大象传媒


Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Ysgrifennu Creadigol - Cyfres o Ymsonau

Lluniwch gyfres o ymsonau un o'r cymeriadau yn y Twr, sy'n adlewyrchu'r gwahanol gyfnodau ym mywyd y cymeriad.

Cofiwch, bydd angen i chi:

  • dreiddio i mewn i feddwl y cymeriad a dod 芒聮i bersonoliaeth yn fyw yn yr ymson drwy ei eiriau neu ei geiriau
  • eich bod yn datgelu teimladau dyfnaf y cymeriad
  • dangos y gwrthdaro rhyngddo 芒聮r cymar arall
  • cyfleu yr hyn sydd yn bwysig iddo neu iddi hi mewn bywyd
  • ystyried cyflwyno cyfres o ymsonau a聮u gosod ynghanol y golygfeydd pwysicaf er mwyn dangos eu harwyddoc芒d
  • sicrhau bod datblygiad yn yr ymsonau
  • defnyddio聮r person cyntaf e.e. y rhagenwau 聭fy聮 a 聭fi聮 a hefyd berfau fel 聭Dw i聮 a 聭Cerddes i聮

Ateb Enghreifftiol

Peth braf yw bod yn ifanc, yn gallu rhedeg i fyny'r grisiau. Ydw, dw'i yma... o'r diwadd, dw'i yma yn y twr. Dw'i mor hapus ac yn llawn cariad tuag ato fo... "Be tasa rhywun yn dwad?" 0, be' sy'n bod arno fo? Pam na fedrith o ymlacio ychydig... i 'ngharu i? A phwy fydde'n dod yma ta beth? Pam na wneith o fel dw i'n dweud wrtho i wneud? Fi sy'n rheoli'r sefyllfa yma, a neb arall.
BANG! 0 na! Storm! Dw i'n cas谩u storm. 0, dw'i am fynd adra... "Di stormydd
ganol ha byth yn para'n hir", medda fo. 0, diolch byth ei fod o yma. Dw i'n teimio'n ddiogel rwan. Edrychith o ar f 聮么l i. Neith o ddim dweud celwydd wrtha i. Ddim fel fi a mam... yn dweud celwydd... yn chwara聮r g锚m... yr holl ffordd tan y diwadd. Dweud wrthi fod popeth yn iawn... y gallwn fynd ar wylia'r ha nesa, ond yn gwybod y bydda hi ddim yma ha' nesa. Ond ddim fel 'ny fydd hi efo fo! Dim twyllo!

* * * * * * * * * *

0, Ile mae o? Tri chwartar awr yn hwyr. Gyda'r ast. Sali Pritchard eto? 0, mi gaiff o bryd o dafod pan ddaw o adra...
"Sali Pritchard... ddudodd hi ddim mo'r stori arall debyg?" medda fo
0, sut allwn i fod wedi bod mor dwp? Doedd ganddo fo ddim diddordab ynddi hi ... TR脢N! Ma' rwbath neis mewn swn tr锚n... yn bell yn y nos... swn tr锚n yn llawn o bobl ifanc yn mynd ar anturiaethau...

"Pwy ddysgodd di?" Y? Be mae'r twpsyn 'ma'n 'i ddweud rwan? Be' ma聮 nhw聮n ddeud am nyrsys? Be' sy'n bod ar y dyn yma? ... Be' o'dd hwnna? Dyna'r swn eto. Yn dod o gyfeiriad y grisiau... Pam 'dan ni yma?... 0 ble duthon ni?... 0, dyma fo'n cwyno eto, ond ma'n rhaid i ni fynd i fyny ryw dro on'd oes? Dw i'n disgwl ei fabi, mae o 'di addo trafod, ond mae o lawar rhy hwyr i hynny. Ma'r babi yma'n rhan ohona i, ac mae'n rhaid i ni ddringo'r grisiau troellog yma. Dringo gyda'n gilydd.

* * * * * * * * * *

"Welis i'r rioed darth yma o'r blaen"... Na finna... Dw i'n gwybod taw arwydd yw hyn fod rhaid i mi ei adael o fynd... ond ddim rwan! Rwy'n ei garu o ormod. Cheith o ddim mo 'ngadael i ! Mae'n gorwedd yn y gwely yna mor ddifywyd a llwyd. Ei fywyd yn cael ei sugno ohono fo. Ei getyn yn diffodd. Rwy聮n cas谩u hyn... cas谩u gwylio'r fflam fach o fywyd yn diffodd, wrth i mi ei fwydo... fel babi! "0... yn bendant cyn yr ha'"... a dyma fi eto聮n chwara聮r g锚m, yn cuddio'r gwir wrtho, wrth s么n am fynd i Toromolinos ha' nesa. Ma' bywyd mor greulon!
"Dim ond grisia, falla... dringo am byth"... ond ma' bownd o fod gwobr on'd oes? Ma' rhaid bod rwbath i'w gael!... 0 diar, mae'n cael pwl gwael o beswch. Rwy聮n cas谩u gwylio rhywun yn diodda ond yn methu gwneud dim amdano... "Dim iso diodda... myta'n fyw"..."Injection". ... Addewid yw addewid, a dw'i ddim iso diodda yn ei weld o'n diodda... mi fydd popeth yn well... ie, cysga di, cysga di 'nghariad i!

Barn yr Arholwr

Cynnwys:
Dangosodd y gallu i:

  • greu darlun clir o聮r cymeriad fel person ifanc / canol oed / hen
  • dod 芒聮r cymeriad yn fyw, mynd o dan ei groen ac uniaethu聮n llwyr ag ef
  • cyfleu teimladau dyfnion y cymeriad
  • datblygu聮r ymson

Iaith ac Arddull:
Dangosodd y gallu i ddefnyddio:

  • arddull ymson a thafodiaith y cymeriad
  • person cyntaf y ferf 聭dw i, welais i聮 a聮r rhagenw 聭fi聮
  • iaith grefftus a thafodieithol gywir

大象传媒
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy