Dan Groen y Ddrama
Yn yr arholiad llafar Uwch Gyfrannol Cymraeg
bydd angen i chi:
- drafod y ddrama mewn dyfnder
- cyfeirio at olygfeydd penodol
- defnyddio dyfyniadau
- dod i gasgliadau aeddfed a threiddgar.
Ydych chi'n cytuno gyda'r gosodiadau canlynol?
Pa enghreifftiau penodol o'r ddrama fyddech chi'n eu trafod er mwyn cyflwyno'r gosodiadau yn yr arholiad?
Sut fyddech chi'n ehangu a datblygu eich atebion?
Ceir darlun cignoeth yn Y Twr sy'n dangos:
- ein tueddiad i wisgo ryw fasg yn enwedig
yn ein hieuenctid
- yr elfen o dwyll ac o ragrith mewn cymdeithas
yn arbennig yn yr ail act
- ein diffyg gallu ni i gyfathrebu 芒聮n
gilydd. Hyn yn cael ei gyfleu yn yr act olaf wrth i聮r ddau fod mor awyddus i siarad, ond nid i wrando
ar ei gilydd
- gallu聮r dramodydd i adleisio聮n
grefftus yr hyn a ddywed cymeriad mewn un act drwy ei ail adrodd, gan amrywio arno, yn yr act nesaf. Gellir
dadlau ei fod yn gwneud hyn er mwyn darlunio fel y mae聮r hanesyn yn newid yn nhreigl amser;
e.e. ysfa聮r gwr am ddyrchafiad a聮i ymgais i ymuno 芒聮r Seiri
- cartref digrefydd ac aelwyd lle ceir llawer
o wrthdaro rhwng y gwr a聮r wraig
- nad oes ganddynt wir werthoedd, yn hytrach
maent yn perthyn i fyd cystadleuol y dosbarth canol, pobl gystadleuol a phobl sy'n feirniadol o bawb a
phob un
- nad oes fawr o bwrpas yn eu bywydau gwag.
Gan nad yw'n ymddangos fod llawr o bwrpas i'w bywydau, efallai bod y ddrama聮n trafod pwrpas bodolaeth
dyn ar y ddaear
- dyhead neu nod bywyd. Rheswm y llanc am
ddod i聮r twr yw dringo i聮r top. Y twr yn cynrychioli bywyd a gall dringo i聮r top feddwl
naill ai heneiddio a marw neu gyrraedd y brig yn y byd cystadleuol
- absenoldeb cariad yn y briodas ac o ganlyniad
ceir ffraeo dros bethau dibwys a rhwystredigaethau
- gwirioneddau mawr am fywyd. Mae'r ystafell
yn aros yn ddigyfnewid o act i act, y cymeriadau聮n heneiddio, ond eu hanian heb newid.
"Run peth fydda i聟 Run peth fyddi di聟"
Beth am yr Iaith?
- Rhythmau garw iaith lafar Deiniolen, iaith
bobol gyffredin ysgrifennu weithiau聮n ffonetig sydd yn Y Twr:
"Hidia befo be ddeudodd hi."
"mi oedd hi di cachu bans ar neb i nhroi i."
"Na ti rech 聮lyb os buo na un rioed"
"Doedd o ddim yn mynd i wneud pric pwdin ohona i."
"Y llipryn diawl聟Stwffia dy job medda fi聟Stwffia dy blydi job."
A yw'r iaith yn cyfoethogi'r ddrama?
Cofiwch y bydd hawl gan yr arholwr holi:
- am agwedd yr awdur at fywyd fel y聮i
cyflwynir trwy ei waith lle bo hynny聮n bwrpasol
- am gynhyrchu golygfa. Dull ymarferol o
wneud hynny fyddai holi pa gyfarwyddiadau fydden nhw聮n ei roddi i actorion mewn golygfa arbennig.
|