

Beth yw Drama?
Cyn
astudio unrhyw ddrama mae'n bwysig eich bod yn dod i gasgliadau ynglyn 芒'r hyn yw drama.
Ydych chi'n cytuno gyda'r diffiniadau canlynol
gan feirniaid llenyddol ynglyn 芒 hanfodion drama dda? Gallech ddefnyddio rhai o'r dyfyniadau hyn
yn eich arholiad llafar - i ba raddau mae'r dyfyniadau yn berthnasol i ddrama Y Twr?
"Heb wrthdaro nid oes drama."
Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth |
"Nid oes drama heb bobl. Canolbwynt
pob gweithred ddramatig a phob gwrthdaro yw perthynas pobl 芒聮i gilydd." Beirniad Anhysbys |
"Yn gyffredinol mae dramodwyr modern
wedi ceisio herio rheswm, ein harferion cymdeithasol a聮r hyn a gymerwn yn ganiataol yn foesol a materol."
Ioan Williams - darlith ar lafar Yn Nant Gwrtheyrn |
"Mae聮n un o amodau crefft dramodydd
da ei fod yn dyfeisio personoliaethau yn hytrach na chymeriadau 聳 mewn geiriau eraill fod ei bobl
yn bobl gymhleth."
Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth
|
"Dangos dyn fel y mae yn y byd hwn,
yn ei drafferthion, ei ychydig wynfyd, ei ansicrwydd, ei ofn a聮i ofid, ei chwerthin a聮i ysmaldod,
ei flinder, ei dranc; dyna fusnes y ddrama yn gyffredin." Saunders Lewis, Meistri a'u Crefft |
"Nid rhyddiaith llyfr yw iaith rydd
drama. Y mae rhythmau clywadwy a miwsig llafar o angenrheidrwydd yn ofynnol yn y theatr."
Saunders Lewis, Tri Dramaydd Cyfoes |
听
|