Clustfeinio ar yr
Arholiad Llafar
1. Sut rydych chi聮n ymateb i聮r
olygfa garu ar ddechrau聮r Act Gyntaf?
Hefyd, ystyriwch y pwyntiau crynhoi canlynol a dewch i gasgliadau:
- Gwraig a聮r reddf famol yn gryf ynddi
yw mam y llanc ac nid yw am iddo dyfu nac am ei golli i聮r ferch. Hyn sy聮n esbonio efallai pam
ei fod ef yn ystyried rhyw fel peth budr. Canlyniad hyn yw fod y ferch yn ei wawdio a聮i annog i fynd
adref i gysgu gyda聮i fam
"Gysgi di hefo neb arall聟"
"A tasat ti, fasat ti ddim yn gwbod be i neud聟"
"Dw i ddim yn meddwl bod gin ti un hyd yn oed."
Ei ymateb ef yw rhoi clustan iddi ar draws ei boch.
- Y trais geiriol a chorfforol yn dangos
nad oes fawr o gariad rhwng y ddau. Y ferch am fodloni ei blys corfforol ei hun ac anwybyddu ofnau聮r
bachgen. Ef ar y llaw arall yn meddwl am ei ofnau heb ystyried ei hanghenion hi. Adeg y storm yn ei hofn
aiff i聮w freichiau. Maent yn cydio yn ei gilydd nifer o weithiau yn y ddrama, ond gellir dadlau mai
gweithred arwynebol ydy聮r cydio.
- Mwynhad y funud sy聮n bwysig iddyn
nhw ac nid yw'r cydio yn dynodi cariad. Maen nhw聮n parhau i gweryla wrth iddo ef ei chroesholi am
ei phrofiadau rhywiol cynt, sy聮n dangos ei eiddigedd, ei genfigen a聮i hunanoldeb.
- Nid yw聮r llanc yn gallu trin a thrafod
y dyfodol gyda聮r ferch, ias a chyffro聮r presennol sy聮n bwysig iddo ef. Hoffa feddwl ei
fod yn feistr ar ei ffawd ei hun.
- Darlunir y gagendor rhwng y ddau yn yr
ail act wrth iddi hi hel atgofion am eu mab Gwyn, ond nid yw ef yn gwrando, yn hytrach mae聮n ymboeni
am ei adroddiad ar Rio Tinto.
- Ni ddiflannodd y gwrthdaro rhyngddynt
yn y drydedd act chwaith.
"Wnest ti erioed alw 聭cariad聮 arna i."
Cwestiwn arall:
听
|