rhai o'r Iseldiroedd a gwledydd eraill ac maent wrth eu boddau yn gweld rhywun yn gwneud yn dda.
Does dim gwell hobi na rhedeg sioe gwn. Rydych yn cyfarfod gymaint o bobl o dros y byd i gyd."