|
|
|
Addysg uwch a phellach Ydych chi'n chwilio am wybodaeth am golegau neu gyrsiau yng ngogledd orllewin Cymru? Am fentro n么l i fyd addysg neu chwilio am adnoddau arlein? Cymerwch gip ar y gwefannau hyn. |
|
|
|
http://www.bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Cymru ym Mangor yn cynnig amrywiaeth mawr o gyrsiau gradd ac 么l-radd i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn ogystal 芒 chyrsiau i'r gymuned yn yr Adran Dysgu Gydol Oes. Mae'r safle yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am bob agwedd ar fywyd prifysgol, yn staff a myfyrwyr, darpar-fyfywyr ac ymwelwyr, a manylion am y cyfleusterau sydd ar gael at ddefnydd y gymuned.
http://www.harlech.ac.uk/
Ymunodd Coleg Harlech 芒 Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) yn 2001. Mae'r sefydliad yn cynnig addysg i oedolion yn y gymuned yn ogystal 芒 chyrsiau preswyl arbennig i oedolion sy'n teimlo nad oedd y system addysg draddodiadol yn addas iddyn nhw.
http://www.meirion-dwyfor.ac.uk/
Mae'r coleg addysg bellach yma ar bedwar safle bellach - yn Nolgellau, Pwllheli, Porthmadog a Glynllifon ger Caernarfon. Ymhlith y cyfadrannau mae busnes a hamdden, gweithgareddau ar y tir, y dyniaethau ac addysg barhaus. Rhestrir yr amrywiaeth o gyrsiau ar eu safle fywiog.
http://www.menai.ac.uk/
Mae tua 6,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r coleg naill yn y safleoedd mwyaf ym Mangor a Llangefni neu mewn canolfannau eraill yng Nghaernarfon a Chaergybi. Yn ogystal 芒 mynegai defnyddiol i'r cyrsiau, yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael, mae safle'n cynnig cysylltiadau ag amrywiol gynlluniau a fforwm drafod aml-gyfrwng.
http://www.llandrillo.ac.uk
Yn Llandrillo-yn-Rhos mae prif safle'r coleg ond mae Coleg Llandrillo hefyd yn cynnig cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau safon gradd mewn safeoedd eraill gan gynnwys Llandudno a'r Rhyl. Mae holl fanylion y cyrsiau, yr adnoddau a'r safleoedd ar y wefan.
http://www.cunw.ac.uk/cymraeg/
Bwriad y bartneriaeth yma o 10 coleg addysg bellach yng ngogledd Cymru ydy ei gwneud yn haws i bobl gael addysg yn y gymuned trwy gynnig cyrsiau mwy hyblyg a chyrsiau rhan-amser, sy'n addas i anghenion y gymuned leol.
http://www.undeb.bangor.ac.uk/umcb/
Mae Learndirect yn cynnig cyrsiau ar-lein ar nifer o wahanol bynciau. I gael lle ar y cwrs rhaid mynd i un o ganolfannau Learndirect yn Llandudno neu Gaergybi ond ar 么l hynny gellir dilyn y cwrs naill mewn canolfan yn nes at adref neu yn y cartref.
http://www.popethcymraeg.com/
Mae'r mudiad hwn o Ddinbych yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg ar draws sir Conwy, i ddechreuwyr ac i fyfyrwyr uwch, mewn nifer o ganolfannau trefol a phentrefol. Maen nhw hefyd yn rhedeg clwb Cymraeg yn Hen Golwyn sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer yn anffurfiol.
http://www.bangor.ac.uk/ced/cymraeg/index.htm
Mae'r ddalen gartref ddestlus hon yn eich arwain at yr holl wybodaeth am ddysgu gydol oes ym Mangor. Mae'r cyfarwyddiadau wrth fynd drwy'r safle yn glir ac yn cynnig gwybodaeth am y cyrsiau a sut mae talu amdanyn nhw.
Oes arnoch chi angen cysylltu 芒'r Cyngor? Cliciwch yma er mwyn gweld ein rhestr o wefannau'r gwasanaethau cyhoeddus.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|