大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Cynllun Marcio yr Arholiad Llafar

Edrychwch ar y pwyntiau canlynol er mwyn gweld sut i ennill marciau yn yr arholiad llafar Uwch Gyfrannol.

Cofiwch fod yr arholiad llafar cyfan yn cyfrif am:

  • 40% o farciau yr Arholiad Uwch Gyfrannol Cymraeg
  • 20% o farciau yr arholiad Uwch.

Byddwch yn trafod y ddrama mewn grwp o flaen arholwr allanol, ac asesir eich defnydd o'r iaith lafar a'ch gallu i ymateb i'r testun.

Caiff marc o 10 ei neilltuo i聮ch defnydd o iaith lafar yn ystod yr arholiad a chaiff marc o 30 ei neilltuo i聮ch ymateb i'r ddrama - cyfanswm o 40 marc.

Defnyddiwch y meini prawf ar gyfer Gradd A neu Gradd C er mwyn penderfynu sut i wella eich perfformiad chi.

Gradd A Uwch Gyfrannol

Bydd disgwyl i chi ar radd A wrth ateb:

  • gydadweithio ag eraill yn aeddfed
  • ymestyn dadl yn ddeallus
  • ymateb ac ymresymu聮n berthnasol acyn gryno ac mewn dyfnder
  • arddangos adnoddau iaith cyfoethog
  • cyfleu syniadau a dadleuon cymhleth yn glir ac yn groyw
  • arddangos hyder a brwdfrydedd wrth fynegi barn a datblygu trafodaeth

Bydd rhaid ennill rhwng 8-10 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd A

Yn y cynnwys bydd angen i chi:

  • arddangos gwybodaeth drylwyr o聮r ddrama
  • crynhoi ffeithiau perthnasol yn effeithiol, eu cymhwyso a聮u cyflwyno聮n gydlynus
  • arddangos dealltwriaeth dda o gysyniadau聮r testun
  • dadansoddi a dehongli聮r testun yn dda
  • datblygu ac ehangu syniadau聮n drefnus a chydlynus
  • cyflwyno tystiolaeth drwy gyfeirio at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau聮n effeithiol
  • cyflwyno dadleuon gwreiddiol ac ehangu arnynt
  • dadansoddi arddull yn effeithiol a chyfeirio'n ddeallus at y technegau a ddefnyddir
  • defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn effeithiol

Bydd rhaid ennill rhwng 24-30 marc wrth ymateb i destunau cyn ennill gradd A

Gradd C Uwch Gyfrannol

Bydd disgwyl i chi ar radd C wrth ateb:

  • gydadweithio ag eraill yn hyderus
  • llwyddo i gynnal dadl
  • ymateb yn berthnasol
  • arddangos gafael gadarn ar yr iaith lafar
  • cyfleu syniadau a dadleuon yn glir
  • mynegi barn a chyflwyno rhesymau yn gyson

Bydd rhaid ennill 5 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd C

Yn y cynnwys bydd angen i chi:

  • arddangos gwybodaeth o聮r ddrama gyda manylder ar adegau
  • crynhoi rhai ffeithiau perthnasol a聮u cyflwyno聮n gywir
  • arddangos dealltwriaeth foddhaol o gysyniadau聮r testun
  • dadansoddi a dehongli聮r testun yn foddhaol
  • datblygu ac ehangu聮r prif syniadau聮n drefnus
  • cyfeirio weithiau at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau addas
  • trafod agweddau ar arddull a chyfeirio at dechnegau a ddefnyddir.
  • defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn eithaf cyson

Bydd rhaid ennill rhwng 15-19 marc, wrth ymateb i destunau, cyn ennill gradd C

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy