大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Ysgrifennu Creadigol - Creu Portread

Lluniwch bortread manwl o un o'r cymeriadau yn Y Twr.

Cofiwch, bydd angen i chi:

  • ddod 芒聮r cymeriad yn fyw yn eich gwaith
  • dewis a dethol yr hyn a wnaeth y cymeriad, gan ddewis y rhai pwysicaf a dangos eu harwyddoc芒d
  • cyfleu yr hyn sydd ymhlyg yng ngeiriau聮r cymeriad a dewis y rhai mwyaf arwyddoc芒ol
  • treiddio i mewn i feddwl y cymeriad a dod 芒聮i bersonoliaeth yn fyw yn y portread
  • dadansoddi cryfderau a gwendidau聮r cymeriad
  • cyfleu yr hyn sydd yn bwysig iddo mewn bywyd
  • sicrhau bod datblygiad yn y portread

Efallai y gellwch gasglu gwybodaeth am ei arferion a hyd yn oed ei bryd a gwedd, gan ddefnyddio eich dychymyg i gwblhau聮r darlun.

Ateb Enghreifftiol

Portread - Y Ferch yn y ddrama (detholiad o'r gwaith)

O dan yr holl hyder a'r siarad swrth, mae hi'n gallu bod yn ansicr ac yn gallu teimlo o dan fygythiad. Efallai mai dyma pam y cyhuddodd hi y llanc o gael affair. Efallai hefyd mai dyma'r rheswm pam y cafodd hi rai breuddwydion amheus:

"Ro'n i聮n rhedeg trwy'r cae 镁d 聮ma ar 么l i芒r fach yr ha聟Weithiau o聮n i聮n ei cholli hi聟ond yn fuan iawn yn dwad o hyd iddi bob tro... dyma fi'n ei gweld hi. O'dd hi wedi glanio ar wyneb y person ma... A dyma fi聮n 'mestyn amdani'n ara bach... ac mi ces i hi..., o'n i'n teimlo hi'n cosi cledar 聮y llaw, ond... fedrwn i ddim tynnu nwylo ata'n n么l. A dyna pryd ddigwyddodd o mi rois i un plwc sydyn a mi ddaeth croen un ochr i gyd yn rhydd... plisgio i ffwrdd nes oedd yna ddim byd ar 么l ond esgyrn coch... a thylla gwag du."

Mae gan y freuddwyd yma arwyddoc芒d arbennig. Efallai fod yr i芒r fach yr ha yn symbol o bethau o fewn ei bywyd. Ei bod trwy gydol yr amser yn cwrso rhywbeth; rywbeth newydd, rhywbeth mwy, rhywbeth gwell ond pan o'r diwedd y daw o hyd iddo mae聮n troi聮n chwerw. Yn ogystal 芒 hyn mi all yr wyneb fod yn arwydd o'r bobl sy'n rhan o'i bywyd hi. Y bobl yr oedd hi yn eu caru ac yn ymddiried ynddynt, ond eto mae聮n darganfod eu bod nhw'n ddau wynebog fel rhywun yn gwisgo mwgwd. Gallent hefyd fod yn symbol o'r bobl y mae'n eu caru sydd wedi ei gadael hi, a'r enghraifft fwyaf amlwg o hyn yw ei mam. Efallai ei bod hi'n poeni y byddai'r un peth yn digwydd i'r llanc.

"Mae merch yn gwybod yn reddfol sut a be i wneud - amgenach na dyn"

Cred fod hyn yn wir nid yn unig wrth ymwneud 芒 materion rhywiol ond hefyd gall synhwyro pryd ydyw'r amser cywir i adael yr ystafell yn y twr, pryd i symud ymlaen i gyfnod arall, cyfnod mwy datblygedig o fewn eu bywydau. Dwed yn aml:
"Dyma'n hamser ni"
Defnyddia聮r grisiau hefyd er ei mantais ei hun, er mwyn cael rheolaeth dros y llanc ac er mwyn bod mewn sefyllfa o bwer. Cred mewn rhai o ofergoelion ei mam; arferion fel troi pob drych tuag at y wal pan fydd storom. Mi allai hi hefyd gael ei dylanwadu gan erthyglau papur newyddion byd eang. Dyna'r rheswm y stopiodd hi gymryd y bilsen oherwydd iddi ddarllen y gallai fod yn niweidiol i聮r corff gan achosi afiechydon, a chanlyniadau hyn oedd iddi ddarganfod ei bod yn feichiog.
Mae聮n amlwg ei bod hi'n ferch hynod o emosiynol ac egwyddorol a chafodd hyn ei gyfleu wedi i聮r llanc glywed ei bod yn feichiog ac roedd am iddi gael erthyliad. Gwrthododd.

Barn yr Arholwr

Cynnwys
Dangosodd y gallu i:

  • greu darlun clir o聮r cymeriad
  • dod 芒聮r cymeriad yn fyw drwy fynd o dan ei groen
  • dangos yr hyn sydd ymhlyg yng ngeiriau聮r cymeriad
  • datblygu聮r portread

Iaith ac Arddull
Dangosodd y gallu i ddefnyddio:

  • arddull portread
  • tafodiaith y cymeriad wrth gynnwys deialog neu ddyfyniad o聮i eiddo
  • iaith grefftus a chywir

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy